Morgan Ridler: Calonnau teulu 'wedi rhwygo'

Morgan Ridler
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Morgan ddeiagnosis o fath prin o ganser pan oedd yn ddyflwydd

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu bachgen pedair blwydd oed wedi cael gwybod nad yw’r driniaeth mae’n ei gael ar gyfer canser yn gweithio.

Cafodd Morgan Ridler o Orseinon ger Abertawe ddiagnosis o ganser prin iawn pan oedd yn ddyflwydd.

Daeth Morgan i sylw’r byd ar ôl i’w fam Natalie ddiolch yn gyhoeddus i fyfyriwr nyrsio mewn ysbyty yn Birmingham a ddysgodd ychydig o Gymraeg i staff er mwyn ei gysuro.

Yn ôl tad Morgan, Matt, mae ei galon “wedi ei rwygo” gan y newyddion.

Fel teulu maen nhw’n awyddus i sicrhau fod gweddill bywyd Morgan yn un hapus ac mor gyfforddus ag y bo modd.

Disgrifiad o’r llun,

Y nodiadau gafodd eu gwneud gan y nyrs wrth ochr gwely Morgan yn yr ysbyty

Yn yr hydref roedd Morgan yn glaf yn Birmingham, ac fe geisiodd y nyrs ddysgu rhywfaint o eiriau Cymraeg i staff eraill er mwyn cysuro Morgan.

Ar ôl deall bod Morgan yn siarad Cymraeg gyda'i fam, fe wnaeth y nyrs oedd yn edrych ar ei ôl fynd ati i ysgrifennu ymadroddion Cymraeg ar y nodiadau ger ei wely, fel bod modd eu defnyddio i geisio'i wneud yn fwy cyfforddus.

Er iddo wella ers hynny, bellach, mae tiwmorau Morgan wedi tyfu a’r meddygon wedi dweud wrth ei rieni am baratoi ar gyfer gofal diwedd oes.

Disgrifiad,

Yn yr Hydref, sonioodd Natalie Ridler am sut ei bod "mor ddiolchgar" i'r nyrs am yr hyn a wnaeth i Morgan

Paratoi at ddiwedd gofal oes

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Matt:

“Mae hyn yn rhywbeth nad oeddwn i erioed eisiau ei ysgrifennu nac yn ei ddymuno i unrhyw enaid arall.

“Yn fyr, [byddant] yn dweud wrthym nad oes unrhyw driniaeth wedi gweithio i Morgan ac y bydd yn cael ei drosglwyddo i ofal lliniarol a diwedd oes maes o law.

“Mae fy rhyfelwr llygadlas bach wedi brwydro mor galed, ac rwy’n teimlo bod fy nghalon wedi’i rhwygo ond rydw i eisiau iddo gael atgofion hapus a pheidio â deffro bob dydd mewn poen a heb unrhyw ansawdd yn ei fywyd.”

Roedd Morgan yn disgwyl cael rownd arall o gemotherapi, ond dywedodd meddygon y dylai ansawdd ei fywyd fod yn flaenoriaeth nawr.

"Ar hyn o bryd, dyw'r un ohonom ddim yn gwybod beth yw’r prognosis na pha mor hir, a wyddon ni ddim ar hyn o bryd ydy e’n rhywbeth ry’n ni isie’i wybod mewn gwirionedd," meddai tad Morgan.

Ychwanegodd nad oedd ganddo unrhyw syniad sut i dorri'r newyddion i chwaer iau Morgan.

“Rydyn ni eisiau rhoi atgofion hapus i Morgan a Rhiannon, yn ogystal ag i ni fel rhieni, ac eisiau mynd ar deithiau a diwrnodau allan gyda’n gilydd, cyn belled ag y mae iechyd Morgan, amser ac arian yn caniatáu,” meddai.

Mae rhieni Morgan eisoes wedi dechrau elusen yn enw eu mab, Morgan’s Army, dolen allanol er mwyn codi arian i deuluoedd sydd á phlant wedi cael diagnosis o ganser.

Pynciau cysylltiedig