12 newid i dîm Cymru yn erbyn De Affrica a Tom Rogers wedi'i anafu

Tom RogersFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd Tom Rogers - a sgoriodd dri chais yn erbyn Seland Newydd - yn chwarae yn erbyn De Affrica yn dilyn anaf i'w goes

  • Cyhoeddwyd

Mae hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, wedi gwneud 12 newid i'r tîm fydd yn chwarae yn erbyn De Affrica yng ngêm olaf Cymru yng nghyfres yr Hydref ddydd Sadwrn.

Dydy'r asgellwr Tom Rogers - sef y Cymro cyntaf i sgorio tri chais yn erbyn Seland Newydd - ddim ar gael ar ôl anafu ei goes yn ystod y golled y penwythnos diwethaf.

Roedd yn rhaid i Tandy wneud sawl newid arall i'r tîm gan fod y gêm yn digwydd y tu allan i'r ffenestr swyddogol ar gyfer gemau rhyngwladol.

Mae hynny'n golygu fod 13 o aelodau'r garfan wedi dychwelyd i'w clybiau yn Lloegr a Ffrainc.

Mae'r rhestr honno'n cynnwys Tomos Williams, Louis Rees-Zammit, Adam Beard, Rhys Carre a Dafydd Jenkins.

Ond, mae Aaron Wainwright yn dychwelyd i'r garfan wedi iddo anafu ei glun.

Aaron Wainwright Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Wainwright (chwith) yn dychwelyd i'r garfan wedi iddo anafu ei glun cyn y gêm yn erbyn y Crysau Duon

Mae colli Tom Rogers a Louis Rees-Zammit yn golygu mai Ellis Mee a Rio Dyer fydd yn chwarae ar yr esgyll.

Y canolwr Joe Roberts sy'n cymryd lle Max Llewellyn, a Kieran Hardy sy'n cymryd lle Tomos Williams fel mewnwr.

Bydd chwe chwaraewr - y cefnwr Blair Murray, y maswr Dan Edwards, y mewnwr Kieran Hardy, y bachwr a'r capten Dewi Lake, y prop pen tynn Keiron Assiratti, a'r blaenasgellwr Alex Mann - yn chwarae rhan yn eu pedwaredd gêm o'r gyfres.

Hyd yma, mae Cymru wedi colli yn erbyn yr Ariannin, 18-52, wedi curo Japan o bwynt gyda chic yn y munud olaf i ennill 24-23, ac wedi colli yn erbyn Seland Newydd, 26-52.

De affricaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae De Affrica wedi ennill pob gêm yn ystod Cyfres yr Hydref - gan gynnwys buddugoliaeth o 24-13 yn erbyn Iwerddon y penwythnos diwethaf

Y tîm yn llawn

Blair Murray, Ellis Mee, Joe Roberts, Joe Hawkins, Rio Dyer, Dan Edwards, Kieran Hardy, Gareth Thomas, Dewi Lake (capt), Keiron Assiratti, Ben Carter, Rhys Davies, Taine Plumtree, Alex Mann, Aaron Wainwright

Eilyddion: Brodie Coghlan, Danny Southworth, Christian Coleman, James Ratti, Morgan Morse, Reuben Morgan-Williams, Callum Sheedy, Ben Thomas

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig