'O'n i'n crio, a Mam hefyd!' - Cymraes cyn nofio ar lwyfan byd-eang

Ela Letton-Jones ym mhwll nofio CaernarfonFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd Ela Letton-Jones yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Para-Nofio y Byd am y tro cyntaf yn ei gyrfa

  • Cyhoeddwyd

"O'n i'n crio, a mi oedd Mam yn crio hefyd!"

Mi oedd cael ei dewis i fod yn rhan o dîm Prydain ar gyfer Pencampwriaethau Para-Nofio y Byd yn Singapore fis yma yn eiliad fythgofiadwy i Ela Letton-Jones.

Mi fydd y Gymraes 18 oed o'r Felinheli yng Ngwynedd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd am y tro cyntaf, a hynny mewn pum ras.

"Mae'n golygu lot. Doeddwn i ddim wedi disgwyl y peth o gwbl, a dwi'n really edrych ymlaen i rasio rhai o nofwyr gorau'r byd," meddai Ela.

"'Oedd o'n really sbesial gallu clywed y cyhoeddiad gyda Mam yna hefyd."

Disgrifiad,

Mae Ela Letton-Jones ar y ffordd i Bencampwriaeth Para-Nofio y Byd yn Singapore

Fe ddechreuodd Ela nofio pan oedd yn bump oed, cyn mynd yn ei blaen i ymuno â Chlwb Nofio Caernarfon.

Yn ystod ei harddegau fe gafodd ei dewis i fod yn rhan o garfanau Nofio Cymru a Nofio Gwynedd.

"Nes i ddechrau gwersi nofio achos o'n i 'efo diddordeb mewn symud a chadw'n heini. Nath o ddechrau dod yn fwy serious wedyn.

"Nes i'm sylwi y byswn i'n gallu nofio llawn amser tan flwyddyn dwetha'.

"Dwi dal heb brosesu fy mod i'n gallu just nofio. Dwi'n falch fod gen i y balans o allu astudio'n y brifysgol a nofio llawn amser hefyd."

Nofio gyda nam golwg

Mae gan Ela nam ar ei golwg sy'n golygu ei bod yn cystadlu yn y categori S12 pan yn nofio.

"S12, mae 'na dri categori i bobl gyda nam golwg. S11 ydi'r mwyaf eithafol ac S13 ydi'r lleiaf eithafol, a dwi yn y canol," ychwanegodd Ela.

"Mae'n fy effeithio o ddydd i ddydd, ond i fod yn onest dwi wedi arfer efo fo erbyn hyn. Dwi'm yn gwybod dim yn wahanol.

"Yn y pwll dwi wedi darnganfod ffordd i allu nofio. Dwi'n cyfri fy strokes i gyd cyn cyrraedd y wal fel fy mod i'n gwybod lle mae o.

"Gen i strategau dwi'n eu defnyddio i wneud yn siwr fy mod i'n nofio y gorau dwi'n gallu."

Ela Letton-Jones yn ystod sesiwn hyfforddi ym mhwll nofio CaernarfonFfynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd Ela yn cystadlu mewn pum ras wahanol yn Singapore

Mae Ela yn treulio lot o amser yn hyfforddi bob wythnos, yn aml yn deffro fel ei bod hi'n y pwll erbyn 05:00.

Pan mae hi adref yng Nghymru mae hi'n defnyddio'r pwll yng Nghanolfan Byw'n Iach Arfon yng Nghaernarfon.

"Dwi'n nofio 18 awr yn y dŵr, a dwi'n gwneud dau sesiwn strength and conditioning, felly mae o'n 20 awr yr wythnos."

Targedu Gemau Paralympaidd 2028

Mae gan Ela ddigon ar ei phlât wrth iddi baratoi ar gyfer Pencampwriaeth y Byd, sy'n dechrau ar 21 Medi.

"Mi fyddai'n cystadlu yn y 100m dull cefn ar y diwrnod cyntaf, 100m dull pili pala ar yr ail ddiwrnod, wedyn 50m dull rhydd, 100m dull rhydd a 200m dull cymysg i orffen.

"Dull cefn ydi'r un dwi orau ynddo."

Er yr amserlen brysur sydd o'i blaen hi yn Singapore - mae hi'n barod yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae hi'n gobeithio dilyn yn ôl-traed Medi Harris a Mari Davies - dwy arall sydd wedi cael eu hyfforddi gan Nofio Gwynedd yn y gorffennol - a chystadlu dros Gymru yn Glasgow y flwyddyn nesaf.

"Dwisio gwella fy amseroedd i gystadlu efo rhai o oreuon y byd, a dwi'n sicr isio cynrhychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2026 achos dwi'n really falch o fod yn Gymraeg.

"Y gôl ydi mynd i'r Gemau Paralympaidd yn Los Angeles yn 2028."

Pynciau cysylltiedig