Cydweithio ar gynllun ffermio yn 'batrwm i'r dyfodol'

Mae Huw Irranca-Davies yn gobeithio y bydd y patrwm o gydweithio gyda byd amaeth yn parhau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn dweud bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn "batrwm ar gyfer dyfodol" o ran cydweithio rhwng y llywodraeth a'r diwydiant amaeth.
Wrth siarad ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, dywedodd Huw Irranca-Davies - sydd hefyd yn Ysgrifennydd dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig - eu bod bellach "ar lwyfan newydd ac yn troi tudalen lân".
Ar ôl 15 mis o drafodaethau caled fe fydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael ei gyflwyno ar 1 Ionawr, 2026.
Ond mae rhai wedi mynegi pryder nad yw'r cynlluniau'n mynd yn ddigon pell o ran gwarchod yr amgylchedd.
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd14 Mai 2024
- Cyhoeddwyd14 Mai 2024
Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi bod dan ddatblygiad ers saith mlynedd, er mwyn disodli hen system gymorthdaliadau'r Undeb Ewropeaidd.
Nod y cynllun newydd yw gwobrwyo arferion cynaliadwy o amaethu, a darpariaeth sydd "er lles y cyhoeddus" fel cynefinoedd bywyd gwyllt ac amsugno carbon yn y tir.
Ar gyfer y taliad cyffredinol, bydd raid i ffermwyr gytuno i 12 o ofynion sy'n cynnwys cynllunio i wella ansawdd y pridd ac ymgymryd â chyrsiau datblygiad proffesiynol ar ffermio cynaliadwy.
Bydd 'na £1,000 yn ychwanegol i bob fferm yn 2026 fel taliad sefydlogrwydd er mwyn cydnabod y cyfnod ansicr o newid sy'n eu hwynebu.

Roedd nifer o brotestiadau pan gyhoeddwyd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn wreiddiol
Dywedodd Mr Irranca-Davies mai'r peth nesaf i'w wneud yw sicrhau fod y cytundeb yn llwyddo ar ôl proses sydd wedi gosod cynsail.
Mae'n gobeithio y bydd y trafod a chydweithio sydd wedi digwydd wrth lunio'r cynllun yma rhwng undebau, gwleidyddion ac amgylcheddwyr yn parhau er mwyn datrys problemau eraill.
Ymysg y problemau yma mae llygredd amaethyddol a hybu prosiectau newydd yn ymwneud â'r amgylchedd.
Ychwanegodd fod hyn yn enghraifft o'r "ffordd Gymreig" o weithio.
'Uchelgais cyffredin'
Dywedodd fod y broses wedi bod yn anodd ar adegau, ond bod gan y llywodraeth a'r sector ffermio "uchelgais cyffredin" i weld y maes yn llwyddo.
"Mae eisiau gweld dyfodol i ffermio sy'n rhoi bwyd o safon, ond hefyd amgylchedd a byd natur o safon," meddai.
"Felly nawr mae'n rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd ar bethau eraill - ar yr SFS, ond hefyd ar bethau fel llygredd amgylcheddol.
"Mae'r math yma o weithio gyda'n gilydd yn ddefnyddiol iawn i fi fel gweinidog, a gobeithio yn ddefnyddiol iawn i ffermwyr hefyd."

Mae Rhys Evans eisiau gweld ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am warchod natur a chynefinoedd prin
Mae Rhys Evans, rheolwr i'r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur yng Nghymru, sy'n ffermio defaid a gwartheg uwchlaw Rhyd-y-main ger Dolgellau, eisiau gweld y cynllun yn mynd ymhellach ar warchod natur a chynefinoedd prin.
"I roi enghraifft i chi, cynllun amaethyddol Glastir gynt, mi fysa ffarmwr yn derbyn tua £250 yr hectar er mwyn rheoli eu gweirgloddiau," meddai.
"Yn y cynllun sydd ohoni rŵan, mi fydd hwnna yn disgyn i £69 yr hectar.
"Felly mae'n rhaid i'r cynllun annog a gwobrwyo ffermwyr i reoli'r cynefinoedd andros o brin yma.
"Yn achos weirgloddiau, 'da ni'n wedi colli 97% o'n weirgloddiau ni ers yr Ail Ryfel Byd."

Dywedodd Arfon Williams fod "llawer o dir cyffredin" rhwng undebau amaeth a chyrff amgylcheddol
Bu Arfon Williams - pennaeth polisi tir a môr yr RSPB - yn cadeirio sesiwn yn trafod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar faes y sioe.
Dywedodd ar raglen Dros Frecwast fore Mercher ei fod yn falch o weld y cydweithio sydd wedi bod ar y cynllun - rhwng y llywodraeth, ffermwyr a chyrff amgylcheddol a byd natur.
Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod "llawer o dir cyffredin" rhwng undebau amaeth a'r cyrff amgylcheddol.
Gwaith i'w wneud o hyd
Mae'n croesawu'r cynllun, gan ddweud ei bod hi "mor bwysig bo' ni'n cael cynllun nawr sy'n helpu ffermwyr i ymateb i'r heriau anferth sy'n ein hwynebu ni gyd".
Dywedodd fod "sylfaen eitha' solid", ond nad yw'n teimlo ei fod yn ddigon i ymateb i'r heriau amgylcheddol.
Tra'n cydnabod fod digon o botensial yn y cynlluniau, dywedodd fod "rhaid adeiladu nawr ar be' sy' 'da ni".
"Bydd cyfle wedi mynd os ni ffaelu cymryd y cyfle yma," meddai.
"Ni'n croesawu beth mae'r llywodraeth wedi dweud, ac os yw'n llwyddiannus bydd e'n un o'r schemes gorau sy' 'da ni erioed.
"Ond mae gwaith i wneud yn ystod y flwyddyn nesa', a mae'r cyllid mor bwysig hefyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.