£20m o fuddsoddiad i ddiweddaru porthladd Abergwaun

Abergwaun
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd pont newydd yn cael ei chodi yn lle'r un bresennol sydd yn dyddio o'r 1970au

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni Stena Line wedi cadarnhau cynlluniau i fuddsoddi £20m o bunnau ym mhorthladd Abergwaun.

Bydd y buddsoddiad yn talu am bont newydd i gysylltu'r lan gyda llongau fydd yn galw yn y porthladd.

Y gobaith yw y bydd y bont newydd yn ei lle erbyn 2027.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni bod y cyhoeddiad yn dangos ymrwymiad Stena Line i Abergwaun am y "30 i 40 mlynedd nesaf".

Linkspan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Stena Line yn darparu gwasanaeth ddwywaith y dydd rhwng Abergwaun a Rosslare yn Iwerddon

Cafodd cynllun blaenorol i godi pont newydd ei ganslo gan Stena Line yn 2018 ac fe wnaeth hynny greu pryder lleol am ddyfodol y porthladd.

Ar y pryd, roedd nifer o'r farn fod y bont sydd yn dyddio o'r 1970au yn cyrraedd diwedd ei hoes.

Mae Stena Line yn darparu gwasanaeth ddwywaith y dydd rhwng Abergwaun a Rosslare yn Iwerddon.

Roedd yna gynnydd mewn teithiau o Abergwaun ym mis Rhagfyr 2024 pan gaeodd porthladd Caergybi yn sgil difrod Storm Darragh.

Roedd y porthladd yng ngogledd Sir Benfro yn cael ei ddefnyddio i ddarparu mwy o deithiau i Ddulyn.

Fe alwodd y fferi fwyaf erioed yn Abergwaun yn ystod y cyfnod hwnnw wrth i'r Stena Adventurer gludo teithwyr a cherbydau i Ddulyn dros dro.

Ian Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Mae gyda ni'r is-adeiledd nawr sydd yn caniatáu i'r porthladd ddatblygu," medd Ian Davies, pennaeth Awdurdodau Porthladd Stena Line

Yn ôl Ian Davies, pennaeth Awdurdodau Porthladd Stena Line yn y Deyrnas Unedig, mae'r buddsoddiad yn cynnig "mwy o hyblygrwydd" i'r porthladd.

"Mae'n cynnig nifer o bethau. Gan bod y bont yn llawer mwy, mae'n golygu y gallwn ni groesawu fferi o unrhyw faint, a dyw'r hyblygrwydd hynny ddim yn bodoli ar hyn o bryd," meddai.

"Yn ystod Storm Darragh, a'r problemau a welwyd yng Nghaergybi, fe ddargyfeiriwyd nifer o longau i Abergwaun, ond roedd hi'n anodd.

"Mae hyn yn rhoi dycnwch ychwanegol i borthladdoedd Stena Line.

"Fe allwn ni ddod â llongau newydd i mewn a symud llongau pan mae amgylchiadau arbennig yn codi."

Yn ôl Mr Davies mae'r cyhoeddiad yn dangos ymrwymiad hir dymor y cwmni i Abergwaun.

"Mae'n golygu ein bod ni â chyfleusterau cyfoes. Mae'n ymrwymiad ar gyfer y 30 i 40 mlynedd nesaf.

"Mae gyda ni'r is-adeiledd nawr sydd yn caniatáu i'r porthladd ddatblygu yn ôl anghenion y busnes."

Fferi
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Abergwaun yn borthladd prysur yn ystod Storm Darragh

Dywedodd Peter Harding, sydd yn rhedeg cwmni cludiant yn Sir Benfro, bod y newyddion i'w groesawu.

"Mi fydd hyn yn golygu bod modd llwytho'r fferi yn gynt ac yn fwy effeithlon.

"Nid yn unig hynny ond bydd modd defnyddio mwy o longau yn y porthladd.

"Pan gaeodd Caergybi fe gododd Abergwaun eu gêm, ac roedd yna nifer fawr o lorïau yn teithio drwyddo.

"Roedd hynny yn anghredadwy. Mae hyn yn newyddion gwych i ogledd Sir Benfro.

"Mae de'r sir yn tueddu i gael y sylw ond mae hyn yn beth da i'r gymuned ac i swyddi."

Pont
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw codi pont newydd a fydd yn galluogi traffig i lifo i'r ddau gyfeiriad

Bwriad cwmni Stena Line yw dymchwel y bont bresennol a chreu un newydd fodern.

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2026, ac fe fydd rhaid cau'r porthladd am rhwng chwech ac wyth wythnos.

Y gobaith yw y bydd y bont newydd wedi ei chodi erbyn 2027.

Pynciau cysylltiedig