Porthladd Caergybi i ailagor yn llawn ddechrau Gorffennaf

Mae cau'r porthladd wedi effeithio ar drefniadau miloedd o deithwyr
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i borthladd Caergybi ailagor yn llawn ar 1 Gorffennaf ar ôl i rannau ohono gael eu difrodi gan Storm Darragh ddechrau Rhagfyr.
Cafodd dwy angorfa y porthladd, sy'n cysylltu gogledd Cymru â Dulyn, eu difrodi ar 7 Rhagfyr ac fe wnaeth un ohonynt ailagor ar 15 Ionawr.
Mae cau'r porthladd wedi effeithio ar drefniadau miloedd o deithwyr, cludo nwyddau a busnesau Caergybi.
Ddydd Llun fe ddaeth cadarnhad bod cynlluniau ar y gweill i drwsio angorfa Terfynfa 3, a'r gobaith yw y bydd y gwaith wedi gorffen erbyn dechrau Gorffennaf 2025.

Fe agorodd un terfynfa ganol Ionawr
Ers y storm mae cwmnïau Stena Line ac Irish Ferries wedi bod yn hwylio o un safle, yn hytrach na'r ddau arferol.
Dywed busnesau yng Nghaergybi eu bod wedi gweld cwymp enfawr yn nifer yr ymwelwyr ers cau'r porthladd.
Fel arfer mae tua dwy filiwn o deithwyr yn teithio trwy'r porthladd bob blwyddyn.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Stena Line: "Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod yr angorfa yn dychwelyd i alluoedd gweithredu llawn mor ddiogel ac effeithlon â phosib."
Ychwanegodd bod y cwmni yn parhau i fod yn ymrwymedig i "wydnwch hirdymor" Porthladd Caergybi a'i ddyfodol cynaliadwy.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2024