Cyngor sir i wario £500,000 ar waith atgyweirio brys mewn ysgol

Ysgol GreenhillFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r gwaith ar yr ysgol gael ei wneud yn ystod gwyliau'r haf

  • Cyhoeddwyd

Bydd yn rhaid i Gyngor Sir Penfro wario dros £500,000 ar waith atgyweirio brys ar ysgol uwchradd dros bryderon am gyflwr waliau concrit.

Mae'r arweinydd Jon Harvey wedi rhoi sêl bendith i wario £555,946 i geisio datrys "methiannau ffrâm wal goncrit allanol" yn Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod.

Cafodd y penderfyniad ynglŷn â'r gwariant sylweddol ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod brynhawn Mercher - rhywbeth sy'n hynod anarferol.

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cael cais i ymateb.

Lluniau o graciau yn waliau'r ysgolFfynhonnell y llun, Trident Civil Engineering
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiad Trident Civil Engineering yn cynnwys lluniau o sawl man sydd angen ei adfer

Mae'r adroddiad, gafodd ei lunio gan Trident Civil Engineering, yn nodi bod angen "gwaith atgyweirio a sefydlogi brys" ar gyfer ffrâm goncrit allanol yr ysgol.

Daeth arolwg o hyd i 750 o ardaloedd ble roedd concrit mewn cyflwr gwael, gyda chraciau a holltau yn amlwg.

Bydd yr arian i dalu am y gwaith yn dod o'r gronfa arian wrth gefn ar gyfer cynnal a chadw adeiladau, o'r rhaglen gyfalaf i ysgolion.

Y gred yw y bydd gwaith sydd yn tarfu ar fywyd yr ysgol yn cael ei wneud yn ystod gwyliau'r haf.

'Risg sylweddol'

Dywedodd Trident Civil Engineering yn yr adroddiad fod cyflwr yr adeilad yn "peri risg sylweddol, gan fod malurion wedi eu gweld yn disgyn o'r strwythur".

"Mae rhai colofnau wedi colli màs strwythurol i'r pwynt ble mae angen cwestiynu eu dibynadwyedd," meddai.

"Rydyn ni'n argymell yn gryf y dylid cwblhau'r gwaith atgyweirio yn syth ac fel mater o frys."

Nid yw'r mater yn ymwneud â choncrit RAAC (reinforced autoclaved aerated concrete), sydd wedi achosi nifer o broblemau mewn ysgolion a gwahanol adeiladau ar hyd y DU.

John Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd John Davies fod problem ehangach o ran adeiladau sy'n heneiddio

Mae'r newyddion yn "hollol ddigynsail, yn eithriadol ac yn tanlinlellu difrifoldeb y sefyllfa", yn ôl cyn-arweinydd Cyngor Sir Penfro, John Davies.

Dywedodd ar raglen Dros Frecwast fore Iau fod problem ehangach o ran adeiladau sy'n heneiddio, ond fod diffyg arian ar gael i'w adnewyddu.

"Mae'n hen ysgol, yn mynd 'nôl i'r 1960au," meddai.

"Ma' 'na dair ar ôl yn Sir Benfro - Aberdaugleddau, Ysgol Greenhill yma yn Ninbych-y-pysgod, ac Ysgol Preseli yng Nghrymych - ac mae'r dair angen enfawr i gael eu hadnewyddu.

"Ond yr her sy'n wynebu bob cyngor yng Nghymru bellach, ac ystadau addysg, ma' 'na angen, a dyw'r arian a'r cyfalaf ddim yno i gefnogi'r angen."