Baner Cymru gyda neges sarhaus wedi'i baentio ar gylchfan

Cylchfan Ffordd MaesduFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Y graffiti ar gylchfan Ffordd Maesdu yn Llandudno

  • Cyhoeddwyd

Mae baner Cymru gyda neges sarhaus yn erbyn Saeson wedi cael ei baentio ar gylchfan yn un o drefi'r gogledd.

Cafodd y Ddraig Goch, gyda'r ddraig yn wynebu'r cyfeiriad anghywir, a'r neges 'F*** the English!!', ei phaentio ar gylchfan fach ar Ffordd Maesdu, Llandudno, ger Ysgol John Bright.

Ychydig o ddiwrnodau ynghynt, cafodd yr un gylchfan ei phaentio â chroes goch baner San Siôr, symbol nawdd Sant Lloegr.

Daw'r fandaliaeth wreiddiol wedi i filoedd o faneri Lloegr a baneri Jac yr Undeb gael eu codi ar draws Lloegr - yn gyfreithlon ac yn anghyfreithlon - fel rhan o ymgyrch genedlaethol answyddogol.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cael cais am sylw.

Cylchfan Ffordd MaesduFfynhonnell y llun, Aaran Lennox
Disgrifiad o’r llun,

Y graffiti ar gylchfan Ffordd Maesdu yn Llandudno

Dywedodd y cynghorydd Thomas Montgomery o Reform UK, sy'n cynrychioli ward Tudno: "Rwy'n credu bod pobl yn ceisio dangos y gwladgarwch a'r balchder sydd ganddyn nhw yn eu gwlad.

"Ond gyda'r holl bethau hyn, mae angen i ni fod yn ymwybodol nad yw gwladgarwch a balchder yn troi'n hiliaeth nac yn ceisio rhannu pobl ein tref.

"Mae'n siomedig gweld y geiriau gafodd ei ysgrifennu ar y gylchfan ar ôl i rywun baentio baner Cymru, ac rwy'n credu bod llawer o drigolion yn teimlo bod hynny'n eithaf rhaniadol o fewn y ward a'r dref."

Dywedodd y Cynghorydd Montgomery nad oedd yn gwybod a gafodd y geiriau eu paentio ar yr un pryd â'r faner, neu ar ôl.

Ychwanegodd: "Wrth gwrs, dylem ni i gyd allu mynegi ein balchder yn ein gwlad p'un a ydych chi'n gwneud hynny gyda baner Cymru neu Jac yr Undeb.

"Ond rwy'n credu bod y geiriau hynny wedi'u troi o ddangos balchder i geisio rhannu pobl, sy'n annerbyniol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy eu bod am gael gwared â'r faner.

"Mae paentio heb awdurdod neu graffiti ar y ffordd yn anghyfreithlon ac fe fydd yn cael ei dynnu," meddai.

"Mae'r fandaliaeth yma'n costio arian cyhoeddus ac fe fydd yn achosi trafferthion i ddefnyddwyr y ffordd tra rydyn ni'n ei lanhau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig