Cofio William Mathias

William MathiasFfynhonnell y llun, John Ross
  • Cyhoeddwyd

Ar Dachwedd 1af, 1934, ganwyd cerddor a fyddai’n dod yn un o brif gyfansoddwyr Cymru ac ymhell y tu hwnt. Mi fyddai William Mathias felly wedi dathlu ei ben-blwydd yn 90 heddiw.

Ei eilun oedd Mozart, ac fel yr athrylith hwnnw, bu William Mathias farw yn anhymig, yn ddim ond 57 oed, ar ôl dangos doniau athrylithgar fel plentyn. Ond yn yr oes gymharol fer honno, fe gyflawnodd gymaint fel cerddor, cyfansoddwr, academydd ac addysgwr.

Yn y rhaglen radio a ddarlledwyd ddydd Sul diwethaf ar BBC Radio Cymru, gyda Ffion Dafis a minnau yn llywio, cafwyd atgofion amdano fel dyn, fel cerddor, a’r waddol gyfoethog a adawodd ar ei ôl. Yn fwy na dim, cafwyd sgyrsiau unigryw a phersonol yn taflu golwg newydd ar y gŵr a’i grefft, a hynny o lygad y ffynnon.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wolfgang Amadeus Mozart - un o brif ddylanwadau William Mathias

'Hwyliog, dawnus, sbort'

Ganed William Mathias yn Hendy Gwyn ar Dâf.

Mae gan D. Roy Saer, yr arbenigwr ar ganeuon gwerin fu’n gweithio yn Sain Ffagan, atgofion ohono fel plentyn oedd wedi dechrau chwarae piano’n dair oed a chyfansoddi pan oedd yn bump.

Yn ifanc, clywodd Mathias ganeuon gwerin a cherddoriaeth eglwysig, y ddwy agwedd yn cyfrannu tuag at ei œvre maes o law.

Cafwyd atgofion amdano gan Caryl Roese yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, yn hwyliog, yn ddawnus ac yn amlwg yn sbort i fod yn ei gwmni. Soniodd Caryl am eu campau o gwmpas clybiau jazz Llundain.

Ffynhonnell y llun, Oswald Jones

Cyn hynny, bu hefyd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a daeth ei ferch Rhiannon yn ymwybodol o ddarn cynnar iawn ar gyfer ffliwt a phiano a gyfansoddodd yno, ac a gyflwynwyd iddi flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn y sgwrs gyda Rhiannon, clywsom hefyd am y dyn teulu ac Yvonne ei wraig, ei gysylltiad â Gŵyl Gerdd Gogledd Cymru, Llanelwy a phryd y daeth hi fel merch i sylweddoli dyn mor hynod oedd ei thad.

Ac yna, tyfodd y bachgen yn ddyn. Yn y rhaglen, tystiodd academyddion megis Pwyll ap Sion, Wyn Thomas a’r arbenigwr ar gerddoriaeth Mathias, Geraint Lewis fod yma gyfansoddwr a fedrai ddal ei ben yn uchel ymhlith prif gyfansoddwyr Ewrop.

Drwy ei gydweithwyr, megis Wyn Thomas a Geraint Lewis, cawsom gipolwg ar y dyn yng nghyd- destun ei gerddoriaeth, ei falchder o fod yn Gymro a’i anogaeth hael i’r Cymry a phawb oedd yn ei Adran Cerddoriaeth ym Mangor, lle bu’n Athro a Phennaeth yr Adran o 1970 hyd1988.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ymarfer ar y piano, gyda cherddorfa tu ôl iddo - 1960au

Clywyd am ei lwyddiannau a’i siomedigaethau; yr anobaith a deimlodd ar ôl beirniadaeth lem ar ei unig opera The Servants yn 1980, a’i falchder o’r Anthem Frenhinol a gomisiynwyd ar gyfer priodas Charles a Diana yn 1982.

Chwaraewyd pytiau o’i symffonïau, ei weithiau cysegredig, ei weithiau i organ a’i waith ar gyfer y delyn, yn cynnwys y Concerto i’r Delyn a luniwyd ar gyfer Osian Ellis ddiwedd y 60au.

Disgrifiad,

William Mathias yn siarad am ddylanwad ei grefydd ar ei waith, mewn rhaglen deledu o 1988

Drwy ei gomisiynau, fe gafodd Mathias y cyfle i greu gweithiau arbenigol a phersonol.

Soniodd y delynores Caryl Thomas amdani hi’n comisiynu gwaith ganddo, y Santa Fe Suite (1988) pan wahoddwyd hi i roi datganiad yn Neuadd Wigmore yn Llundain.

Rai blynyddoedd ar ôl marwolaeth y cyfansoddwr, daeth y delynores Elinor Bennett a chriw at ei gilydd i gyflawni’r weledigaeth o sefydlu canolfan gerdd o safon yng Ngogledd Cymru.

Dim ond un enw oedd yn cynnig ei hun i’r ganolfan honno - Canolfan Gerdd William Mathias a chlywyd sôn am ei chysylltiad personol hithau gyda’r cerddor.

Ffynhonnell y llun, John Ross
Disgrifiad o’r llun,

William Mathias gyda'i deulu

Mynd â cherddoriaeth o Gymru i’r byd mawr

A’r waddol? Drwy fod yn gyfansoddwr Cymreig, a’i gerddoriaeth yn cael ei chwarae a’i gwerthfawrogi’n rhyngwladol, cyflwynodd William Mathias rodd arbennig i gerddorion y dyfodol; i ehangu eu hynni creadigol, a mynd â cherddoriaeth o Gymru i’r byd mawr.

Sioned Webb, myfyriwr i William Mathias o 1979 hyd 1984 ac yn Gyfarwyddwr Artistig Canolfan Gerdd William Mathias maes o law.

Pynciau cysylltiedig