Carcharu dau am dyfu £2m o ganabis mewn hen ysgol yn Llandysul

Alfred Perkola ac Aldi GjegjajFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alfred Perkola ac Aldi Gjegjaj eu dedfrydu i gyfanswm o chwe blynedd a naw mis dan glo

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu ar ôl tyfu gwerth £2m o ganabis mewn hen ysgol yn Llandysul.

Roedd Alfred Perkola, 44 o Lundain, ac Aldi Gjegjaj, 25 o Salford, wedi pledio'n euog i gynllwynio i gyflenwi canabis.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher cafodd Perkola ei garcharu am dair blynedd a naw mis, tra bod Gjegjaj wedi derbyn dedfryd o dair blynedd dan glo.

Cafodd y ddau eu harestio fis Gorffennaf 2024 ar ôl i bum cês llawn canabis gael eu darganfod wedi i gar a fan gael eu stopio gan swyddogion wrth deithio drwy Sir Gaerfyrddin.

Daeth i'r amlwg o edrych ar ddata GPS o'r fan fod y cerbyd wedi teithio o Lundain i Geredigion, lle'r oedden nhw wedi stopio am gyfnod byr cyn symud yn eu blaenau.

Arweiniodd ymholiadau'r heddlu at archwilio hen ysgol yng nghanol Llandysul, lle cafodd cannoedd o blanhigion canabis eu darganfod.

Y gred yw bod gwerth yr holl blanhigion tua £1,960,000.

Dywedodd DC Steve Thomas o Heddlu Dyfed-Powys: "Mae hwn yn ganlyniad ardderchog i weld dau unigolyn arall yn mynd i'r carchar am eu cysylltiad â chynhyrchu a gwerthu cyffuriau anghyfreithlon yn ardal Dyfed-Powys.

"Mae rhyng-gipiad y cerbydau hyn a gweithgareddau'r unigolion wedi ein galluogi i gymryd gwerth bron i £2m o gyffuriau allan o'r gadwyn gyflenwi a oedd am fod ar y strydoedd.

"Nid oes pwrpas i gyffuriau yn ein cymunedau.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein heddlu mor elyniaethus â phosibl i gyffuriau a byddwn ni'n cynnal amryw o weithgareddau ar gyfer mynd i'r afael â'r cyflenwad cyffuriau yn rhagweithiol."