Glain Rhys: 'Ysbrydoledig' cyfarwyddo sioe'r Urdd ddegawd ar ôl actio ynddi

Glain Rhys yn 2014, a 2024Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Glain Rhys yn 2014, a 2024

  • Cyhoeddwyd

Ddegawd union ers perfformio yn sioe ieuenctid yr Urdd, mae Glain Rhys wedi sôn am y wefr o fod yn helpu’r genhedlaeth nesaf fel cyd-gyfarwyddwr sioe eleni.

Ac mae hi’n cael gwneud hynny gydag un o’i ffrindiau pennaf, oedd hefyd ar y llwyfan gyda hi yn y sioe honno nôl yn 2014.

Erbyn heddiw mae Glain Rhys yn adnabyddus fel cantores a pherfformiwr ac yn aelod o’r grŵp Welsh of the West End.

Ond fel yr eglurodd wrth Cymru Fyw fe blannwyd yr hadyn i fod ar y llwyfan flynyddoedd yn ôl ac mae’r diolch i Gwmni Theatr Maldwyn.

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Glain (yn y blaen) gyda rhai o gast Dyma Fi, sioe ieuenctid yr Urdd 2014

Sefydlwyd y cwmni gan Derec Williams, Penri Roberts a Linda Gittins yn 1981. Wrth iddi dyfu i fyny yn Y Bala, doedd y Glain ifanc methu disgwyl i fod yn ddigon hen i gael y cyfle i fod yn rhan o gynhyrchiad.

Meddai: “Ro’n i wedi tyfu fyny yn gwrando ar sioe gerdd Ann gan Theatr Maldwyn. Roedd Mam a Dad yn rhan o hwnnw nôl yn 2003, a ro’n i’n idolisio Derec, Penri a Linda ac yn meddwl eu bod nhw’n ffantastig.

“Ro’n i’n canu Ann yn y car, roedd y CD wedi scratchio i gyd erbyn y diwedd a doedd o ddim yn chwarae’r caneuon yn iawn. Ro’n i’n gwybod nhw air am air.

“Wedyn dwi’n cofio eistedd lawr tua 2007 neu 2008 ac roedd ‘na segment ymlaen ar Heno am Theatr Maldwyn a fi’n meddwl 'faswn i’n caru bod yn rhan ohono - faswn i’n neud unrhyw beth’.

"Wedyn dwi’n cofio Dad yn deud eu bod nhw’n cynnal clyweliadau - pan o’n i’n blwyddyn wyth - a gofyn faswn i’n licio rhoi cynnig arni a nesh i neidio ar y cyfle.

“Nesh i ddysgu'r monolog hir yma - dwi erioed wedi dysgu monolog mor sydyn - gwneud y clyweliad, ac wedyn disgwyl i’r llythyr ddod. Dwi’n cofio fo’n cyrraedd a fy nghalon i’n mynd, a’i agor... a ro’n i wedi cael rhan.”

Roedd hynny yn 2010 ond gydag Eisteddfod yr Urdd yn dod i’r Bala yn 2014 fe gafodd hi’r cyfle i fod yn rhan o’r sioe ieuenctid. Dyma Fi oedd enw'r cynhyrchiad ac roedd wedi ei sgwennu gan blant Derec Williams - sef Branwen, Meilir ac Osian Williams.

Disgrifiad o’r llun,

Plant Derec Williams sy'n adnabyddus erbyn hyn fel cerddorion a pherfformwyr

Yn drist iawn, bu farw Derec yn ystod wythnos yr eisteddfod.

“Roedd o’n amser emosiynol iawn i bawb ohonom ni,” meddai Glain. “Ro’n i’n meddwl y byd o Derec, felly roedd o’n rili emosiynol i ni gyd.

“Roeddan ni i gyd wedi cynhyrfu’n lân i wneud y sioe yma ac wedyn ddigwyddodd hyn.”

Fe gafodd y perfformiad olaf o Dyma Fi ei gohirio a blwyddyn yn ddiweddarach cynhaliwyd cyngerdd gyda’r caneuon er mwyn cloi'r cynhyrchiad. Ond roedd Derec a Theatr Maldwyn eisioes wedi gadael eu marc ar Glain a nifer o berfformwyr eraill.

“Dwi’n hynod, hynod ddiolchgar am y cyfle gesh i efo Theatr Maldwyn,” meddai Glain. “Doedd ‘na ddim byd fel yna o gwmpas yng ngogledd Cymru, dim byd yn Y Bala. Roedd o’n broffesiynol ac roedda ni’n cael union be’ fydda ni’n cael mewn ysgol ddrama - ond yn Gymraeg hefyd.

“Ac i fi, a phobl fel Luke McCall a Steffan Harri - fydda ni yn sicr ddim yn gwneud be’ da’n ni’n neud heb Theatr Maldwyn.”

Ffynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Ymarfer ar gyfer sioe uwchradd yr Urdd ym Meifod eleni gyda Glain Rhys a Siôn Emlyn. Mae'r sioe yn cynnwys caneuon Rhydian Meilir fel Mr G, Brenhines Aberdaron a Gawn ni weld sut eith hi.

Nawr, ddegawd yn ddiweddarach, mae Glain yn cydlynu ymarferion sioe gynradd Ein Maldwyn Ni. Mae'r perfformiad yn cynnwys detholiad o Pum Diwrnod o Ryddid, drama gerdd oedd wedi’i hysgrifennu gan Linda, Penri a Derec a’i pherfformio gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1988 gan bobl ifanc Maldwyn.

Mae hi hefyd yn cydlynu ymarferion y sioe ieuenctid - Gawn Ni Weld Sut Eith Hi, sy'n jukebox musical wedi’i seilio ar ganeuon y cyfansoddwr lleol Rhydian Meilir.

Mae'n brofiad "ysbrydoledig" meddai ac mae hi wrth ei bodd yn gallu cyd-gyfarwyddo hwnnw gyda Siôn Emlyn – un o’i ffrindiau ers ei dyddiau cyntaf yn Theatr Maldwyn ac un o’r cast oedd gyda hi yn perfformio sioe ieuenctid yr Urdd yn 2014.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ffrindiau ar ac oddi ar y llwyfan - Glain Rhys gyda'i chyfaill a chyd-gyfarwyddwr Siôn Emlyn

“Mi ryda ni’n dau wedi bod efo Theatr Maldwyn ers 2010 - roedda ni’n rhannu lifft i fynd yno,” meddai Glain.

“Roedda ni yn yr un chweched dosbarth â’n gilydd, roeddan ni ar yr un cwrs coleg ac mi'r ydan ni wedi bod yn ffrindiau gorau ers blynyddoedd felly mae'n rili, rili neis.

“Allai edrych i’w lygaid o, a fo edrych arna’ i a dwi’n gwybod yn union be’ mae o’n mynd i’w ddweud.

“Doedd yr un ohonon ni wedi cyfarwyddo o’r blaen ond gan ein bod ni’n actorion, rydan ni’n gwybod be’ ydi’r broses ac yn gwybod be’ i’w ddisgwyl ganddyn nhw.

“Wnaethon ni'r sioe yn 2014, felly 10 mlynedd yn ôl roeddan ni’n gwneud yn union be’ mae’r plant a phobl ifanc yma yn gwneud felly ‘da’n ni’n gwybod be' i’w ddisgwyl.

“Da ni’n gwybod bydd o’n reit stressful ar adegau ond does ’na ddim amser wedi bod pan dwi wedi meddwl ‘o god da'n ni ddim yn mynd i fedru gwneud hwn’, achos mae petha’n mynd yn grêt. Mae o wedi bod yn grêt gweithio efo Siôn.

"Mae cyfarwyddo yn rhoi yr un teimlad o foddhad, ond mewn ffordd wahanol, i fod yn actio ar y llwyfan. Mi'r ydan ni wedi gweithio'n rili caled, ac mae'r plant a'r bobl ifanc wedi gweithio mor galed a dwi wrth fy modd yn gweithio efo nhw."