Arian pêl-droedwyr Cymru at ymgyrch cartref y Beasleys
- Cyhoeddwyd
Mae pêl-droedwyr carfan Cymru wedi rhoi £2,500 tuag at apêl i achub cartref ymgyrchwyr oedd yn flaenllaw yn y frwydr dros hawliau iaith Gymraeg.
Ar hyn o bryd mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn ceisio codi arian er mwyn adfer hen dŷ Eileen a Trefor Beasley yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin.
Mae'r adeilad, medden nhw, bellach yn dirywio ar ôl bod yn wag am dros ddegawd, a'u bwriad yw ei adnewyddu er mwyn creu canolfan dreftadaeth ar y safle.
Roedd y Beasleys yn ymgyrchwyr iaith blaenllaw yn yr 1950au, gan ymddangos yn y llys sawl tro am wrthod talu bil treth cyngor uniaith Saesneg.
- Cyhoeddwyd12 Awst 2012
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2015
Mae'r arian sydd wedi ei roi at yr achos yn dod gan y chwaraewyr eu hunain, yn hytrach na Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC).
Er bod y chwaraewyr yn cael eu talu rywfaint am gynrychioli eu gwlad, mae'r arian hwnnw fel arfer yn cael ei ddosbarthu i elusennau ac achosion da o'u dewis nhw.
Er nad yw rhan fwyaf y garfan yn siarad Cymraeg, dywedodd Menter Cwm Gwendraeth Elli eu bod nhw wrth eu bodd fod y chwaraewyr wedi dewis cefnogi ymgyrch sy'n gysylltiedig â'r frwydr hanesyddol dros hawliau'r iaith.
"Mae’n dangos pa mor bell mae’r tîm wedi dod, a sut mae Cymru fel cenedl wedi newid," meddai Derek Rees o'r fenter.
"Byddai gweld tîm pêl-droed Cymru yn cyfrannu i’r fath ymgyrch yn anghredadwy ddegawd yn ôl."
Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli eisoes wedi codi £9,000 tuag at eu hymgyrch, sydd â tharged ariannol o £30,000.
"Nawr yw’r amser i achub y safle hanesyddol ar gyfer y dyfodol, gan greu canolfan sy’n dathlu cyfraniad aruthrol Trefor ac Eileen tuag at barhad yr iaith Gymraeg a’i statws," meddai'r fenter.
Eu bwriad yw prynu’r tŷ a'i adnewyddu er mwyn "creu canolfan treftadaeth ar y safle, a fydd o fudd i’r gymuned leol a hefyd i’r genedl gyfan".
Yn 2015 cafodd plac glas ei osod gan Treftadaeth Cymuned Llanelli ar y bwthyn yn 2 Yr Allt, Llangennech, a fu'n gartref i'r Beasleys rhwng 1952 a 1964.
Tan 1960 bu'r Beasleys yn brwydro i gael ffurflen dreth ddwyieithog gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli.
Bu'r ddau yn y llys 16 o weithiau ac fe wnaeth beilïaid ymweld â'u cartref bedair gwaith, gan fynd â'r rhan fwyaf o'u dodrefn o'r tŷ.
Ar ôl wyth mlynedd o ymgyrchu fe enillon nhw eu brwydr ac fe dderbynion nhw bapur treth dwyieithog yn 1960.