Mwy o danau gwyllt yn llosgi ar draws Cymru

TanFfynhonnell y llun, Allanah Julia Fenwick
Disgrifiad o’r llun,

Tân gwair ym Maentwrog, Gwynedd nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o danau gwyllt yn parhau i losgi ar draws Cymru, ond mae'r gwasanaeth tân yn dweud fod y sefyllfa yn "eithaf sefydlog".

Yn y gogledd, mae criwiau a cherbydau yn parhau ar safle tân gwair ym Maentwrog yng Ngwynedd oedd wedi bod yn llosgi drwy'r nos.

Brynhawn Gwener dywedodd gwasanaeth tân y gogledd eu bod yn delio â phedwar tân arall hefyd - ym Meddgelert, Llanbedr, Llanberis a Llangollen.

Yn y de, mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi bod yn ceisio diffodd y fflamau i ddau dân ar fynydd Cilfynydd a rhwng Pontypridd ac Abercynon.

Mae modd gweld y fflamau o'r A470.

Cafodd tân a oedd yn llosgi ar fynydd Blorens ger Y Fenni ei ddiffodd tua 22:38 nos Iau wedi iddo ledu ar draws tua 10 hectar.

Mae gwasanaeth tân ac achub gorllewin a chanol Cymru wedi dychwelyd i Gwm Rheidiol ger Aberystwyth ddydd Gwener er mwyn asesu tân sydd wedi bod yn llosgi yno rhan fwyaf o'r wythnos.