Annog Cymry ifanc creadigol i symud yn ôl i ennill bywoliaeth

Dywed Megan (dde) fod cynnal arddangosfeydd celf wedi "agor lan y meddylfryd bod opsiynau i gael yng Nghymru"
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Sir Gâr yn annog pobl ifanc sydd eisiau dilyn gyrfa yn y byd creadigol i ddychwelyd i Gymru i wireddu hynny.
Ar ôl astudio celf gain mewn prifysgol yn Llundain, dywedodd Megan Evans, 23 o Dre-fach, nad ei bwriad gwreiddiol oedd symud yn ôl adref i fyw.
Ond chwe mis wedi iddi wneud hynny, mae hi'n rhedeg arddangosfeydd celf ac yn dweud ei bod wedi "dysgu mwy yn y chwe mis diwethaf na wnes i yn y brifysgol yn Llundain".
Ychwanegodd fod "lot o bethau creadigol yn digwydd yng Nghymru, ac o'n i'n naïf iawn i feddwl bod e ddim yn digwydd".
'Gweld eisiau Cymreictod'
A hithau wedi ymddiddori yn y byd celfyddydol erioed, aeth Megan i astudio celf gain yn The Kingston School of Art yn Llundain.
Ond dywedodd nad oedd y tair blynedd yn hawdd, a hithau'n gweld y diwydiant celf yn "elitaidd" ar adegau.
"Oedd hwnna'n anodd, er fi'n credu oedd e'n bwysig i fi fel datblygiad personol i agor fy llygaid, ond oedd e'n rili anodd.
"Pan o'n i yn Llundain ro'n i'n gweld eisiau Cymreictod... yr ymdeimlad o gymuned.
"Oedd e'n teimlo allan o 'ngafael i - y byd celf a chreadigol yn Llundain.
"Oedd e'n teimlo'n eithaf elitaidd rili, a fi'n credu o'n i jyst moyn ffeindio rhywbeth o'n i'n gallu uniaethu ag e."

Un o'r arddangosfeydd mae Megan wedi ei guradu
Wedi i'w thair blynedd yn Llundain ddod i ben, dywedodd: "Do'n i ddim rili moyn symud adref ond dyna oedd yr unig opsiwn i fi rili, achos oedd hi mor ddrud yn Llundain.
"Mae 'na stereoteip fod popeth creadigol yn digwydd yn Llundain, mai dyna lle mae'r cyfleoedd i gyd.
"Ond ers bo' fi 'nôl adref, fi 'di sylwi ma' 'na gymunedau, mae 'na artistiaid, mae 'na lwyth o bobl greadigol sy' 'di neud bywoliaeth o'u celf nhw."
Ers symud yn ôl mae Megan wedi arwain a threfnu sawl arddangosfa gelf yn Sir Gâr, gan ddod ag artistiaid lleol ynghyd i arddangos eu gwaith.
"Doedd dim profiad 'da fi o drefnu arddangosfa gelf. Nes i lansio galwad agored, ac yn y diwedd oedd 30 o artistiaid yno," meddai.
"Yn y flwyddyn newydd daeth 150 o bobl ar gyfer y noson agored, oedd e jyst yn amazing, dyna oedd y tro cyntaf i fi guradu rhywbeth.
"'Naeth e agor lan y meddylfryd bod opsiynau i gael yng Nghymru."
'Fi moyn hybu'r iaith'
Ychwanegodd Megan fod trefnu'r arddangosfa gyntaf wedi agor drysau iddi i'r byd creadigol a churadu yn Sir Gâr.
"Fi jyst yn rili mwynhau curadu a rhoi sioeau mlân. Y peth pwysicaf i fi yw rhoi platfform i artistiaid," meddai.
"Ma' symud 'nôl adref wedi bod mor wobrwyol, i gael defnyddio fy Nghymreictod i.
"Mae hefyd yn wobrwyol iawn i allu gwneud hyn yn fy milltir sgwâr
"Pan ti'n symud oddi cartref ti'n dod lot fwy gwladgarol, yn colli Cymru ac yn sylwi pa mor freintiedig oeddet ti.
"I allu gwneud pethe fel hyn trwy gyfrwng y Gymraeg... ma' hwnna'n rili bwysig i fi.
"Fi moyn hybu'r iaith a hybu cymunedau creadigol a dangos bod 'na le i artistiaid yma.
"Y brif neges yw bod lot o bethau creadigol yn digwydd yng Nghymru, ac o'n i'n naïf iawn i feddwl bod e ddim yn digwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd12 Mehefin
- Cyhoeddwyd26 Mai