Sophie Ingle i adael Chelsea ar ddiwedd y tymor

Sophie IngleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Ingle wedi chwarae 139 o weithiau dros Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-gapten tîm pêl-droed merched Cymru, Sophie Ingle, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael Chelsea ar ddiwedd y tymor.

Mae Ingle, 33, wedi chwarae 214 o weithiau i'r Blues gan sgorio 12 gôl yn ystod dau gyfnod gyda'r clwb.

Fe dreuliodd y chwaraewr canol cae ddau dymor gyda Chelsea rhwng 2012-14, cyn dychwelyd i Lundain yn 2018 wedi cyfnodau gyda Bryste a Lerpwl.

Mae hi wedi ennill pum Uwch Gynghrair Lloegr, tri Chwpan FA, dau Gwpan y Gynghrair ac wedi chwarae yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr gyda Chelsea.

Dyw Ingle ddim wedi gallu chwarae y tymor hwn oherwydd anaf i'w phen-glin.

"Dwi'n falch iawn o fod wedi ennill 11 tlws yma, ac yn ddiolchgar o gael cyfle i wneud hynny gyda chyd-chwaraewyr sydd fel teulu i mi," meddai mewn datganiad.