Cyflwyno gwobr Cyfraniad Oes i Lyn Ebenezer

- Cyhoeddwyd
"O'n i ffaelu credu'r peth. O'n i yng nghanol y Talwrn yn y Steddfod ym Mhontrhydfendigaid, a dyma Garmon o'r Lolfa yn codi ar ei draed a dechrau dweud pethau amdana' i. O'n i'n meddwl, be' ddiawch sy'n mynd mlaen ma."
Yr awdur a darlledwr Lyn Ebenezer sy'n siarad gyda Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru am dderbyn gwobr cyfraniad oes gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru.
"Oedd e'n brofiad neis iawn, maen rhaid i fi ddweud. Rwy'n teimlo hi'n fraint."
Mae Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru yn cefnogi cyhoeddwyr a'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn cyflwyno'r wobr i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad hir-dymor i'r byd llyfrau yng Nghymru. A does dim dwywaith fod Lyn Ebenezer wedi gwneud hynny.
Mae Lyn wedi ysgrifennu dros 120 o gyfrolau yn cynnwys nofelau, barddoniaeth, ysgrifau a chofiannau, ac wedi gweithio fel golygydd i Wasg Carreg Gwalch. Mae'n parhau i fod yn golofnydd misol i bapur Y Cymro.

"Dw i'n cofio gofyn i Meic Stevens unwaith pa un oedd ei hoff gân oedd e wedi'i chyfansoddi, a'i ateb e oedd 'Fi wedi'u caru nhw i gyd. Maen nhw fel plant i fi'" eglura Lyn gan gymryd ei amser i feddwl am ba un o'i gyfrolau yw ei ffefryn.
"'Tawn i'n gorfod dewis un, fyddwn i'n dewis un o fy llyfrau personol i, Y Meini Llafar (2017).
"Hanes pobl sydd wedi gadael eu henwau ar ganllaw'r bont yn y pentref fan hyn. Pobl sydd wedi cerfio llythrennau cyntaf eu henwau, a finne wedi mynd ar ôl rhai o'r cymeriadau.
"Dw i'n teimlo'n hapus iawn am hwnna."
Yn ystod ei yrfa mae Lyn wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar ran ac am bobl eraill, ac o'r cyfrolau hynny mae'n dewis Fi Dai Sy' 'Ma (1997) fel ei ffefryn. Ac nid dim ond oherwydd ei fod y llyfr sydd wedi gwerthu orau ganddo.
Wrth sôn am y cyfnod hwnnw o gasglu'r straeon gan Dai Llanilar, mae'n cofio'n annwyl.
"Roedd 'da ni ryw drefn o ddefnyddio recordiwr casét. Oedd un gen i yn y tŷ ac un gan Dai hefyd. Felly yn hytrach nag eistedd i lawr wrth y bwdd i sgwrsio, roedd Dai yn recordio ar y tractor neu yn y car, ac mae'r pethau fethais i eu defnyddio yn hyd yn oed fwy doniol na'r pethau wnes i ddefnyddio.
Nes i fwynhau ysgrifennu'r gyfrol yna'n fwy na dim un dw i'n meddwl."

Wrth sgwrsio efo Ffion, mae Lyn yn cyfeirio'n rheolaidd at "gymeriadau". Mae ei hoffter o bobl wedi dangos yn ei waith erioed, ac mae'n dweud bod hynny'n rhywbeth sydd wedi bod efo fo ers yn blentyn.
"Gwrandawr ydw i'n fwy na dim.
"Oedd na fainc tu allan i'n tŷ ni, ac oedd fy nhad yn mynd allan ar noson o haf a bydden i'n cael mynd gydag e. A dyna ble bydde gweision ffermydd, a phobl yn pasio heibio ar eu ffordd o'r Black neu'r Red yn cael stop 'dach chi i gael sgwrs. Ac oedd fy nhad yn dweud wrtha' i bob amser; 'paid ti gweud dim byd, gwranda arnyn nhw, ddysgi di lawer mwy.' A wy 'di cofio hwnna."
Dechreuodd ei yrfa fel sgwennwr ym myd newyddiaduraeth, ac mae'r ddisgyblaeth honno wedi aros gydag ef drwy ei waith fel storïwr, ac mae'r papur newydd mor bwysig ag erioed iddo.
"Mae'n debyg, dim mod i'n cofio mor dda, pan o'n i'n blentyn roedd fy nhad yn cael papur newydd ac ar ôl iddo orffen y papur roedd e'n ei daflu i fi. Pan o'n i tua 7/8 oed mae'n debyg. Ac mae hwnna wedi glynnu 'da fi.
"Pan ges i gyfle i fynd i'r Cambrian News i ddechrau yn 1967, dyna fy mreuddwyd i wedi'i gwireddu achos ysgrifennu oedd y peth mawr. Wedyn Y Cymro am flynyddoedd a gwaith freelance hefyd. Y petha cyntaf dw i'n neud bob bore ydi darllen papur newydd.
"Erbyn hyn, dw i'n darllen lot llai am ryw reswm, ond fedra i ddim rhoi fyny papur newydd."

Lyn gyda'i fab, Dylan
Gyda gyrfa mor hirhoedlog ag un Lyn Ebenezer mae'n anodd darogan beth ddaw nesaf.
"Rwy dal i anfon colofn i'r Cymro bob mis, ond wy' wedi arafu llawer iawn a dweud y gwir, mae oedran yn dweud tipyn.
"Ond 'sech chi'n gofyn i mi beth oedd y peth mwyaf ddigwyddodd yn ystod y busnes ma o sgwennu, cael cut and paste! Yn y cyfrolau cyntaf o'n i'n gorfod defnyddio teipiadur cyffredin. Wedyn, os o'n i'n gwneud camgymeriad o'n i'n gorfod ail deipio'r dudalen i gyd!
"Felly pwy bynnag wnaeth ddarganfod cut and paste, wel, fi'n ei edmygu fe am byth!"
Ffion Dafis
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2017