Llangeitho a'i bentrefwyr dylanwadol

Mae cerflun o Daniel Rowland y tu allan i Gapel Gwynfil
- Cyhoeddwyd
Mae pentref Llangeitho yng Ngheredigion wedi ei leoli rhyw bedair milltir i'r gorllewin o Dregaron.
Erbyn heddiw mae dros 800 o bobl yn byw yno, ond 300 mlynedd yn ôl, roedd y pentref yn denu miloedd o bobl o dros Gymru gyfan.
Y rheswm pennaf am hynny oedd dylanwad un person, Daniel Rowland, un o arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru.
Ond nid Daniel Rowland yn unig sydd wedi helpu i roi Llangeitho ar y map. Dyma ambell i berson arall dylanwadol sydd â chysylltiadau clos â'r pentref.
Daniel Rowland

Roedd rhai o wasanaethau Daniel Rowland yn denu miloedd o bobl i bentref Llangeitho
Daniel Rowland oedd seren y cyfnod, yn denu torfeydd cyn belled ag Ynys Môn i wrando arno'n pregethu.
Roedd yn allweddol yn yr adfywiad o fewn Eglwys Lloegr, cyn arwain at greu'r Methodistiaid Calfinaidd gyda Hywel Harris o Drefeca a William Williams Pantycelyn hefyd yn ddylanwadol yn nes ymlaen.
Ganwyd Daniel Rowland yn 1713 yn Nantcwnlle ger Bwlch-llan. Roedd yn un o chwech o blant ac roedd ei dad yn offeiriad eglwys.
Erbyn 1735 roedd Daniel wedi'i urddo'n ddiacon gan Esgob Tyddewi, Nicholas Claggett.
Un diwrnod wrth wrando ar Gruffudd Jones yn pregethu yn Llanddewibrefi, cafodd dröedigaeth, ac fe newidiodd ei ffordd o bregethu i fod yn llawer mwy grymus.
Fe ledaenodd y gair am y pregethau dylanwadol yma i blwyfi eraill ac fe ddechreuodd torfeydd deithio'n benodol i wrando ar Daniel Rowland yn pregethu.
Yn y cyfamser roedd wedi cwrdd â Hywel Harris a dyma ddechrau ar bartneriaeth wnaeth bara' bron i 15 mlynedd o deithio Cymru yn lledaenu neges yr enwad newydd.
Dyma ble glywodd William Williams, Pantycelyn, yr emynwr enwog, Harris yn pregethu un diwrnod a chael ei syfrdanu ddigon iddo ef hefyd gael tröedigaeth.
Adeiladwyd y Capel gwreiddiol ym mhentref Llangeitho yn 1760 ar gyfer y gymuned o Fethodistiaid Calfinaidd.
Mae pulpud y capel wedi'i adeiladu'n uchel ac mae drws arbennig y tu cefn iddo, er mwyn i bregethwyr allu cael mynediad rhwydd pan oedd y capel yn orlawn.
Dr Martyn Lloyd Jones

Nawr fod pentref Llangeitho yn cael ei gysylltu'n bennaf â'r Diwygiad Methodistiaid, daeth eto i amlygrwydd crefyddol ar ddechrau'r 20fed ganrif o ganlyniad i ddylanwad Dr Martin Lloyd Jones.
Cydnabyddir fel un o bregethwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn ei gyfnod.
Er iddo gael ei eni yng Nghaerdydd yn 1899, cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Llangeitho ac wedyn yn Ysgol Uwchradd Tregaron.
Fe weithiodd fel meddyg yn Harley Strret yn Llundain am ryw ddwy flynedd cyn derbyn yr alwad i fynd i bregethu.
Un o'r rhesymau am y dröedigaeth oedd dylanwad dyfodiad Sesiwn Haf y Methodistiaid Calfinaidd yn Llangeitho arno yn 1913.
Roedd y digwyddiad wedi'i drefnu i ddathlu dau ganmlwyddiant geni Daniel Rowland.
Cafodd y sesiwn ddylanwad mawr arno, wnaeth wneud iddo sylweddoli fod ganddo awydd i fynd i bregethu.
Erbyn 1926 roedd wedi cefnu'n llwyr ar y byd meddygol ac wedi'i swyno gan bregethau efengylaidd pobl fel Dr John A Hutton yng Nghapel Westminster.
Fe symudodd i Aberafan i weithio fel gweinidog; penderfyniad a synnodd sawl un, gan ei fod yn cefnu ar gyflog o tua £3,500 yn Llundain i weithio am ychydig dros £200 y flwyddyn yn ne Cymru.
Aeth yn ôl i Lundain yn 1939 a phregethu yng Nghapel Westminster yn y ddinas.
Fe gyhoeddodd sawl cyfrol o'i bregethau drwy ei oes, ac o ganlyniad, roedd yn bregethwr poblogaidd.
Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd Capel Westminster, a oedd yn dal tua 2,000 o bobl, yn llawn ar y Sul.
Bu farw yn 1981 a hyd heddiw mae'n cael ei gofio yn Llangeitho gyda phlac er cof amdano yn adeilad caffi'r pentref ble'r oedd yn byw.
Annie 'Cwrt Mawr'

Annie Hughes Griffiths (ail o'r dde) yn cyflwyno'r ddeiseb yn Washington
Cafodd Ann Jane Hughes Davies ei geni ym 1873 yng Nghwrt Mawr, Llangeitho.
Hi oedd y chweched o ddeg o blant Robert Joseph Davies (1839-1892) a'i wraig Frances.
Cafodd addysg breifat a bu'n astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth rhwng 1892-1894.
Roedd yn gadeirydd ar Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, cyn dod yn llywydd ar Bwyllgor y Menywod. Dyma pryd y dechreuodd weithio ar ddeiseb, yn galw ar ferched America i berswadio yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.
Ar ôl casglu llofnodion bron i 400,000 o fenywod ledled Cymru, fe arweiniodd ddirprwyaeth i'r Unol Daleithiau yn 1924 i gyflwyno deiseb heddwch i'r Tŷ Gwyn.
Y gred yw bod yr ymgyrch wedi rhoi ysgogiad newydd i fudiadau heddwch menywod yn yr Unol Daleithiau.
Mae Annie wedi ei chladdu ym mynwent Capel Gwynfil, Llangeitho a hyd nes i'r ddeiseb ddod i sylw'r cyhoedd doedd neb yn lleol yn gwybod fawr ddim amdani.
Evan Morgan

Evan Morgan yn ystod diwrnod ei briodas yn Shanghai yn 1886
Ganwyd Evan Morgan ar 1 Hydref 1860 yn Llangeitho.
Ddiwedd yr 19eg ganrif, fe dderbyniodd Evan Morgan yr alwad i deithio i China, er mwyn ceisio lledaenu'r neges Fethodistiaid oedd mor ddylanwadol yn hanes Llangeitho.
Fe ymunodd ag Ymgyrch Fewndirol China (China Inland Mission), sefydliad a gafodd ei ffurfio gan Hudson Taylor i geisio cenhadu yn ardaloedd mewndirol y wlad.
Fe ddysgodd sut i siarad yr iaith Mandarin er mwyn gallu cyfathrebu gyda'r trigolion lleol.
Yn ystod ei gyfnod yn ardaloedd Sianfu, Shansi a Shanghai, fe adeiladodd ysgolion, eglwysi a chlinigau meddygol.
Roedd yn gyfrifol hefyd am dwf Gristnogaeth yn y wlad, ble roedd traddodiad yn bodoli yn gwrthwynebu'r ffydd Gristnogol.
Fe dderbyniodd gydnabyddiaeth gan lywodraeth China ar ddechrau'r 20fed ganrif am ei waith, rhywbeth prin iawn i genhadwr tramor.
Bu farw yn 1941.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2023