Ateb y Galw: Gwyn Eiddior

Gwyn Eiddior
- Cyhoeddwyd
Un o wynebau cyfarwydd y gyfres Prosiect Pum Mil sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, sef y cynllunydd o Eifionydd, Gwyn Eiddior.
Gyda chyfres newydd ymlaen ar S4C ar hyn o bryd, pwy well i Ateb y Galw na'r un sy'n rhoi help llaw i Trystan-Ellis Morris ac Emma Walford wrth iddyn nhw deithio Cymru'n trawsnewid popeth dan haul... o iard chwarae i festri capel a neuadd bentref dan gyllideb o bum mil o bunnau'n unig.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Archwilio tu mewn i'r cwt ieir tra oeddwn yn cael fy ngwarchod yn Tyddyn Gwyn (cartref Taid a Nain). Ro'n i'n dangos hoffter o gabanau pren o oedran cynnar ella, ond yn rhyfedd dwi bellach ddim yn or-hoff o ieir! Hynny a chael gwisg a helmed Sam Tân pan oeddwn i tua tair oed.

Gwyn a'r cwt ieir
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Copa Mynydd Graig Goch. Dyma fynydd tawel ar ddiwedd Crib Nantlle ar erchwyn gorllewinol Eryri yn fy nghynefin.
Yn agos i Gwindy Llecheiddior, y fferm lle ces i fy magu, felly mi alla i bicio i fyny o Fryn Bugeiliaid i'r copa mewn byr amser. Jysd y peth efo panad ddeg ar fore gaeafllyd oer neu ar noson braf o wanwyn i weld y machlud diguro. Lle i enaid gael llonydd tra'n astudio ein darn o dir – mae'r golygfeydd yn odidog am Ben Llŷn, Môn, Eryri a Bae Ceredigion. Peidiwch â deud wrth bawb am y lle.
Mae 'na bolyn a baner draig goch arno ar y copa, ond mae'r gwyntoedd cryfion yn ei llarpio'n edafau yn barhaus felly mae gofyn am un newydd yn reit aml. Dwi wedi rhoi sawl fflag newydd a sgen i ddim syniad pwy arall sy'n gwneud yr un gorchwyl ond mae ganddon ni ryw rota yn yr isymwybod mae'n rhaid!

Gwyn yn mynydda
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Dwi wedi cael sawl noson fythgofiadwy ar amryw deithiau, gwyliau, Eisteddfodau a chrwydriadau a dwi'n siŵr fod sawl noson boncyrs wedi mynd yn angof hefyd.
Anturiaethau i Ffrainc yn ystod Euro 2016 – Toulouse, Paris a Lille yn fythgofiadwy. Dwi hefyd wir yn mwynhau dreifio ar noson braf i un o draethau Llŷn efo'r gwely neidar yng nghefn y fan a setlo am noson efo barbeciw a thun neu ddau.
Ond mae 'na un noson wyllt yng Nghlwb Reggae Phakding, Nepal yn aros yn y cof! Caban bychan pren mewn pentref bychan 2600 metr i fyny llethrau Everest yn yr Himalayas ydi o, a thra ar y daith 'nôl i lawr o Base Camp bu criw o 14 ohonom o Gymru yn dathlu ein her lwyddiannus efo'r Sherpas llon fu'n ein tywys.

Y criw ar eu ffordd i gyrraedd gwersyll basecamp Everest yn 2018
Bu 'na ddawnsio a gwneud campau acrobatig rhyfedda drwy'r nos i gyfeiliant mics hynod eclectig o fiwsig Cymraeg, Nepali a Jamaica! Mi gawson ni groeso mor gynnes yn y mynyddoedd a gwneud ffrindiau oes. Ond tydi y penmaenmawr y bore wedyn ar y fath altitude o awyr denau ddim i'w argymell o gwbwl cofiwch!

'Y giang hwyliog'
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Dyfeisgar, gwirion, munud-ola.

Gwyn a'i helpars yn bod yn ddyfeisgar yn ei waith yn cynllunio maes yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Dwi'n chwerthin yn aml diolch byth er bod gen i laff od, sy'n ymdebygu i strimar sy'n methu tanio yn ôl rhywun. Dwi'n ffodus o gael gwneud job lle mae tynnu coes a chwerthin yn mynd law yn llaw.
Bore trennydd i'r noson wyllt yn Phakding roedden ni i gyd yn dal awyren fechan am bump y bore o faes awyr Lukla i Kathmandu. Mae'r ocsigen mor denau yn yr awyr fel nad ydi'r awyrennau yn mentro diffodd eu hinjians tra'n llwytho'r teithwyr ac mae'r runway mor fyr nes mae'r awyrennau i bob pwrpas yn hedfan i ffwrdd dros y clogwyn a gobeithio am y gora'.
Roedd sawl un o'r giang yn dal reit 'hwyliog', felly gallwch ddychmygu'r cyfuniad gwallgo o hwyl a chwerthin a dwys bryderu yng nghanol sŵn y propelars; chaos go iawn!

Hedfan o Lukla i Kathmandu
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Mae troeon trwstan jysd yn rhan o fywyd tydi, a dwi'n codi cywilydd arnaf fy hun yn aml, felly dwi'n trio anghofio'n reit sydyn!
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Er cymaint ydan ni'n chwerthin, yn aml nes ein bod ni'n crio tra'n ffilmio'r gyfres, rydan ni wedi profi diweddglo reit deimladwy i sawl pennod o Prosiect Pum Mil dros y blynyddoedd.
Am amrywiol resymau mae teimlo egni, dyfalbarhad a chariad pobol at eu cymunedau yn wirioneddol ddirdynnol, ac yn aml iawn mae'r hyn sy'n gyrru pobol i helpu eraill yn egino o wynebu heriau ac anawsterau mwya difrifol bywyd eu hunain.

Gwyn gyda chyflwynwyr Prosiect Pum Mil, Trystan ac Emma
Dwi'n dueddol o ddal petha' mewn tra ydan ni'n adeiladu a ffilmio, mae'r adrenalin yn llifo yndda i i orffen y job mae'n siŵr, ond yn aml iawn ar y dreif adra gyda'r nos mae o'n fy llorio i a daw sawl deigryn wrth i mi wir sylweddoli maint aberth pobl a chymaint mae'r prosiectau yma'n olygu iddyn nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau.
Mi fydda i'n sylweddoli pa mor wirioneddol ffodus ydw i o gael y job unigryw yma o lywio'r gweddnewidiadau efo pobl mor arbennig.
Mae ffilmiau a chyfresi emosiynol yn fy nghael i hefyd, ro'n i'n gwylio We Live in Time yn y sinema yn ddiweddar yn fy nagrau. Ffilm wych ond tyff watch go iawn gyda Florence Pugh ac Andrew Garfield yn portreadu cwpwl yn delio efo salwch difrifol.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Oes, digonadd! Y prif un ydi byw yn y 'munud ola mode' drwy'r amser. Dwi'n 'time optimist' ac felly'n euog o'i thorri hi'n fain i bron bob dim, sy'n golygu lot o frysio i lefydd, rhedeg am drenau ac awyrennau, stresio mewn ciws a thraffig, a gorffen gwaith eiliadau cyn y ded-lein.
Dwi'n meddwl ei fod o'n gymaint o arfer personol bellach ag ydi o yn gynnyrch o fod yn gweithio ym myd munud-ola ac afreolaidd y diwydiant teledu a digwyddiadau byw. Dwi wedi ymgynefino i fyw felma rywsut, felly mae'n ryw sefyllfa iâr ac wy na allaf ei datrys bellach beryg!
Aeth petha ychydig bach yn 'rhy gormod' ar wyliau i Ibiza efo Mared fy nghariad llynedd. Cyn dal yr awyren yn y prynhawn mi benderfynish bysa hi'n syniad da cael apwyntiad deintydd yng Nghaerdydd yn y bore, a golygodd hynny frysio gwyllt i faes awyr Bryste, cael ein dal mewn traffig jams eirin ar y ffordd nes ein bod ni'n hwyr. Roedd un maes parcio yn llawn a'r llall yn pre booking only ac ro'n i'n rhy hwyr i archebu. Ymbil ar y staff i gael parcio yno, roedden ni bellach yn hwyr iawn a dim amser ar gyfer ciw enfawr i ddal bws gwennol, felly doedd dim amdani ond jogio'r milltir a hanner olaf rownd perimetr ffens y runway efo dau fag i ddal yr awyren jysd mewn pryd.
Roedd yn rhaid i mi hefyd roi fy mawd dros expiry date fy mhasbort wrth fynd drwy security am fod hwnnw bron â dod i ben! Wedyn ar ôl glanio fe ddiffoddodd batri fy ffôn, a dim ond gen i roedd cyfeiriad y llety!
Felly fe dreulion ni awran dda yn gyrru yn y tywyllwch ar hyd lonydd bach caregog cefn gwlad Ibiza, nes yn y diwedd mi lwyddon ni i ddarganfod y villa ar google maps [ffôn Mared] drwy adnabod siâp anarferol y pwll nofio ro'n i'n gofio o'r lluniau hysbysebu. Mi gawson ni wyliau braf ac ymlaciedig iawn wedyn, ond roedd cyrraedd yn ddiwrnod stressful!
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Dwi'n ddarllenwr gwael, dwi'n dal ar y llyfrau sydd efo mwy o luniau na 'sgrifen felly 'swn i'n deud mai llyfr coginio Ottolenghi yn y gegin ydi'r un sydd wedi'i fodio fwya.
Dwi ddim yn un am ddarllen a dilyn y ryseitiau chwaith – cip sydyn am ysbrydoliaeth a chynhwysion, wedyn dilyn fy nhrywydd fy hun.
Mae albym Goreuon o'r Gwaethaf Topper neu record gynta The Stone Roses yn rhai alla i wastad ddychwelyd i wrando arnyn nhw, y ddwy yn orwych a phob cân bron yn bangar.
Pe byddwn i'n cael dewis cyfnod yn y gorffennol i ailymweld â fo yna y 1990au ym Manceinion fysa hwnnw, i brofi ychydig o'r Madchester! Neu y 1890au ym Mharis i gydbrofi cynnwrf celf arloesol yr Impressionists am y tro cyntaf neu'r 1400au yng Nghymru ... ond dach chi ddim yn gofyn y cwestiwn yna yn nac ydach!
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi'n cael diod a pham?
Owain Glyndŵr, Wil Sam fy nhaid, fy Modryb Elin, Barry John a Barti Ddu ... mi fysa 'na chwerthin a straeon da bysa!
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae gen i habit cracyrs, gorddibyniaeth llwyr (ar y rhai bwytadwy, nid y rhai Nadoligaidd). Dwi'n trypophobic, dwi ofn lot o dyllau bach. Fe wnes i hefyd bortreadu Tom Jones ifanc ar bosteri ac mewn hysbyseb ar gyfer y sioe gerdd Tom gan gwmni theatr Na nÓg. Do'n i ddim yn perfformio yn y sioe go iawn, felly heb orfod canu nodyn diolch byth!

Gwyn fel Tom Jones ifanc
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi'n ei wneud?
Sbin ar y beic efo ffrindia yn y bora, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n landio mewn bar braf rywle ger y môr. Lagyr bach oer i dorri sychad, wedyn dechra llenwi'n bolia efo amrywiol ddanteithion mediteranianllyd drwy'r prynhawn – y cigoedd, pysgod, caws, olives wedi'u hiro â gwin coch. Fysa dim angen poeni am reidio adra na fysa!
Pa lun sy'n bwysig i chi a pham?
Y llun o deulu Tyddyn Gwyn, mae pawb ynddo fo (ar wahân i 'nghefndar Sion Gabriel, cyw melyn y nyth oedd heb ddeor pan dynnwyd y llun). Mae o'n dod â llwyth o atgofion braf yn ôl, lot o chwerthin a jôcs a straeon digri, magwraeth syml a hapus iawn yng nghefn gwlad Eifionydd.
Ers i ni golli fy Modryb Elin chydig flynyddoedd yn ôl mae o hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd mwynhau ein hamser ar y ddaear hon efo ein teulu a'n ffrindia'.

Teulu Tyddyn Gwyn
Petasech chi'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/ hi?
Elon Musk – rhoi ei ymdrechion a'i arian i fuddiannau gwell yn y bore ac wedyn mynd am sbin rownd y sêr yn un o'i rocets ar ôl gwaith!
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd21 Ebrill