Pryder am gyfeiriadau at dagu mewn cyflwyniad addysg rhyw i blant

disgyblion mewn dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae addysg rhyw a pherthnasau yn orfodol i ddysgwyr rhwng tair ac 16 oed yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae cyngor sir wedi cael eu beirniadu am greu cyflwyniad PowerPoint at ddefnydd ysgolion oedd i'w weld yn awgrymu ei bod yn iawn i dagu rhywun yn ystod rhyw.

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys y frawddeg: "Dyw hi byth yn iawn i ddechrau tagu rhywun cyn gofyn am ganiatâd."

Dywedodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ei fod yn rhan o fersiwn ddrafft o'r cyflwyniad, nad oedd erioed wedi cael ei ddangos i blant a bod y cynnwys wedi ei addasu yn dilyn adborth proffesiynol.

Ond mae arbenigwyr a'r Aelod Ceidwadol o'r Senedd, Natasha Asghar yn gofyn pam fod yr awdurdod lleol wedi ei gweld yn "briodol" i gynnwys gweithred anghyfreithlon mewn unrhyw gyflwyniad.

Fe wnaeth Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr gomisiynu'r adnodd gan eu gwasanaeth cam-drin domestig mewnol - Assia - ac fe gafodd fersiwn ohono ei ryddhau y llynedd.

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan a Phrif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer ymhlith y rhai wnaeth dderbyn llythyr agored yn mynegi pryder rhieni a gweithwyr proffesiynol sy'n rhoi gwersi addysg rhyw.

Dywedodd Claire Waxman, Comisiynydd Dioddefwyr Llundain, wrth bapur newydd y Times fod y cynnwys yn "bryderus iawn".

Fe wnaeth y cyn-Aelod o Senedd Ewrop, y Fonesig Jacqueline Foster ddweud wrth Senedd San Steffan fod tagu yn drosedd all arwain at gyfnod yn y carchar.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod tagu o'r fath yn "beryglus ac anghyfreithlon" a bod yr adnoddau a ddarparwyd i ysgolion gan y cyngor yn "gwneud hyn yn glir".

Adeilad Cyngor Pen-y-bontFfynhonnell y llun, Geograph | Betty Longbottom
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Pen-y-bont yn dweud na chafodd y sleid dan sylw ei ddangos i unrhyw ddysgwyr

Mae'r cyngor bellach wedi cyhoeddi "eglurhad" sy'n nodi fod y cynnwys dan sylw yn "rhan o wybodaeth anghywir neu wedi dyddio, a gafodd ei ddiweddaru neu ei ddileu".

Ond roedd hynny'n codi cwestiynau ynglŷn â pham fod negeseuon o'r fath wedi cael eu cynnwys yn y lle cyntaf.

Yn dilyn cais pellach am ymateb gan BBC Cymru, dywedodd y cyngor fod y sleid yn rhan o "gyflwyniad gweithredol".

"Y syniad oedd y byddai'r person oedd yn rhoi'r cyflwyniad yn defnyddio'r sleid i annog trafodaeth, cyn egluro fod tagu o'r fath yn drosedd peryglus ac anghyfreithlon sy'n gallu arwain at gosbau difrifol," meddai'r awdurdod lleol mewn datganiad.

Esboniodd y cyngor fod rhan o'r cyflwyniad wedi ei ddileu yn dilyn adborth gan weithwyr proffesiynol yn ystod y broses o lunio'r adnodd.

Michael ConroyFfynhonnell y llun, Michael Conroy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael Conroy yn poeni nad yw staff ysgolion wedi cael digon o hyfforddiant i allu addysgu rhai pynciau yn y maes

Mae ffynonellau, gan gynnwys Michael Conroy - sy'n hyfforddi gweithwyr proffesiynol fel athrawon i allu dysgu gwersi addysg rhyw - wedi dweud wrth y BBC fod y cyflwyniad wedi cael ei gynnig i ysgolion a sefydliadau ieuenctid eraill i'w ddangos.

Ond mae'r cyngor yn gwrthod hynny, ac yn dweud fod yr adnodd wedi ei anfon at "grŵp bach o weithwyr proffesiynol fel darn o waith oedd yn cael ei ddatblygu er mwyn cael adborth".

Ychwanegodd Mr Conroy, cyn-gydlynydd addysg bersonol, cymdeithasol ac iechyd mewn ysgolion, fod y cyflwyniad wedi ei rannu "fel rhywbeth i'w ddefnyddio i addysgu plant".

Pan welodd y cynnwys dan sylw am y tro cyntaf, dywedodd ei fod wedi "dychryn" ac nad oedd unrhyw wybodaeth bellach am ddiogelwch ar sleidiau eraill.

"Mae'r syniad fod rhywun yn dweud ei bod hi'n iawn i dagu rhywun os ydyn nhw'n cytuno yn ofnadwy... dyma'r gwrthwyneb i ddiogelu, ac mae'n chwalu ymddiriedaeth."

Natasha AsgharFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Natasha Asghar am weld y cyflwyniad yn cael ei ryddhau yn gyhoeddus

Dywedodd Ms Asghar fod rhai rhieni wedi cysylltu gyda hi i rannu eu pryderon, ac mae hi'n galw ar y cyngor i ryddhau'r cynnwys.

"Dwi'n galw am gael gweld y ddau fersiwn o'r cyflwyniad PowerPoint," meddai'r AS, sy'n aelod o bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd.

"Dylem ni ddim cuddio'r ffaith fod y rhai wnaeth greu'r cynnwys gwreiddiol yn credu ei fod yn addasu.

"Mae angen edrych fewn i'r mater i wneud yn siŵr fod plant yn derbyn yr addysg iawn."

Er i'r cyngor ddweud nad oedd y sleid fod i gael ei ddefnyddio ar ei ben ei hun, dywedodd Ms Asghar: "Dyw hynny ddim yn esbonio pam fod y rhai oedd yn gyfrifol am y cynnwys gwreiddiol wedi penderfynu ei fod yn addas.

"Dyna yw fy mhryder i."

Ychwanegodd ei bod wedi cysylltu gyda'r cyngor, ond nad oedd hi wedi cael ateb.

Fiona MackenzieFfynhonnell y llun, Fiona Mackenzie
Disgrifiad o’r llun,

Mae Fiona Mackenzie am weld llywodraethau yn rheoli'r adnoddau sy'n cael eu defnyddio mewn gwersi addysg rhyw

Mae'r enghraifft yma wedi codi pryderon ymhlith rhieni, arbenigwyr a gwleidyddion ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei addysgu i blant mewn gwersi addysg rhyw.

"Dwi'n gwybod y bydd y llywodraeth yn dweud mai gwaith un darparwr addysg rhyw yw hyn, ond dylai pob rhiant ofyn i gael gweld yr adnoddau sy'n cael eu defnyddio i addysgu eu plant mewn gwersi addysg bersonol," meddai Fiona Mackenzie - wnaeth arwain ymgyrch i addasu'r Bil Cam-drin Domestig.

"Cyfrifoldeb y llywodraeth yw hi i gymryd rheolaeth o adnoddau addysg rhyw.

"Mae gwneud hynny'n broses agored yn golygu fod unrhyw un yn gallu dweud wrth blant sut i gael rhyw."

Cyllid i gynnig 'arbenigedd a chefnogaeth'

Dywedodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr mewn datganiad: "Hoffem gadarnhau unwaith eto nad yw plant lleol yn cael eu dysgu i gredu fod ymddygiad rhywiol peryglus yn dderbyniol os oes caniatâd yn cael ei roi."

Pwysleisiodd Llywodraeth Cymru "na ddylai adnoddau anaddas gael eu rhannu gydag ysgolion na chael eu gweld gan ddysgwyr ar unrhyw bwynt".

Ychwanegodd y llywodraeth eu bod wedi darparu cyllid ychwanegol i ddarparu "arbenigedd a chefnogaeth" i ysgolion ac awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau fod adnoddau yn "addas ar gyfer oedran yr addysgwyr ac yn cyd-fynd a gofynion cyfreithiol".

"Rydyn ni wastad wedi bod yn glir fod angen i unrhyw adnoddau fod yn addas ar gyfer oedran a datblygiad y dysgwyr, ac yn cyd-fynd a gofynion y Cod Addysg Rhyw a Pherthnasau," meddai llefarydd.

Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn cais am ymateb.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig