Yw AI yn ddrwg i gyd?
- Cyhoeddwyd
Mae'n teimlo fel ei fod ym mhobman y dyddiau hyn, Deallusrwydd Artiffisial neu AI fel mae'n cael ei 'nabod yn fwy cyffredinol.
Yma, mae Bethany Williams-Potter, sydd wedi astudio Moeseg AI, yn ein harwain ni drwy rai o'r pryderon cyffredin am y dechnoleg hon.
Yw AI yn ddrwg i gyd?
Mae AI yn gallu deall a rhesymu yn union fel bodau dynol
Mae'r ateb yn yr enw. Deallusrwydd artiffisial yw AI. Mae wedi'i ddylunio a'i greu gan fodau dynol ond nid oes ganddo ddealltwriaeth o ystyr a chyd-destun yn annibynnol i orchmynion gan fodau dynol.
Mae'r system yn dysgu gan y wybodaeth mae'n ei derbyn gan y bobl sy'n ei defnynddio.
Mae AI yn bryder enfawr i artistiaid, awduron, cyfansoddwyr ac unrhyw un sy'n gweithio'n greadigol neu yn y celfyddydau. Mae'n gallu creu delweddau a synnau gydag ambell gyfarwyddyd a chlic.
Gan mai peiriant yw AI, nid yw'n gallu teimlo fel bod dynol, nid yw'n gallu dehongli emosiwn fel bod dynol, ac mae unrhyw beth y mae'n ei wybod am hynny wedi'i ddysgu, neu ei gymryd, gan rywbeth mae bodau dynol wedi'i greu.
Felly, nid yw'n gallu bod yn artist yng ngwir ystyr y gair.
- Cyhoeddwyd28 Medi 2024
Bydd AI yn cymryd ein swyddi yn y pendraw
Er y bydd AI yn gallu cyflawni rhai swyddi, mae'n fwy tebygol y bydd defnydd o AI yn ychwanegu at allu bodau dynol i wneud eu gwaith yn hytrach na'u disodli.
Mae enghreifftiau eisoes o hyn wedi digwydd ym maes meddygol lle mae AI yn cael ei ddefnyddio gan radiolegwyr i helpu gyda darllen sganiau i ddarganfod cancr y fron.
Mae'r system yn cael ei hyfforddi drwy wylio sut mae llygaid radiolegwyr yn symud tra'n edrych ar sganiau'n asesu a oes cancr yn bresennol. Bydd AI yn defnyddio'r wybodaeth hon i gyflawni'r un dasg yn gyflymach ac yn fwy effeithiol, heb flino.
Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i radiolegwyr wneud gwaith gofal a thriniaeth. Mae'r system AI hyd yn oed yn gallu gwneud awgrymiadau am driniaeth er mwyn cynnig y cymorth gorau i'r claf.
Ond hefyd, fel y gwnaeth y cwmni McDonald's ddysgu yn 2024 'dyw defnyddio AI ddim wastad yn beth da. Fe benderfynodd y cwmni roi'r gorau i ddefnyddio technoleg AI ar eu safleoedd "drive-thru" ar ôl i gwsmeriaid rannu eu profiadau ar-lein o'r dechnoleg yn camglywed a chamddehongli archebion.
Bacwn ar ben hufen iâ, unrhyw un?
Mae AI yn ddrud ac ar gyfer pobl gyfoethog yn unig
Erbyn hyn mae llawer o feddalwedd AI ar gael am ddim i'w ddefnyddio ar y we ac felly ar gael yn eitha hawdd i'r person cyffredin.
Bydd y modelau diweddaraf o ffonau clyfar i gyd yn cynnwys rhyw ffurf ar AI.
Fel gydag unrhyw dechnoleg newydd, mae mwy i'w gael am brisiau uwch. Drwy dalu am wasanaeth 'premium' bydd gallu'r AI yn well, a ni fydd cynfyngiadau defnydd arno er enghraifft.
Gall y caledwedd sy'n hwyluso defnydd o AI hefyd fod yn gostus ond eto, mae ystod y prisiau'n amrywio o fforddiadwy i ddrud eithriadol.
Y dyfodol?
Does dim dwywaith bod AI yn mynd i fod yn rhan o'n bywydau yn y dyfodol. Mae ganddo lawer o bethau da a drwg i'w gynnig ac rydyn ni wedi gweld llu o enghreifftiau o'r ddau begwn yn y penawdau dros y blynyddoedd.
Ond yn y bôn, yn ein dwylo ni mae'r pŵer meddai Bethany.
"Y cwestiwn ddylen ni fod yn gofyn ydy sut dylen ni ddefnyddio AI, nid sut gallwn ni ddefnyddio AI. 'Dyw'r perygl ddim yn ymwneud ag AI ei hunan, ond yn hytrach gyda'r ffordd ry'n ni'n defnyddio AI.
"Gall fod yn ffrind, nid bygythiad, ac mae hynny lawr i ni."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2024