'Gambl' gadael byd addysg i fod yn Welsh Whisperer llawn amser

Welsh Whisperer
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andy Walton yn adnabyddus am berfformio fel y cymeriad canu gwlad Welsh Whisperer

  • Cyhoeddwyd

Roedd gadael swydd saff llawn amser er mwyn ceisio gwneud bywoliaeth fel y Welsh Whisperer yn gambl, meddai Andy Walton.

Ond ddegawd yn ddiweddarach mae'r diddanwr yn falch o fod wedi gwneud y penderfyniad gan ei fod wedi llwyddo.

Ar y pryd roedd o'n gweithio llawn amser fel athro yn Ysgol Gynradd Maesincla, Caernarfon, tra'n cynnal nosweithiau fel y canwr gwlad Welsh Whisperer yn ei amser rhydd.

Ond gyda'r cymeriad yn dod yn fwyfwy llwyddiannus fe ddechreuodd ystyried rhoi'r gorau i'w swydd.

Ofn difaru

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd: "O'n i'n gweld pobl eraill o gwmpas y lle ac o' n ni'n meddwl 'ydi nhw'n neud e llawn amser? Sai'n credu bod nhw!'

"O'n i'n gweld bod lot o bobl yn neud e ond hefyd yn gweithio i'r cyngor neu hefyd yn athro neu hefyd yn beth bynnag, ond ar yr un pryd o'n i'n meddwl 'cer amdani! Os wnai ddim trio hwn fyddai'n difaru ac mewn 10 mlynedd falle fydd hi'n rhy hwyr' - so es i amdani.

"Dwi'n falch - a 10 mlynedd yn ddiweddarach dwi'n dal yma."

Y Welsh WhispererFfynhonnell y llun, bb
Disgrifiad o’r llun,

'Ni'n beilo nawr' - un o ganeuon enwocaf y Welsh Whisperer

Fe wnaeth Andy Walton, sy'n dod o sir Gaerfyrddin, greu'r cymeriad canu gwlad o orllewin Cymru wedi iddo ddychwelyd i Gymru ar ôl cyfnod yn gweithio mewn bariau yn Sheffield lle bu'n fyfyriwr.

Teithiodd yn helaeth ar hyd a lled Cymru yn diddanu cynulleidfaoedd gyda'i ganeuon fel Ni'n Beilo Nawr a Loris Mansel Davies.

Mae o bellach wedi rhyddhau tri albwm a nifer o ganeuon, a bu'n cyflwyno rhaglen canu gwlad ar BBC Radio Cymru am flynyddoedd.

Bywoliaeth 'gwell na'r disgwyl'

Yn ogystal â pharhau i berfformio o gwmpas Cymru, mae ganddo bodlediad am bêl-droed ac mae'n gwneud gweithdai sgwennu caneuon mewn ysgolion cynradd.

Meddai: "Dwi'n neud bywoliaeth gwell na beth o'n i'n meddwl i fod yn onest ond am y ffaith bod fi'n hyblyg iawn ac yn fodlon neud lot fawr o bethe.

"Does 'na ddim dyfodol i bobl i fynd rownd a neud bywoliaeth ar ganu yn unig a bydde ti ddim ishe - achos bydde ti isho bod mewn clybia rygbi a pybs ac ati tair, pedair, pum gwaith yr wythnos? Ti ddim isho neud hynne, dyw e ddim yn glamorous iawn.

"Rhwng popeth dwi'n hapus iawn gyda'r peth mond bod fi'n gallu cario mlaen i gynhyrchu pethe. A dwi wastad wedi dweud tra bod y ffôn yn canu a tra bod y galwadau yn dod mewn byddai'n dal i ddod."

Andy Walton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andy Walton, sy'n gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Caernarfon, yn cyflwyno podlediad am y gêm ar lawr gwlad

Lleisiau Cymru: Y Byd yn Grwn

Andy Walton ar daith o amgylch rhai o glybiau pêl-droed y Gogledd Orllewin

Ers datblygu salwch Crohn's mae wedi gorfod addasu ei amserlen gan fod gorweithio a rhoi straen ar y corff yn cael effaith arno.

Ar ôl cyfnod yn byw ym Methesda mae o a'i wraig, a'u merch pedair oed, wedi setlo yng Nghaernarfon. Er ei fod yn parhau i wneud bywoliaeth fel cyflwynydd a diddanwr mae'n cydnabod bod y penderfyniad cychwynnol wedi bod yn anodd.

Meddai: "Oedd hi yn dipyn o gambl achos chi mewn swydd llawn amser - ok, doedd dim plant 'da fi ar y pryd felly doedd o ddim hynny faint o gambl, ond dwi'n siŵr roedd morgais 'da ni a tisho byw.

"Ti ddim yn gwybod os mae o'n mynd i weithio mas... ti'n gwybod ti ddim am fod yn filiwnydd fel cerddor neu yn y byd adloniant Cymraeg ond o'n i'n gweld cyfle i neud bywoliaeth.

"O'n i'n gweld os ti'n gweithio'n galed ac yn fodlon mynd i lot o lefydd a neud sawl peth gwahanol bod 'na gyfle ac wedyn es i amdani."

  • Gallwch wrando ar Beti a'i Phobol am 1800 dydd Sul, 11 Mai neu ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig