S4C: Cadarnhau cadeirydd ac aelodau newydd i'r bwrdd

Delyth EvansFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ms Evans yn olynu'r cadeirydd dros dro Guto Bebb a'r cadeirydd parhaol diwethaf, Rhodri Williams

  • Cyhoeddwyd

Mae Delyth Evans wedi cael ei chadarnhau fel cadeirydd newydd S4C.

Daw wedi iddi ymddangos gerbron Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan ar gyfer gwrandawiad cyn penodi ar 23 Ebrill.

Mae Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS) hefyd wedi cyhoeddi penodiad pum aelod newydd i Fwrdd S4C sef Dr Gwenllian Lansdown Davies, Dyfrig Davies, Wyn Innes, Betsan Powys a Catryn Ramasut.

Fe ddechreuodd Ms Evans yn ei rôl ar 1 Mai 2025, gan olynu Guto Bebb fu'n gadeirydd dros dro.

Roedd Ms Evans yn newyddiadurwr cyn cael ei hethol yn Aelod Cynulliad - fel yr oedd bryd hynny - dros y Blaid Lafur yn 2000.

Ers hynny mae hi wedi gweithio fel prif weithredwr elusen Smart Works, ac ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru, yn llywodraethwr yng Ngholeg Gwent ac yn ymddiriedolwr gyda'r Urdd a'r Alacrity Foundation.

Ddechrau 2024 cyhoeddodd Rhodri Williams na fyddai'n parhau yn rôl y cadeirydd yn dilyn cyfnod cythryblus i'r darlledwr.

Cafodd y cyn-AS Guto Bebb ei benodi dros dro, ond dywedodd yntau nad oedd eisiau'r swydd yn barhaol.

Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS), sy'n gyfrifol am benodiadau cyhoeddus y sianel.

'Cyfnod trawsnewidiol i S4C'

Wrth ymateb i'r cadarnhad mai Ms Evans fydd y cadeirydd newydd, dywedodd Llŷr Morus, cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC): "Croesawn benodiad Delyth Evans yn gadeirydd newydd S4C.

"Bydd profiad Delyth yn hynod o fuddiol ac rydym yn croesawu ei geiriau diweddar i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn cydnabod y gwaith pwysig yn ein sector wrth ddarparu ystod eang o gynnwys safon uchel i S4C.

"Mae hwn wedi bod yn gyfnod trawsnewidiol ar gyfer S4C ac rydyn yn gwerthfawrogi'r gwaith pwysig gan y cadeirydd dros dro, Guto Bebb dros y misoedd diwethaf ac yn ei ddiolch am ei ymroddiad gyda'n sector."

Ychwanegodd: "Rydyn yn ddiolchgar fod yna cadeirydd llawn-amser nawr mewn lle wrth i S4C ac ein sector gymryd rhan yn y ddadl ar ddyfodol Ffi'r Drwydded Deledu, sydd yn ffynhonnell i holl arian cyhoeddus S4C."

Betsan Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Betsan Powys yn un o'r pum aelod newydd sydd wedi'u penodi i fwrdd S4C

Mae'r DCMS hefyd wedi cyhoeddi penodi pum aelod newydd i Fwrdd S4C - Dr Gwenllian Lansdown Davies, Dyfrig Davies, Wyn Innes, Betsan Powys a Catryn Ramasut.

Mae gan Dyfrig Davies dros 30 mlynedd o brofiad o fewn y maes radio, teledu a chynnwys digidol.

Roedd yn rheolwr gyfarwyddwr i gwmni Telesgop, ac hefyd yn gadeirydd ar TAC yn ogystal â'r Urdd.

Mae Dr Gwenllian Landsdown Davies wedi bod yn ymwneud â'r byd gwleidyddiaeth ers degawdau.

Bu'n brif weithredwr Plaid Cymru cyn cael ei phenodi'n brif weithredwr Mudiad Meithrin.

Caiff Catryn Ramasut ei hadnabod fel arweinydd strategol gyda dros 25 mlynedd o brofiad.

Ms Ramasut sy'n cynrychioli Cymru ar gyngor creadigol DCMS, mae'n gadeirydd ar Creative Wales ac yn aelod o fwrdd canolfan gelfyddydol Chapter.

Mae gan Wynne Innes dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector breifat a'r sector gyhoeddus.

Ef yw prif swyddog ariannol a chyfarwyddwr bwrdd cwmni Ogi ac mae ganddo gefndir helaeth ym myd darlledu.

Mae gan Betsan Powys bron i 30 mlynedd o brofiad o newyddiadura gyda'r BBC ac ITV.

Mae wedi ennill BAFTA am ei gwaith ac wedi bod yn olygydd gwleidyddol i BBC Cymru ac yn olygydd ar wasanaethau Radio Cymru.