Teithio'n bell i brynu cacen a thorth

John Roberts, un o berchnogion Popty Conwy
- Cyhoeddwyd
Pa mor bell fyddwch chi'n teithio i nôl darn o gacen neu dorth?
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn prynu'n lleol mewn siop neu archfarchnad.
Ond mae twf mawr wedi bod mewn pobl yn teithio'n bellach na'u milltir sgwâr i fynd i fecws benodol mewn ardal arall.
'Twristiaeth fecws' yw'r enw poblogaidd am hyn, ble mae pobl yn teithio'n unswydd i un lleoliad er mwyn gallu ymweld â'r becws lleol yno.

Mae Ceri Jones yn gweithio yn Popty'r Dref Dolgellau
Un sy'n gallu uniaethu â hyn yw Ceri Jones sy'n gweithio yn siop Popty'r Dref yn Nolgellau.
Mae'r siop yma wedi'i henwi ar restr La Liste 2024, sy'n rhestru rhai o fwytai a sefydliadau bwyta gorau'r byd.
Dywedodd Ceri ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru: "Mae 'na bobl o dramor, pobl o Lundain yn teithio'n benodol i ddod i'r becws yma a rhai yn ffonio cyn y traffic a gofyn i ni gadw Hyni Byns iddyn nhw."
Mae'n debyg mai'r deisen benodol yma sy'n rhannol gyfrifol am roi'r becws ar y map.
Nid mêl sydd yn y toes ond menyn a siwgr, sy'n gwneud iddi flasu'n felys.
Erbyn i Aled gyrraedd y becws i recordio'r bore hwnnw, roedd y siop wedi gwerthu allan o'r gacen yn barod.
"Mae'n non stop, dydan ni methu dal fyny efo'r Hyni Byns, mae nhw wedi clirio ni allan yn barod heddiw," meddai Ceri.
"'Naethon ni gael rhywun wsos dwetha wedi dod yn sbeshial i Ddolgellau i gael Hyni Byn tra oedden nhw ar y ffordd i fyny i'r gogledd.
"Ryda ni'n cael lot o bobl yn dod yma fel first port of call os ydyn nhw yn mynd fyny Cader Idris, mae nhw'n dod yma yn gyntaf i nôl brechdanau a Hyni Byn."

Un sy'n cytuno â Ceri yw John Roberts, un o berchnogion Popty Conwy sydd wedi'i leoli yn y dref hanesyddol.
Yn ystod gwyliau ysgol ac yn yr haf mae'r dref yn byrlymu gyda thwristiaid.
Mae'r becws wedi bod yng Nghonwy ers dros 100 mlynedd a theulu John wedi bod yn ei rhedeg ers 2007.
O brofiad John, mae wedi cael sawl un yn dweud wrtho eu bod nhw wedi dod i'r dref y diwrnod hwnnw'n benodol i ymweld â'r becws.
"Mae'n deimlad braf iawn pan mae pobl yn dweud hynny. Wythnos diwethaf fe gafon ni gwpwl o Awstralia oedd wedi bod yma bum mlynedd yn ôl ac yn cofio'r gacen gafon nhw bryd hynny.
"Roedden nhw wedi mwynhau'r gacen cymaint iddyn nhw ddod nôl yn benodol i Gonwy tra ar daith o Gymru er mwyn iddyn nhw flasu'r math yma o gacen eto.
"Rydan ni reit enwog am ein Sleis Fanila. Rydan ni'n cael llawer o bobl o bob cwr o'r byd a Phrydain yn dod yma ac yn gofyn amdani.
"Rydan ni'n lwcus hefyd wrth gwrs o'n cwsmeriaid lleol ond mae'r twristiaid yn chwarae rhan fawr o ran gwerthu yng Nghonwy," meddai.

Mae Alan Williams yn teithio i Fiwmares i brynu bara
Mae Alan Williams o Lanwnda ger Caernarfon wedi bod yn teithio dros 20 milltir i brynu bara ers dros 10 mlynedd.
"Un diwrnod nes i brynu'r bara sawrus 'ma o fecws ym Miwmares ar Ynys Môn a hyd heddiw fydda i'n mynd yno unwaith pob pythefnos i brynu torth.
"Dwi'n teithio tipyn hefo fy ngwaith, a digwydd bod heddiw dwi angen mynd i Ynys Môn ond fe wnai biciad i Fiwmares ar y ffordd yn unswydd i brynu torth.
"Dwi ddim yn gweld dim o'i le," meddai. "Dwi yn un sy'n fodlon teithio ychydig yn bellach i gael rhywbeth 'da chi'n mwynhau ei fwyta!"
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2024