Newid bywyd ar ôl trawma genedigaeth

Leri a TomosFfynhonnell y llun, Leri Foxhall
Disgrifiad o’r llun,

Leri a Tomos

  • Cyhoeddwyd

"I ddechrau mi wnaethon nhw ddiagnosio fi efo iselder a dweud fod o'n gyffredin iawn ar ôl cael babi ond fel aeth amser yn ei flaen daeth o'n amlwg fod o'n fwy difrifol. D'on i ddim isho mynd allan o'r tŷ. O'n i'n poeni o hyd fod rhywbeth yn mynd i ddigwydd i Tomos."

Wedi genedigaeth anodd yn dilyn diagnosis o pre-eclampsia bu Leri Foxhall o Gaernarfon yn dioddef iselder a PTSD.

Mae'r profiad wedi newid ei bywyd, fel mae hi'n sôn wrth Cymru Fyw yn ystod wythnos iechyd meddwl mamol, ac fel canlyniad mae hi'n angerddol i helpu menywod eraill sy'n dioddef gyda'i iechyd meddwl ar ôl genedigaeth.

Dyma ei stori:

Cyn i fi gael Tomos (sy' bellach yn bedair oed) do'n i ddim erioed wedi clywed am PTSD (Anhwylder Straen Wedi Trawma) neu bod ti'n gallu cael trawma wrth eni.

Oedd hwn i gyd yn newydd i fi ac am ychydig do'n i ddim yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen.

'Nes i gael pre-eclampsia pan o'n i wedi bod yn feichiog ers 30 wythnos ac roedd rhaid i'r staff induceio fi.

Roedd yr induction yn brofiad erchyll, fy nghorff ddim yn gallu ymdopi efo'r cyffuriau a'r babi ddim yn gallu ymdopi. Ac yna o'n i'n sâl iawn ar ôl cael gwaedlif ôl-esgor (postpartum haemorrhage).

Dwi'n cofio poeni bod fi'n mynd i farw ac o'n i'n poeni fod Tomos yn mynd i farw. O'n i'n colli gymaint o waed o'n i mewn ac allan o ymwybyddiaeth.

Dwi ddim yn cofio Tomos yn cael ei eni. Oedd y gŵr yn dweud bod nhw wedi ei roi o ar fy mrest i ond 's'gen i ddim cof am hynny o gwbl a 'nes i ddim cyfarfod o nes y diwrnod wedyn. Mae hynna wedi bod yn rili anodd i fi.

'Naethon nhw fynd a Tomos i ffwrdd oherwydd bod o ddim yn anadlu a ddim dod a fo yn ôl. Maen nhw wedi cyfaddef fod 'na gamgymeriad mawr yn fan 'na. Mae hyn yn digwydd o hyd ac mae angen rhywbeth i newid.

Adeg covid

O'n i yn yr ysbyty am wythnos ac hefyd oedd o'n adeg covid ac oedd fy ngŵr i ddim yn cael bod efo fi. O'n i wedi colli gymaint o waed o'n i'n cael blood transfusions. Dwi'n cofio'r teimlad mod i methu gofalu ar ôl fy mabi. Dwi'n cofio torri nghalon yn trio newid ei napi o - jest ar ben fy hun.

Leri a TomosFfynhonnell y llun, Leri Foxhall
Disgrifiad o’r llun,

Leri a Tomos

Mynd adref

O'n i'n cael hunllefau a dwi'n cofio teimlo rhyw bryder mawr bod rhywbeth mynd i ddigwydd i Tomos. Drwy therapi dwi wedi deall hynny – dyw'r trawma ddim wedi cael ei brosesu'n iawn so mae dy gorff di mewn fight or flight mode oherwydd dyw'r atgofion ddim wedi prosesu. O'n i'n teimlo mod i'n mynd i farw neu fod rhywbeth mynd i ddigwydd i Tomos.

Mae dy gorff di wedi bod trwy gymaint – mae'n newid mawr yn feddyliol ac yn emosiynol. Mae disgwyliadau ar famau i fownsio yn ôl, mae'n hurt a dyna dwi'n trio pwysleisio yn y gwaith dwi'n neud yw i ddod yn ôl i bethau yn raddol. Does 'na ddim brys.

Erbyn hyn dwi'n gallu bod yn agored amdano fo – os fedra i rannu beth sy' wedi digwydd i fi falle wneith o helpu rhywun arall i agor i fyny ac ella neud i nhw deimlo'n llai unig.

A falle fyddan nhw yn chwilio am help. Mae 'na stigma anferth – y syniad o os ti newydd gael babi dylet ti fod yn hapus. Mae hynny'n waeth os rhywbeth achos nid yn unig ti'n styc efo'r teimladau yma fod rhywbeth o'i le ond ti efo'r euogrwydd yma o'r ffaith fod ti 'fod' yn hapus. Mae'n neud pethau yn gant gwaith gwaeth.

Leri yn ymarfer iogaFfynhonnell y llun, Leri Foxhall
Disgrifiad o’r llun,

Leri yn ymarfer ioga

Ioga

Ar ôl gadael fy swydd fel athrawes ysgol gynradd 'nes i ddechrau Iogis Bach (mae Leri wedi sefydlu cwmni sy'n cynnig sesiynau ioga a thylino babi). Mae'r mamau sy'n cyfarfod yn gymuned bach. Mae'n gallu bod yn rili unig pan ti'n feichiog neu adre efo babi.

Mae pethau'n digwydd am reswm a dwi'n meddwl bod y profiad dwi wedi cael wedi newid fi fel person. Dwi wedi llwyddo i droi profiad negyddol yn rhywbeth positif - dwi wedi newid gyrfa a dwi isho helpu merched eraill.

Trwy'r gwaith dwi'n neud efo Iogis Bach dwi'n cefnogi mamau i deimlo'n well drwy ymarferion ioga, meddwlgarwch a thylino babi.

Dwi isho codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl mamau – mae lot o famau yn dioddef ac yn cael genedigaeth trawmatig a dwi jest yn teimlo fod rhywbeth angen ei wneud am y peth.

'Nath o gymryd amser hir cyn i fi siarad efo seicolegydd a chael therapi. 'Nes i gael gweld rhywun yn y tîm iechyd meddwl amenedigol ond unwaith mae dy fabi'n un oed mae'r gefnogaeth yna yn stopio.

Dwi'n gweld lot o famau sy'n chwilio am gefnogaeth. Mae angen ymyrraeth cynnar bob tro a thrio cefnogi'r fam cyn iddo fynd yn salwch iechyd meddwl.

Os yw cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch mae cymorth a chefnogaeth ar gael yma.

Pynciau cysylltiedig