Teulu o Fôn yn codi arian am offer i helpu eu merch anabl

Taylor CroweFfynhonnell y llun, Peter Crowe
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Taylor Crowe ei geni gyda niwed difrifol i'w hymennydd a chyflyrau fel epilepsi a pharlys yr ymennydd

  • Cyhoeddwyd

Mae mam dynes ifanc sy'n byw gyda nifer o anableddau yn dweud bod y teulu'n wynebu "heriau cyson" a'u bod nhw angen offer arbenigol i'w chadw'n ddiogel.

Cafodd Taylor Crowe, 19 o Ynys Môn, ei geni gyda niwed difrifol i'w hymennydd a chyflyrau fel epilepsi a pharlys yr ymennydd.

Mae'r teulu wedi creu tudalen codi arian er mwyn ceisio casglu digon i brynu dau wely newydd a chadair iddi.

Mae'r teulu wedi dod o hyd i wely addas am £6,000 ond mae mam Taylor, Emma, yn dweud bod y gwasanaethau cymdeithasol yn gwrthod ei ariannu.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb Cyngor Sir Ynys Môn.

Ar y dudalen codi arian, mae'r teulu'n dweud bod Taylor angen gwely newydd yn eu cartref am nad yw'r un a gafodd ei chreu iddi 11 mlynedd yn ôl yn addas bellach.

Yn ôl y teulu, mae 'na beryg y gallai hi syrthio ac anafu ei hun.

Maen nhw hefyd yn dweud ei bod hi angen cadair newydd er mwyn iddi fedru eistedd a gwylio'r teledu gyda'i theulu.

Mae gan y teulu hawl i gael rhywun arall i ofalu am Taylor am sawl wythnos y flwyddyn iddyn nhw gael seibiant.

Byddai hynny'n rhoi cyfle i Emma a'i gŵr dreulio amser gyda'u meibion 11 ac 16 oed.

Ond er mwyn i hynny allu digwydd, mae Taylor hefyd angen gwely caeedig fyddai'n ei chadw'n ddiogel ac yn gallu cael ei symud o un lle i'r llall.

"Mi fyswn i'n prynu popeth fy hun pe byddai gen i'r arian i wneud hynny," dywedodd Emma.

Ffynhonnell y llun, Peter Crowe
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Taylor yn ceisio casglu digon i brynu dau wely newydd a chadair iddi

Mae Emma yn dweud bod gofalu am Taylor yn golygu ei bod yn anodd cael "amser teulu" gyda'i dau blentyn arall.

Mae'n gobeithio y byddai gadael Taylor gyda gofalwyr am gyfnod, er mwyn iddyn nhw gael seibiant, yn golygu y gallai aelodau eraill y teulu dreulio amser gyda'i gilydd.

Ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n dweud bod yn rhaid cael offer addas.

Dywedodd Emma fod "nifer o heriau" a bod mynd allan am fwyd gyda'r teulu yn anodd oherwydd nad yw nifer o dai bwyta yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Ychwanegodd Emma nad oedd hi eisiau rhoi'r argraff ei bod hi'n cwyno ond bod y sefyllfa yn heriol yn aml, yn enwedig wrth geisio treulio amser gyda'i meibion.

Mae'n cyfaddef nad oedd hi'n fodlon derbyn cymorth am amser hir, gan ddweud ei bod hi "ofn ei gadael hi gyda phobl eraill, ond mae'n rhaid i fi feddwl am fy mhlant eraill".

Ond mae'n dweud y byddai cael gofal ysbeidiol yn golygu y "gallen ni fynd i rywle fel Alton Towers gyda'r bechgyn, ac mi fydden ni'n gwybod fod Taylor yn cael y gofal mae hi angen".

Pynciau cysylltiedig