Gwneud y mwyaf o'r popty pwyll

CaserolFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

"Mae'r popty pwyll yn berffaith ar gyfer yr hydref a'r gaeaf. Mae'n dymor grêt i droi at bethau sy'n arafach i goginio yn y gegin."

Gyda'r hydref a'r tywydd oerach yn cyrraedd, mae tymor y salad a'r barbeciw ar ben, ac mae'n amser i feddwl am goginio caserol, cawl neu bolognese efallai.

Ydych chi wedi mynd i chwilio am eich slow cooker o gefn eich cwpwrdd eto? Wel, dyma'r amser i chi wneud hynny ac mae'r arbenigwr bwyd Alison Huw yma i'ch helpu i wneud y mwyaf o'r slow cooker, neu'r 'popty pwyll'!

Dyma gyngor Alison:

Ffynhonnell y llun, Alison Huw
Disgrifiad o’r llun,

Alison Huw

'Pâr arall o ddwylo'

Beth sydd yn dda am bopty pwyll yw y gallwch chi daflu popeth mewn iddo a gadael iddo wneud y gwaith. Mae e fel cael pâr arall o ddwylo yn y gegin. Tra fod y popty yn coginio gallwch eistedd o flaen y tân gyda'ch hoff lyfr a'ch traed i fyny.

A hefyd does dim lot o olchi llestri!

'Digon o hylif'

Beth sy'n bwysig gyda'r math yma o goginio yw bod 'na ddigon o hylif.

Meddyliwch am fwyd fel casseroles, cawl a phethau fel ysgwydd porc neu gig oen. Mae'n ffordd economaidd o goginio ond hefyd chi'n sôn am y cig hyfryd 'ma sydd yn mynd i gwympo oddi ar yr asgwrn ar ôl i chi goginio fe am amser hir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Toriadau rhad o gig

Mae'n berffaith i goginio toriadau rhad o gig - pethau fel ysgwydd neu asennau cig eidion. Mae cig eidion short-rib yn berffaith.

Os wnewch chi roi y cig i mewn gyda sinamon a phrŵns mae melyster y prŵns a gwres y sinamon yn creu rhywbeth bendigedig. Ychwanegwch ychydig o win coch a stoc a digon o berlysiau fel rosmari, teim ac mi fydd e'n blasu'n hyfryd.

Yn syml iawn rydych yn gadael iddo goginio am o leiaf chwech awr neu dros nos. Erbyn hynny mae blas yr asgwrn yn mynd drwy'r saws felly chi'n cael blas bendigedig trwyddo i gyd.

Gallwch hefyd roi ysgwydd cig oen ynddo gyda seleri, bayleaf, winwnsyn, moron neu bethau fel swêd.

Llysieuol

Os ydych chi'n llysieuwr, rydyn ni'n dod mewn i'r tymor nawr ble mae pwmpenni yn berffaith. O'r un teulu daw sgwash cnau menyn hefyd sy'n hyfryd wedi ei goginio'n araf. Mae'r rheiny yn gweithio yn dda iawn os torrwch nhw mewn darnau eithaf mawr a defnyddio tomatos, ffa kidney, a halen a phupur.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ragu a bolognese

Mae pethau eraill fel ragus a bolognese yn gweithio yn arbennig o dda hefyd. Unwaith eto, rhowch nhw yn barod yn y bore ac erbyn i chi ddod yn ôl o'r gwaith bydd yr arogl yn bobman a bydd eich te yn barod!

Geirfa

popty pwyll / slow cooker

gaeaf / winter

hydref / autumn

arbenigwr / expert

taflu / throw

pâr / pair

tân / fire

golchi llestri / dish washing

hylif / liquid

cawl / soup

ysgwydd / shoulder

cig / meat

economaidd / economical

cwympo / fall

asgwrn / bone

toriadau rhad / cheap cuts

asennau / ribs

cig eidion / beef

sinamon / cinnamon

prŵns / prunes

melyster / sweetness

gwin coch / red wine

perlysiau / herbs

blasu / to taste

o leiaf / at least

winwnsyn / onion

pwmpenni / pumpkins

sgwash cnau menyn / butternut squash

ffa / beans

arogl / smell

Cafodd fersiwn o'r erthygl yma ei chyhoeddi yn 2021.

Pynciau cysylltiedig