Teulu o Fethel yn chwilio am ddeintydd GIG 'ers blynyddoedd'
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Fethel ger Caernarfon yn dweud ei bod wedi methu â dod o hyd i ddeintydd Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) newydd ers i'w deintydd blaenorol droi'n breifat yn 2021.
Dywedodd Kelly O’Donnell, 41, bod ganddi bedwar o feibion ac felly doedd mynd at ddeintydd preifat "ddim yn opsiwn oherwydd y costau uchel".
Yn ôl ffigyrau swyddogol, dim ond 44.8% o boblogaeth Cymru oedd wedi derbyn triniaeth ddeintyddol ar y GIG rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023, tra bod y ffigwr hwnnw yn is fyth yn y gogledd (36.6%).
Mae’r sefyllfa yn achos pryder i Aelod Seneddol Arfon, Sian Gwenllian, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu ysgol ddeintyddol newydd ym Mangor er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r broblem.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, does dim cynlluniau pendant i agor ail ysgol ddeintyddol yng Nghymru ar hyn o bryd, ond maen nhw’n anelu i recriwtio a chadw mwy o ddeintyddion yng Nghymru.
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
Mae Ms O’Donnell yn dweud iddi dreulio oriau yn ceisio cysylltu gyda sawl deintyddfa ar draws Arfon a thu hwnt dros y pedair blynedd diwethaf yn chwilio am lefydd i gleifion GIG.
“Dwi jyst methu ffeindio unrhyw le sy’n cymryd cleifion newydd ar y gwasanaeth iechyd," meddai.
"Gwaeth na hynny, dwi wedi cael sawl lle yn dweud bod eu rhestrau aros nhw’n llawn hyd yn oed.”
'Trafferthion staffio'
Ychwanegodd: “Mae’n andros o bryder achos dim ond un set o ail ddannedd 'da ni’n cael a dim ots faint dwi’n pwysleisio, ac yn dweud wrth y plant bod angen brwsio dannedd a pheidio bwyta pethau melys maen nhw’n mynd i fynd yn groes i hynny.
"A dyna’r rheswm wedyn am gael deintydd achos maen nhw’n cadw golwg ar y sefyllfa ac yn gallu rhoi cyngor.
"Mae’r plant yn fwy tebygol i wrando ar ddeintydd na’u mam.”
Mae nifer y deintyddfeydd yng Nghymru wedi codi’n raddol dros y tair blynedd diwethaf i 1,434. Ond mae’r ffigwr dal i fod yn is o'i gymharu â 2019, sef 1,506.
Mae trafferthion staffio yn bryder yn y maes ar hyn o bryd hefyd.
Yng ngogledd Cymru mae gan 41.3% o ddeintyddfeydd swyddi deintyddion gwag. Mae hynny 10% yn uwch na’r cyfartaledd ar draws Cymru.
Un rhan o’r ateb, meddai Sian Gwenllian, AS Arfon, yw creu ysgol ddeintyddol newydd ym Mangor.
Mae Ms Gwenllian wedi comisiynu adroddiad annibynnol sy’n gosod y ddadl dros gael ysgol ddeintyddol yn y gogledd - bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym Mangor ddydd Gwener.
“Mae ein sefyllfa ddeintyddol ni ar draws Cymru yn argyfwng, ond yn enwedig yma yn y gogledd," meddai.
"Dwi’n cael negeseuon yn fwyfwy aml am bobl sydd methu cael mynediad at ddeintydd GIG. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chynllunio o ran y gweithlu meddygol, gan gynnwys deintyddion.
"A rŵan, 'da ni mewn sefyllfa lle does dim digon o ddeintyddion gennym ni yma. Mae creu ysgol ddeintyddol newydd yma ym Mangor yn gallu chwarae rhan flaenllaw yn ateb y broblem."
Ychwanegodd Ms Gwenllian: “Dwi’n ymwybodol nid diffyg staff ydy’r unig ffactor sydd wedi achosi’r argyfwng yma ond mae'n sicr yn rhan sylweddol o’r jig-so ehangach.
"Byddai mwy o ddeintyddion yn golygu mwy o apwyntiadau a’r ffordd o gael mwy o ddeintyddion i aros a gweithio yng Nghymru yw ysgol ddeintyddol newydd yma ym Mangor.”
'Ofn gorfod mynd i'r ysbyty'
Erbyn hyn mae Ms O'Donnell wedi gallu cofrestru ei phlentyn ieuengaf, sy’n ddyflwydd oed, gyda deintydd GIG.
Ond doedd dim modd i weddill y teulu gael eu cofrestru yno hefyd.
“Mae gen i ofn ei fod yn mynd i gyrraedd pwynt lle na’r unig opsiwn os oes 'na broblem fawr gyda dant yw mynd i’r ysbyty, ac maen nhw dan ddigon o bwysau fel y mae," meddai.
"Dwi wedi gallu cael ein henwau ni ar restr aros un practis, ond mae’r rhestr mor hir bydd rhaid aros o leiaf tair blynedd.
"Dwi’n nabod sawl person arall rownd fa'ma sydd yn yr un sefyllfa hefyd. Mae angen i rywbeth newid yn reit sydyn neu bydd pethau ond yn gwaethygu."
Mewn ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “nad oes gan y llywodraeth unrhyw gynlluniau pendant i agor ail ysgol ddeintyddol yng Nghymru ar hyn o bryd.
"Ond, maen nhw’n gweithio i recriwtio a chadw mwy o ddeintyddion yng Nghymru gan gynnwys cynllun newydd sy’n cynnig cymorth ychwanegol i ddeintyddion dan hyfforddiant mewn ardaloedd o Gymru lle mae wedi profi’n anodd recriwtio deintyddion newydd.”
Ychwanegodd y llefarydd eu bod nhw’n “parhau i weithio gyda’r sector i archwilio sut y gall diwygio’r contract deintyddol cenedlaethol annog deintyddfeydd i gydweithio ac ymateb yn y ffordd orau i anghenion eu cymunedau.”