Dau Gymro a merch wedi marw ar ôl taro coeden - cwest

Dafydd Hûw Craven-Jones a Morgan JonesFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dafydd Hûw Craven-Jones a Morgan Jones yn ddau o'r tri fu farw yn y gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio yn achos marwolaethau tri pherson ifanc, gan gynnwys dau o Wrecsam, yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Stafford.

Bu farw Dafydd Hûw Craven-Jones, 18, o Dan-y-fron, a Morgan Jones, 17, o Goedpoeth, wedi i gar Ford Ka daro coeden ym mhentref Penkridge toc cyn hanner nos ar nos Sadwrn, 25 Mai.

Cafodd teithiwr yn y car, Sophie Bates, 17 o Stafford, ei chludo i'r ysbyty ond bu farw o'i hanafiadau dridiau yn ddiweddarach.

Mewn gwrandawiad yn Stoke-on-Trent ddydd Llun, fe agorodd y crwner cynorthwyol Emma Serrano y cwest a'i ohirio tan ddyddiad sydd heb ei bennu eto.

Colli pobl 'anhygoel'

Cafodd merch arall oedd yn y car, Brooke Varley, 17 Sir Amwythig, hefyd ei chludo i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad.

Mae hi wedi disgrifio'i thristwch ar ôl colli "pobl mor anhygoel".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Sophie Bates o'i hanafiadau dridiau wedi'r gwrthdrawiad

“Morgan oedd un o'r bobl fwyaf doniol i mi eu 'nabod," dywedodd.

"Roedd wastad yn barchus, caredig a dymunol. Roedd wastad yn gofalu amdana i."

"Roedd Daf yn enaid caredig ac roedd yn caru ei ffrindiau."

Roedd Sophie, meddai, yn berson oedd "yn byw ei bywyd i'r eithaf [ac yn] fy ysbrydoli i wella ac i wneud popeth na chafodd hi mo'r cyfle i wneud."

Ychwanegodd: "Fe fydd hi yn fy nghalon am byth."

Mae'r heddlu'n dal yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd wrth i'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad barhau.

Pynciau cysylltiedig