Dyn yn yr ysbyty ar ôl disgyn o chweched llawr neuadd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi iddo ddisgyn o ffenestr ar chweched llawr un o neuaddau preswyl Prifysgol Abertawe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar gampws Singleton y brifysgol yn yr oriau mân fore Sul wedi adroddiadau bod unigolyn wedi anafu ar ôl disgyn o uchder.
Dywedodd yr heddlu fod y dyn 19 oed wedi ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad - a'i fod yn parhau yno mewn cyflwr "difrifol ond sefydlog".
Mae teulu'r dyn yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ac mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Dywedodd Prifysgol Abertawe mewn datganiad eu bod yn "cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymchwiliad, ac na fyddai hi'n briodol iddyn nhw wneud sylw pellach ar hyn o bryd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2024