Rhannu 'obsesiwn' â bod yn denau i 'chwalu tabŵ' athletwyr
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod anhwylderau bwyta
Mae menyw ifanc o Ynys Môn wedi rhannu ei phrofiad o ddelio ag anhwylder bwyta a'r "obsesiwn" oedd ganddi gyda bod yn denau, yn y gobaith o helpu athletwyr ifanc eraill.
Bu Cerian Harries, 22 oed, drwy gyfnod heriol pan oedd yn y chweched dosbarth wrth fyw ag anhwylder bwyta a phroblemau hunan ddelwedd fel athletwraig.
Ar un cyfnod roedd hi'n nofio am dros 16 awr yr wythnos ac yn hyfforddi deirgwaith yr wythnos yn y gampfa.
Mae bellach yn rhannu ei phrofiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn y gobaith y bydd yn annog merched ifanc i siarad am eu problemau.
Daw wrth i Chwaraeon Cymru lansio cynllun yn annog nofwyr ifanc i drafod eu problemau'n agored, datblygiad sy'n cael ei groesawu'n fawr gan Cerian.
'Oedd o’n gyfnod uffernol o anodd'
A hithau wedi bod yn nofio ers yn ifanc iawn, gan ennill sawl pencampwriaeth genedlaethol, penderfynodd Cerian edrych ar ei deiet er mwyn gwella ei pherfformiad.
Er iddi gydnabod fod y cyfan wedi "dechrau yn reit ddiniwed", dywedodd iddo droi yn "obsesiwn o ba mor denau oeddwn i, a meddwl oeddwn i'n dew wrth sbïo ar fy hun".
Dywedodd iddi greu rhestr o fwydydd "drwg" nad oedd am fwyta.
"Mi ges i fy hun mewn i'r twll lle oeddwn i basically ddim yn bwyta dim byd... doedd 'na ddim byd ohona fi, just esgyrn".
"Ro'n i’n licio’r teimlad o fod eisiau bwyd, ro’n i’n cweit prowd bo fi’n gallu peidio bwyta.
“Oedd o’n gyfnod uffernol o anodd, ond ar y pryd nes i ddim sylwi."
Aeth y broblem o ddrwg i waeth pan sylweddolodd nad oedd yn cael mislif yn fisol, ac er iddi fynd at y doctor, dywedon nhw ei fod yn rhywbeth "normal" am ei bod yn gwneud cymaint o chwaraeon.
Bu ar restr aros i weld doctor am gyfnod, ond dywedodd mai hi ei hun ddaeth i’r casgliad bod rhywbeth wir yn bod arni wrth wneud ymchwil ar gyfer prosiect ysgol.
Wrth ymchwilio i pam fod cymaint o athletwyr benywaidd yn colli eu mislif, sylweddolodd ei bod yn gallu uniaethu â'r ymchwil.
Wedi iddi gydnabod bod 'na broblem, fe dderbyniodd dipyn o gymorth gan ei hyfforddwr nofio i geisio ennill pwysau - proses heriol iawn, meddai.
'Nes i sylwi bod rhannu dy stori gyda chymaint o bŵer'
"Mi wnaeth y physical recovery ddigwydd lot cynt na’r mental, dwi dal weithiau yn strugglo efo’r mental wan."
Dywedodd fod tabŵ yn bodoli o amgylch athletwyr yn siarad am broblemau, ac roedd yn awyddus i “chwalu’r tabŵ” ac addysgu eraill gan rannu ei phrofiad ar-lein.
Dywedodd fod yr ymateb wedi bod yn "shocking" gyda chymaint o bobl yn cysylltu â hi i gynnig cefnogaeth.
"Oedd gen i ofn dweud beth oeddwn i wedi mynd drwy i gychwyn, oedd neb really yn gwybod i fod yn onest.
"Nath o 'neud i fi sylweddoli bod ni angen just rhannu be' da ni'n mynd trwyddo, dwyt ti ddim ar ben dy hun.
"Nes i sylwi bod rhannu dy stori gyda chymaint o bŵer."
Ar ôl treulio tair blynedd yn hyfforddi gyda thîm Prifysgol Loughborough fe benderfynodd ddod â'i gyrfa nofio i ben - penderfyniad nad oedd wedi ei ragweld.
Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio cynllun newydd gyda Nofio Cymru i annog nofwyr i siarad am eu problemau ac i chwalu'r tabŵ o fewn y maes.
Mewn datganiad, dywedodd Simon Middlemas, Ymarferydd Seicoleg Chwaraeon gyda Chwaraeon Cymru: "Dyw sgyrsiau am les ddim yn dod yn naturiol bob amser i hyfforddwyr ac athletwyr, ond roedden ni'n gwybod y byddai darparu lle i'w cael nhw yn helpu i greu amgylchedd lle gall eu hathletwyr ffynnu."
Mae Cerian yn croesawu'r cynllun hwn yn fawr gan ddweud fod "pobl just angen rhywun i siarad efo nhw weithia' a gwybod bod nhw ddim ar ben eu hunain".
Ychwanegodd ei bod yn bwysig i bobl ifanc wybod "beth sydd ddim yn normal o fewn y byd chwaraeon hefyd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021