'Cynnydd mewn pris gemau fideo yn mynd â chyflog shifft gyfan'

Kady, 21 sy'n byw yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kady, 21,wedi dechrau pwyso a mesur faint o oriau o chwarae y gall ei gael o gêm newydd cyn prynu

  • Cyhoeddwyd

Fe ddechreuodd Kady Sands chwarae gemau fideo pan oedd hi'n dair oed - gan basio'r teclyn rheoli yn ôl ac ymlaen rhyngddi a'i thad.

Ond mae'r fyfyrwraig 21 oed yng Nghaerdydd wedi sylwi'n raddol bod y gemau y mae'n eu prynu yn llyncu mwy a mwy o'r cyflog sydd ganddi i'w wario.

Mae'n dweud bod y pris wedi "cynyddu'n raddol dros y blynyddoedd", ond gyda rhai gemau bellach yn costio dros £70, "tydi o ddim yn fforddiadwy erbyn hyn," meddai.

I Kady, mae gemau yn fwy na dim ond rhywbeth mae'n ei wneud yn ei hamser hamdden - mae hi hefyd yn eu defnyddio i foddi sŵn prysurdeb y ddinas.

'Nid gemau mawr ydi popeth'

Dywedodd Kady ei bod yn "mynd mor sensitif weithiau mewn llefydd cyhoeddus".

"Felly mae cael consol dwi'n gallu ei gario o gwmpas a chanolbwyntio arno yn helpu gyda hynny."

Wrth ystyried y cynnwys ychwanegol y mae'n bosib ei lawrlwytho gyda nifer o'r gemau newydd, mae Kady, sy'n gweithio y tu ôl i'r bar mewn tafarn, yn dweud y gall un o'r gemau mawr newydd gostio cymaint â'r hyn y mae'n ei ennill mewn un shifft.

Mae'n dweud ei bod wedi newid ei harferion chwarae gemau er mwyn lleihau'r costau, gan edrych am opsiynau gwahanol i'r gemau newydd mawr gan y cwmnïau mawr.

Yn ôl Kady mae'r teitlau 'annibynnol' llai wedi rhoi "yr un mwynhad" ond yn "llawer rhatach."

"Dwi wedi symud oddi wrth feddwl mai'r gemau mawr ydi popeth," meddai.

Bocsys consol Nintendo Switch 2Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd consol Nintendo Switch 2 ei lansio drwy'r byd ar 4 Mehefin

Mae'r Nintendo Switch 2 wedi gwerthu dros 3.5 miliwn o unedau ers ei lansio yn gynharach ym mis Mehefin.

Mae hynny er gwaethaf dadlau mawr ymysg rhai sy'n ymddiddori mewn gemau fideo ynglŷn â phris y peiriant (£395.99) a rhai o'r gemau fel Mario Kart World sy'n costio £74.99 am gopi caled.

Nid Nintendo ydi'r unig gwmni sy'n cynyddu eu prisiau.

Fe gyhoeddodd Microsoft ym mis Mai bod eu consol Xbox series X yn cynyddu £50 i £299.99, ac mae'r Sony PS5 wedi cynyddu £40 i £429.99.

Pan mae'n dod i'r gemau eu hunain, mae'r diwydiant yn aros i weld a ydi Mario Kart World yn mynd i osod uchafswm newydd o ran pris.

"Dwi ddim yn meddwl o reidrwydd ei fod o," meddai Prif Weithredwr cwmni UK Interactive Entertainment, Nick Poole, sy'n cynrychioli dros 200 o fusnesau gemau yn y DU.

"Yr un mae pawb yn cadw golwg arno ydi'r GTA 6, i weld beth fydd ei bris", meddai.

Cost yn mynd 'yn uwch ac yn uwch'

Dywed Nick fod datblygwyr gemau "bob amser yn edrych ar ffyrdd o reoli'r costau", sydd yn "sylweddol uwch nag yr oedd ddeng mlynedd yn ôl."

Mae hynny oherwydd y "graffeg manwl a chywir" sydd ei angen mewn gemau a "llawer iawn o bobl yn ymwneud â'r broses ddatblygu", ychwanegodd.

"Mae'n rhaid i ni gydnabod bod cost cynhyrchu'r profiadau arbennig yma yn mynd yn uwch ac yn uwch."

Ond er gwaethaf hyn, mae Nick Poole yn mynnu bod gemau yn parhau i gymharu'n dda o ran pris gyda mathau eraill o adloniant.

Yn y sinema "rydych chi'n talu £15-£20 am brofiad teirawr", meddai, ond fe allech chi dalu teirgwaith hynny am "gannoedd o oriau o gael eich trochi mewn chwarae gemau fideo."

Delwedd o'r gêm newydd Grand Theft AutoFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i gêm newydd GTA 6 gael ei rhyddhau ym mis Mai 2026

I Dirk Casinillo, sy'n anelu at fod yn chwaraewr gemau proffesiynol, mae gemau fideo wedi dod yn "ffordd o ymdopi" iddo.

Cafodd ei fagu yn y Philipinau a'r Deyrnas Unedig ac mae bellach yn byw yn Llanelli.

Dywedodd bod "symud o gwmpas llawer, a'r ffaith yr oeddwn ar fy mhen fy hun llawer pan yn blentyn" yn golygu ei fod wedi ffurfio "perthnasau gydol oes" drwy'r gemau y mae'n eu chwarae.

Ond mae'r dyn 22 oed wedi sylwi ar y cynnydd sylweddol ym mhrisiau'r teitlau diweddaraf.

"Tydi pethau ddim o reidrwydd yn gwella," meddai.

"Maen nhw jest yn mynd yn ddrytach."

Dirk Casinillo gyda'i gemau fideoFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dirk Casinillo, 22, yn anelu at fod yn chwaraewr gemau fideo proffesiynol

Mae Dirk Casinillo yn dweud ei fod yn chwarae gemau cystadleuol ar "lefel uchel iawn", ac wedi arwyddo gyda thimau sy'n lled-broffesiynol.

Tra'i fod yn ffafrio gwella ei sgiliau ar rai gemau yn hytrach na phrynu llawer o rai newydd, mae Dirk yn cofio sut roedd £40 yn "arfer cael ei ystyried yn ddrud am gêm", ond bellach gall gemau gostio "dros £75."

'Arbed ar gostau bwyd i flaenoriaethu gemau'

Tra bod nifer o'r rhai sy'n chwarae gemau fideo yn gofidio am y cynnydd yn y pris, mae nifer hefyd yn gwerthfawrogi'r gwaith sydd y tu ôl i greu'r gemau y maen nhw'n eu caru.

"Mae pobl weithiau yn anghofio faint o bethau y mae angen i chi ei wybod er mwyn datblygu gêm", meddai Nicholas Mayers, sy'n gobeithio cynllunio gemau ei hun yn y dyfodol.

Mae Nicholas yn dweud bod ganddo "gariad mawr" tuag at gemau, ac yn dweud "nad oes yn rhaid iddo boeni am lawer o'r pethau sy'n mynd ymlaen mewn bywyd go iawn" pan mae yng nghanol ei gemau.

Kady, Dirk a Nicholas yn chwarae gemau fideo gyda'i gilydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kady, Dirk a Nicholas wedi cyfarfod drwy gymdeithas chwarae gemau Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Ond er mor bwysig ydi'r gemau iddo, mae Nicholas yn cyfaddef bod prynu gêm newydd wedi dod yn rhywbeth y mae'n rhaid iddo ei "bwyso a'i fesur", gan ei fod bellach yn "anfforddiadwy i lawer o bobl".

Mae'n dweud y bydd yn "chwarae'r un gemau drosodd a throsodd" tra'i fod yn cynilo ei arian i allu fforddio prynu rhai newydd, ac mae hyd yn oed yn ceisio arbed ar gostau bwyd i flaenoriaethu gemau.

"Rwy'n ceisio rheoli fy arian a phrynu mewn llwyth os y galla i," meddai.

Nid Nicholas ydi'r unig un sy'n aberthu er mwyn parhau i chwarae.

Yn ôl Kady, sydd wedi bod yn casglu'r farn yn y gymdeithas chwarae gemau fideo ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae nifer yn hepgor gweithgareddau cymdeithasol er mwyn gallu fforddio gemau newydd a thanysgrifiadau.

"Mae llawer o bobl wedi dweud nad ydyn nhw'n mynd ar nosweithiau allan neu ddigwyddiadau cymdeithasol wyneb-yn-wyneb," meddai.

"Fe fydden nhw'n hoffi gwneud y ddau beth, ond gyda chostau gemau yn cynyddu, allwch chi ddim cael popeth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig