Cowbois yn ôl yn Sesiwn Fawr Dolgellau wedi strôc y prif leisydd

Iwan HuwsFfynhonnell y llun, Sesiwn Fawr Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,

Iwan Huws yn perfformio yn Sesiwn Fawr yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau eto - flwyddyn ar ôl i'w prif leisydd gael strôc yn yr ŵyl.

Ym mis Gorffennaf 2024, ar nos Wener Sesiwn Fawr, cafodd Iwan Huws ei daro'n wael tra'n perfformio ar y prif lwyfan.

Yn dilyn triniaeth ysbyty, dywedodd y band eu bod wedi penderfynu gohirio eu holl berfformiadau am gyfnod.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y band eu bod yn ôl yn gigio ac maen nhw wedi cynnal ambell i gig yn y misoedd diwethaf.

Roedd y band o dri brawd ymhlith y rhai fuodd yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau dros y penwythnos - ynghyd ag eraill fel Blodau Papur, Buddug, Brigyn, Celt, Mynediad am Ddim, 9Bach, Ynys ac Yws Gwynedd.

'Andros o fraw'

Yn ôl Ywain Myfyr, un o drefnwyr yr ŵyl: "Ni'n andros o falch o weld nhw'n ôl.

"Fe ddaru digwyddiadau y llynedd roi andros o fraw i ni.

"Ni'n hynod o falch bod Iwan 'di ail-afael ym mhethau a bod o ddim gwaeth."

Roedd Cowbois Rhos Botwnnog yn ymddangos yn Eglwys y Santes Fair brynhawn Sadwrn.

Iwan Huws a'i frawd AledFfynhonnell y llun, Sesiwn Fawr Dolgellau

Roedd Cowbois Rhos Botwnnog yn chwarae ar nos Wener yr ŵyl y llynedd pan gafodd y set ei dorri'n fyr am "resymau iechyd".

Yn ôl Ywain Myfyr: "Ar y pryd, doedden ni ddim yn gwybod yn iawn beth oedd wedi digwydd ar yr eiliad hynny, a mi oedd yn bryder ond mi gafodd o'r gofal gorau.

"Roedd 'na dipyn o aros am ambiwlans ond fe ddaeth ac mi gafodd o ofal gan feddygon ar y safle."

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, enillodd y band wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024 gyda 'Mynd â'r tŷ am dro'.

Fe wnaeth mab Iwan, Now, ynghyd â brodyr Iwan, Aled a Dafydd, dderbyn y wobr ar lwyfan y pafiliwn ar ei ran.

Linda Griffiths + SorelaFfynhonnell y llun, Sesiwn Fawr Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Linda Griffiths a'r band Sorela yn perfformio ar y llwyfan acwstig yn Eglwys y Santes Fair nos Iau

Mae trefnwyr Sesiwn Fawr wedi cynnal yr ŵyl werin yn Nolgellau ers 1992.

Gŵyl am ddim ar y strydoedd ac yn nhafarndai'r dref oedd Sesiwn Fawr Dolgellau yn y blynyddoedd cynnar, cyn i'r penwythnos dyfu i ŵyl â thocynnau a symud i faes parcio Y Marian.

Erbyn hyn, mae dal angen prynu tocynnau i'r prif gigs ond mae'r ŵyl wedi dychwelyd i leoliadau ar draws y dref.

Erbyn hyn mae prif lwyfan yr ŵyl wedi ei lleoli yng nghefn Gwesty'r Ship, gyda llwyfannau amrywiol yn nhafarndai annibynnol y dref hefyd.

Yn ôl y trefnwyr, mae'r ŵyl yn ceisio addasu a gwella o hyd.

"Ryden ni'n trio peidio bod yr un fath bob blwyddyn, 'da ni'n trio bod ar y blaen," meddai Ywain Myfyr.

"Geson ni ambell sylw y flwyddyn diwethaf falle allen ni gynnig mwy o werth am y tocyn penwythnos a dyna ni 'di trio 'neud eleni.

"'Da ni wedi ychwanegu y llwyfan acwstig a gweithgareddau llên hefyd, mae'r rheiny'n ddatblygiad."

Eden, Sesiwn Fawr Dolgellau 2024Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eden ymhlith artistiaid y Sesiwn Fawr y llynedd

Nos Wener, roedd Le Vent dur Nord o Quebec a'r Peatbog Fairies o'r Alban yn perfformio, gyda Mellt a Celt yn cloi'r noson.

Roedd perfformiadau dydd Sadwrn gan Bwncath, Geraint Lovgreen a Brigyn, gyda 9Bach a Nogood Boyo yn perfformio yn y nos. Yws Gwynedd fydd yn cloi'r perfformiadau ddydd Sul.

"Be mae'r Sesiwn Fawr wedi trio'i wneud erioed ydy bod 'chydig bach yn wahanol i'r gwyliau eraill," meddai Ywain Myfyr.

"Dod â bandiau falle fyse ti ddim yn gweld fel arfer yn y gwyliau eraill, dod â cherddoriaeth y byd i Ddolgellau mewn ffordd a rhoi cerddoriaeth Cymru ar lwyfan y byd hefyd."