Achos marwolaeth dyn yng Nghaernarfon 'ddim yn amheus'

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Maes Barcer, Caernarfon, ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Cafodd tri o bobl eu harestio ddydd Sadwrn, ar ôl i ddyn farw yng Nghaernarfon.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud dydd Sul nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, a bod y mater wedi'i gyfeirio at y crwner.
Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo yn Ffordd Maes Barcer dydd Sadwrn am 12:11.
Mae'r dyn wedi'i enwi'n lleol fel Dylan Evans, gyda nifer o deyrngedau wedi'u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan Swyddogion Arbenigol. meddai'r llu.
Dywedodd yr AS am Arfon, Siân Gwenllian, mewn post ar Facebook: "Rwy'n anfon pob cydymdeimlad at deulu a ffrindiau Dylan Evans."
Roedd rhywfaint o bresenoldeb heddlu yn Ffordd Maes Barcer, Caernarfon, 24 awr ar ôl y digwyddiad.
Mae'r heddlu wedi tynnu'r rhwystr oedd ar y stryd ac maen nhw'n diolch i'r gymuned am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad