Ceisio codi proffil ceffylau gwedd oherwydd 'cariad at y brîd'

Rhys Griffith ac un o'i geffylau gwedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys eisiau codi proffil ceffylau gwedd, wrth i nifer y cofrestriadau ostwng

  • Cyhoeddwyd

Gyda dim ond ychydig dros 100 o fridwyr ceffylau gwedd ar ôl ym Mhrydain, mae gŵr ifanc o Wynedd yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd y brîd.

Yn rhinwedd ei swydd fel llysgennad Sir Gaernarfon – y sir nawdd ar gyfer Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni - mae Rhys Eifion Griffith o Benisa'r-waun eisoes wedi sicrhau y bydd 'na fwy o sylw a mwy o ddosbarthiadau arddangos ar gyfer cewri'r byd ceffylau yn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf.

"Mae rhif y bridwyr wedi haneru yn ystod y 15 mlynedd dwytha' i ychydig dros 100 ohona ni", meddai Rhys wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ar Radio Cymru.

"Y llynedd rhyw 200 o gywion a gafodd eu cofrestru. Mae hynny'n reit isel ac yn amlwg mae'r sialensiau gwaed yn mynd yn anoddach - a llai ohono fo."

"Wrth fod gen i gymaint o gariad at y brîd dwi wedi llwyddo i gael pentref ceffylau gwedd wrth y cylch ceffylau yn y Sioe Frenhinol.

"A 'leni - am y tro cyntaf yn fy nghof i - mi fydd 'na gystadleuaeth dreifio ceffylau trwm yn y sioe.

"Dwi isio trio 'ngorau i godi ymwybyddiaeth am y ceffylau gwedd gan fod 'na gyn lleied ohonyn nhw."

Ceffylau gwedd

Mae teulu Rhys – sy'n ffermio Tros y Waun - yn adnabyddus fel bridwyr ceffylau gwedd ers blynyddoedd ac wedi bod yn llwyddiannus yn y cylchoedd arddangos yn rheolaidd.

Mae'n dweud ei bod hi'n fraint cael bod yn llysgennad ac fel rhan o'i rôl bu'n mynychu nifer o ddigwyddiadau ar draws y sir.

"Mae'n neis cael mynd i weld gwahanol lefydd yn Sir Gaernarfon, mae'r sir wedi ei rhannu'n dair – Conwy, Arfon a Dwyfor ac wedyn mae pob ardal yn gyfrifol am roi gweithgareddau ymlaen.

"Mae'n ffordd dda o dynnu pobl at ei gilydd iddyn nhw gydweithio a chymdeithasu.

"A 'da ni'n hel pres ar hyd y daith tuag at gronfa y Royal Welsh ac elusennau lleol."

Rhys Griffith

Ym mis Mai bydd Rhys a chriw o gyfeillion yn mynd ar daith noddedig o gwmpas y sir a gwneud y cyfan mewn diwrnod.

"Mae hi'n sir reit hir yn ddaearyddol, mae hi'n gallu bod yn anodd tynnu pawb at ei gilydd.

"Felly dwi am gychwyn yng Nghonwy a mynd i Bwllheli a Phen Llyn a dod nôl i Gaernarfon – i gyd mewn diwrnod."

Gwrandewch ar gyfweliad llawn Rhys Griffith ar y Post Prynhawn ddydd Llun ar BBC Radio Cymru.

Pynciau cysylltiedig