John Davies ac oes aur Crysau Duon Cymru

  • Cyhoeddwyd
Neath RFC
Disgrifiad o’r llun,

Y Gnoll, cartref Clwb Rygbi Castell-nedd ers 1871

Mae'n un o glybiau rygbi hynaf Cymru, ond dros y blynyddoedd diweddar mae sefyllfa ariannol Clwb Rygbi Castell-nedd wedi dirywio i'r fath raddau y bod deiseb dirwyn i ben yn cael ei gyflwyno yn eu herbyn ddydd Iau, 6 Rhagfyr.

Un o hoelion wyth Crysau Duon Cymru ar ddechrau'r 90au oedd y prop o Grymych, John Davies. Cafodd Cymru Fyw sgwrs â John am ei atgofion o chwarae dros y clwb, a'i farn o'r sefyllfa ar y Gnoll heddiw:

"Mae'n bwysig i dref fel Castell-nedd bod y clwb yn cael ei gadw a bod rygbi yn cael ei chware yn yr ardal yna - mae gymaint o hanes a thraddodiad ac mae'r clwb wedi cynhyrchu gymaint o chwaraewyr i'r tîm cenedlaethol. Mae'n drist i weld be' sy'n digwydd.

"Maen nhw dal yn brwydro a bydde'n neis os alle nhw sortio mas yr ochr ariannol fel bod nhw'n gallu dal i fynd fel clwb, yn dal i fynd lle maen nhw neu mynd lawr cynghrair."

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Davies 34 o gapiau dros Gymru rhwng 1991 ac 1998

Daeth John Davies i Gastell-nedd o dan gesail yr hyfforddwr Ron Waldron.

"O'n i'n chware i dîm ieuenctid Cymru, ac yn chware i Grymych. Roedd Ron hefyd yn hyfforddi tîm ieuenctid Cymru. Ges i gynnig 'da fe pan o'n i tua 19 i ddod i Gastell-nedd i chware yn y rheng flaen 'da Brian (Williams) a Kevin (Phillips).

"Nes i chware'n gêm gyntaf gartref yn erbyn Caerdydd, a hwnna oedd y gêm gyntaf i gael ei ddangos ar y teledu brynhawn dydd Sadwrn. Roedd e'n gyfnod cyffrous i fi fel crwtyn ifanc i ddod i mewn i garfan mor gryf gyda nifer o chwaraewyr rhyngwladol."

'Ffermwyr o'r gorllewin'

Roedd gan John gwmni da yn y Crysau Duon.

"Roedd e'n gyffrous bod tri ffermwr o orllewin Cymru yn y rheng flaen i'r clwb. Roedden ni gyd yn ifanc, ond roedd Brian a Kevin ychydig yn hŷn, 'di bod rownd y bloc dipyn bach o ran profiad. Sai'n credu cewch chi neb mor unigryw â Brian fel cymeriad, boi hoffus iawn ac yn ddyn cryf iawn.

"Roedd Kevin hefyd yn ddyn ffit a chryf, felly fe ddysgais i lot gan y ddau am y pwysigrwydd o fod yn galed a'r gallu i gario 'mlaen - mae cefndir ffermio yn gwneud hynna i chi beth bynnag ond roedd e'n bosib gweld e ynddyn nhw'n dau, doedd neb yn maeddu nhw."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Kevin Phillips, bachwr Castell-nedd a chyfaill agos i John, yn codi Cwpan Cymru yn 1990

Daeth y triawd ffermio yn rheng-flaen Castell-nedd yn adnabyddus iawn ac yn rhan allweddol o lwyddiant y clwb. Roedd y tri yn agos oddi ar y cae hefyd, nes marwolaeth sydyn Brian Williams ym mis Chwefror 2007.

"Neath! Neath! Neath!"

Yn gysylltiedig gyda Chlwb Rygbi Castell-nedd mae'r floedd enwog 'Neath! Neath! Neath!', rhywbeth mae John yn ei gofio'n dda.

"Roedd y floedd yn dod er mwyn annog ni i roi pwysau ar y gwrthwynebwyr ac roedd y gefnogaeth yn anhygoel. Gallai tua 5,000 o gefnogwyr fod yno ar ryw nos Fercher hefyd gan fod tair gêm mewn wythnos ar brydiau, gyda'r lle yn llawn yn aml iawn. Roedd e'n gyfnod da iawn i fi - ma' lot o atgofion melys 'da fi.

"Dwi'n cofio chware yn ffeinal Cwpan Cymru gan golli i Lanelli oherwydd cic adlam Emyr Lewis, a cholli i Bontypridd hefyd. Yn anffodus, ro'dd gorfod i fi aros nes mod i 'da Llanelli i ennill y gwpan. Ond gyda Chastell-nedd enillon ni'r Heineken League ac ennill Cynghrair Cymru cwpl o weithiau."

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Brian Williams, prop Castell-nedd yn chwarae yn rownd derfynol Cwpan SWALEC yn erbyn Llanelli yn 1993. Bu farw Brian yn 2007, yn 44 mlwydd oed

Esblygiad y gêm

"Fe newidiodd pethe, ac roedd rhaid i ni fod mwy cystadleuol wrth ystyried timau mawr fel Toulouse, Caerfaddon a Chaerlŷr. Roedd rhaid i ni chwarae i safon uwch achos ar un pwynt roedden ni'n chware timau o safonau hollol wahanol o wythnos i wythnos. Ac yna daeth y gynghrair Anglo-Welsh i fodolaeth.

"Roedd rhaid i rygbi symud ymlaen wrth gwrs. Fe wnaeth Lloegr gadw eu cynghrair a'u clybiau nhw, ond mae mwy o boblogaeth ac arian yno. Ond os edrychwn ni heddiw, mae pedwar tîm rhanbarthol 'da ni ond 'da ni wedi colli'r crowd - felly mae rhywbeth yn bod yn rhywle yn ein rygbi ni.

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Rowland Phillips, rheolwr presennol tîm rygbi Menywod Cymru, yn chwarae dros Gastell-nedd yn erbyn Pen-y-Bont yn 2001

"Mae'n drist gweld yn y gynghrair nawr bod timau fel Castell-nedd, Abertawe a Llanelli lawr ar y gwaelodion, lle yn y 90au falle ma' nhw oedd y tri thîm oedd yn arwain y gad yng Nghymru."

Enwogion Castell-nedd

Cafodd Clwb Rygbi Castell-nedd ei sefydlu yn 1871 ac mae'n cael ei ystyried gan lawer fel clwb hynaf Cymru. Ymysg yr enwau mawr sydd wedi chwarae dros y clwb mae Dai Morris, Elgan Rees, Scott Gibbs, Jonathan Davies a Shane Williams. Rhannodd John y cae gyda nifer o enwogion.

"Os ewch chi nôl i'r 70au, oedd 'da chi Brian Thomas, Martin Davies, Ron Waldron, a chyn hynny odd 'da chi bobl fel Dai Parker. Roedd gennych chi hefyd Rowland Phillips, Mark Jones, Adrian Davies, Graham Davies a Paul Thornburn. Roedd e'n anodd credu mod i'n chware da rhai o rhain, roedd y lle fel ffatri yn cynhyrchu'r chwaraewyr 'ma o safon."

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Shane Williams gyda Chastell-nedd rhwng 1998 a 2003. Aeth ymlaen i fod yn seren byd-enwog gan ennill gwobr Chwaraewr Gorau'r Byd yn 2008

"Ond er yr holl enwau mawr, roedd pawb yn cael ei drin yr un peth yno. Bydde Paul Thornburn yn gapten Cymru, yn cael ei drin yr un peth â rhywun yn dod fewn i'r garfan am y tro cyntaf.

"Yn fy hyfforddi i yng Nghastell-nedd oedd Ron Waldron gyda Glen Ball yn hyfforddi'r cefnwyr. Roedd Brian Thomas yn rheolwr - fe oedd y person cyntaf ym Mhrydain i ddal y swydd o reolwr tîm, ac yna roedd Dai Pickering yn hyfforddi hefyd.

"Roedd 'na lot o gymeriadau yno - rhai doniol a dwl. Roedd e'n waith caled ond yn lot o hwyl."