Carcharu dyn o Fôn am frathu rhan o glust heddwas i ffwrdd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Ynys Môn wedi ei garcharu am 40 mis am frathu rhan o glust heddwas ar ôl ei ddal i lawr ar soffa.
Fe wnaeth Kevin Jones, 40 oed, o Ben y Bryn, Dwyran, gyfaddef ei fod wedi clwyfo PC James Marsden tra'n ceisio osgoi cael ei arestio.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod swyddogion eraill wedi llwyddo i gael rheolaeth dros Jones, oedd â 129 o droseddau ar ei record, gan gynnwys rhai treisgar.
Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn, Dafydd Roberts, fod Jones yn honni ei fod wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol.
Dywedodd y Barnwr Timothy Petts bod rhan fach o glust y swyddog wedi ei cholli.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Leslie Ellis o Heddlu Gogledd Cymru: "Nid yw dioddef ymosodiad yn rhan o'r swydd ac ni fydd byth yn rhan o'r swydd.
"Nid oes unrhyw ymosodiad ar unrhyw weithiwr gwasanaeth brys byth yn dderbyniol a bydd troseddwyr yn cael eu trin yn gadarn.
"Cafodd PC Marsden anaf na fydd byth yn gwella wrth iddo geisio amddiffyn rhywun oedd angen help."
Ychwanegodd: "Heb os, bydd hyn yn cael effaith barhaol, nid yn unig ar PC Marsden, ond ar ei gydweithwyr a'i deulu hefyd."
Yn hytrach na thalu tal dioddefwr, mae'n rhaid i Jones dalu iawndal o £228 i'r heddwas.