21 mis o garchar i ddyn o Sir y Fflint am annog casineb hiliol ar-lein

Daniel KingsleyFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae plastrwr o Sir y Fflint a gyfaddefodd iddo annog casineb hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cael ei garcharu am 21 mis.

Roedd Daniel Kingsley, 33 oed o Shotton, wedi cyhoeddi negeseuon hiliol ar 8 a 10 Awst yn cefnogi'r terfysgoedd ar draws y wlad.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau, fe wnaeth y Barnwr Rhys Rowlands ddisgrifio Kingsley fel "dyn rhagfarnllyd" oedd ag agweddau "hiliol a hynod ffiaidd".

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r achos yn "esiampl i eraill sy'n ystyried annog casineb".

Fe wnaeth yr erlynydd David Mainstone rannu dau sylw gan Kingsley ar wefan Facebook a ddaeth i sylw Heddlu Gogledd Cymru.

Roedd y cyntaf yn cynnwys iaith sarhaus am fewnfudwyr, ac yn dweud na ddylai unrhyw un oedd ddim yn cefnogi'r terfysgoedd "gael byw yn y DU". Roedd hefyd yn dweud y dylid "dadchwyddo'r cychod".

Roedd yr ail sylw, medd Mr Mainstone, "yn ymddangos fel ei fod yn tynnu sylw at ardaloedd lle mae sawl eiddo sy'n gartref i leiafrifoedd ethnig" a bod Kingsley yn "awgrymu trais".

Oherwydd amseru'r sylwadau, dywedodd Mr Mainstone ei fod "yn ceisio annog trais".

Aeth Mr Mainstone ymlaen i ddweud fod Kingsley wedi gwadu i'r heddlu ei fod yn hiliol, ac atebodd y barnwr: "Dyna maen nhw'n gwneud bob tro, ynde."

Hanes o droseddu

Dywedodd cyfreithiwr Kingsley, Alexandra Carrier, fod Kingsley "yn difaru ei weithredoedd".

Dywedodd: "Fe gyfaddefodd i'r troseddau cyn gynted ag y cyrhaeddodd yr heddlu ei ddrws.

"Er fod Mr Kingsley wedi rhannu'r negeseuon ar Facebook, dim ond ei ffrindiau oedd yn medru eu gweld, ac nid y cyhoedd yn ehangach."

Atebodd y Barnwr Rowlands: "Rydych chi ond yn gwneud sylw ar y cyfryngau cymdeithasol os ydych am i'r sylw gael ei weld."

Wrth ei ddedfrydu dywedodd y Barnwr Rowlands fod gan y diffynnydd hanes o droseddu, ac na allai anwybyddu amseru'r sylwadau, ac fe garcharodd Kingsley am 21 mis.