Parc Cenedlaethol Eryri yn trafod gefeillio gyda pharc yn Chubut

Los AlercesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae oddeutu 260,000 hectar o dir ym Mharc Cenedlaethol Los Alerces

  • Cyhoeddwyd

Ar Ddydd Gŵyl Dewi mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud eu bod yn ystyried gefeillio gyda Pharc Cenedlaethol Los Alerces yn Nhalaith Chubut, Ariannin.

Eleni mae'n 160 mlynedd ers i'r Cymry hwylio ar long y Mimosa o Lerpwl i Batagonia ac ers hynny mae'r berthynas rhwng Ariannin a Chymru wedi bod yn un agos.

Mae aelodau'r awdurdod wedi trafod a chytuno i dderbyn y cynnig mewn egwyddor ond bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yng nghyfarfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddiwedd Ebrill.

Mae parc cenedlaethol Los Alerces yn gartref i'r coed hynaf yn y byd - coed alerces - ac mae eu huchder yn gallu bod yn 45m (150 troedfedd) neu fwy.

Ar ddechrau 2024 roedd yna bryder am y coed hynafol yn sgil nifer o danau gwyllt yn y parc.

Los AlercesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o'r coed ym mharc cenedlaethol Los Alerces yno ers dros 2,000 o flynyddoedd

Cafodd y cynnig ei wneud gan aelodau o Gymdeithas Gymraeg Trevelin ac Ysgol y Cwm a'r nod yw datblygu cydweithio diwylliannol, addysgiadol ac amgylcheddol a fydd yn cryfhau cysylltiadau rhwng y ddau barc.

Mae'n fwriad hefyd i hyrwyddo twristiaeth gynaladwy ac ymarferion cadwraethol.

"Mae'r cytundeb gefeillio yma yn mynd at wraidd ein hunaniaeth Gymreig a chyd-werthoedd Eryri a Los Alerces," meddai Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

"Mae'n ddathliad o deulu rhyngwladol y Parciau Cenedlaethol – undeb o dirweddau a diwylliannau amrywiol sy'n rhannu'r un daliadau tuag at gynaladwyedd, bioamrywiaeth, treftadaeth a chymuned.

"Rydym wedi ein cyffroi gyda'r cynnig i ddatblygu cysylltiad rhyngwladol newydd sydd nid yn unig yn adlewyrchu ein rhinweddau arbennig ond yn ysbrydoli gweledigaeth fyd-eang at gydweithio cadwraethol a diwylliannol."

Parc Los AlercesFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o danau gwyllt yn y parc ym Mhatagonia ar ddechrau 2024

Byddai'r cytundeb yn gyfle gwych i sefydlu prosiectau rhwng ein cenhedloedd, meddai Mr Cawley.

Ychwanegodd y gallai mentrau posib gynnwys ymchwil gwyddonol sy'n manylu "ar rinweddau unigryw ein parciau, y fflora a ffawna a'r heriau penodol maen nhw'n eu hwynebu".

Gobaith pellach yw y bydd datblygu rhaglenni cadwraeth amgylcheddol ar y cyd yn tanio brwdfrydedd plant a phobl ifanc i ddysgu mwy am eu hardaloedd gwarchodedig.

Os caiff y cynllun sêl bendith, bydd seremoni arwyddo yn cael ei chynnal yn Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam ddechrau Awst.