Gorsaf radio Capital Cymru i ddod â rhaglenni Cymraeg i ben
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall y bydd yr orsaf radio annibynnol, Capital Cymru yn dod â'r holl raglenni Cymraeg i ben fis nesaf.
Mae perchennog yr orsaf Global Radio wedi cyhoeddi nifer o newidiadau, gan gynnwys dod â holl raglenni lleol a rhanbarthol ar orsafoedd Heart, Smooth a Capital yn Lloegr i ben.
Mae'r newidiadau yn bosib yn dilyn cyflwyno'r Ddeddf Cyfryngau newydd fis Hydref y llynedd, sy'n dileu unrhyw ofynion am fformatau pob gorsaf.
Yng Nghymru, bydd swyddfeydd yng Nghaerdydd a Wrecsam yn cau, tra bydd canolfan stiwdio newydd yn agor yng Nghaerdydd.
Mae BBC Cymru yn deall y bydd Capital Cymru yn rhoi'r gorau i raglenni Cymraeg ar 24 Chwefror.
Cyfuno i wneud un
Dydy hi ddim yn glir faint o bobl fydd yn colli eu swyddi, ond fe gafodd staff wybod am y newidiadau fore Iau.
Bydd rhaglenni lleol bob prynhawn ar Capital yn y gogledd a Capital yn y de yn cael eu cyfuno i greu un rhaglen i Gymru gyfan, gyda'r un peth yn digwydd i raglenni lleol Heart.
Mae Capital Cymru wedi darlledu rhaglenni Cymraeg ar wahân i weddill rhwydwaith Capital ers mis Mai 2019.
Dechreuodd rhaglenni Cymraeg, gan gynnwys newyddion lleol a cherddoriaeth Gymraeg, am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 1998 pan ddechreuodd Champion 103 ddarlledu i Ynys Môn a Gwynedd.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw'r datblygiad yn un "cywilyddus" sy'n dangos methiant San Steffan i sicrhau gwasanaethau darlledu sy'n gweithio i'r Gymraeg a chymunedau Cymru.
Mae'r mudiad hefyd wedi ategu eu galwad ar Lywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda'i chynlluniau ar gyfer datganoli darlledu.
Dywedodd Carl Morris, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith: "Yn gywilyddus, daw'r datblygiad yma fel parhad o'r dirywiad i'r sector radio lleol rydym wedi ei weld ers blynyddoedd, wrth i ni golli gorsafoedd sy'n gwasanaethu ardaloedd penodol mewn ffordd werthfawr iawn.
Aeth ymlaen i ddweud "nad oes gan y cwmnïau masnachol mawrion yma ddiddordeb gwirioneddol yn y Gymraeg na'n cymunedau wrth iddyn nhw fanteisio dro ar ôl tro ar ddiffyg rheoleiddio gan Ofcom a San Steffan er mwyn torri eu gwasanaethau Cymraeg a Chymreig.
"Dyma enghraifft arall o fethiant gwleidyddion Llundain i sicrhau cyfundrefn ddarlledu sy'n gweithio i Gymru a'r angen i'w ddatganoli.
"Mae hi'n ddeng mis bellach ers y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydden nhw'n sefydlu corff i ddechrau'r broses yma ond rydym dal yn aros am ddiweddariad arno."
'Siomedig'
Dywedodd llefarydd ar ran Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), bod y Ddeddf Cyfryngau'n rhoi "rhagor o hyblygrwydd" i orsafoedd masnachol "gyrraedd anghenion eu cynulleidfaoedd".
Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn "siomedig" bod hynny'n golygu torri rhaglennu Cymraeg, gan ddweud bod Llywodraeth y DU yn "gefnogwyr cryf" o ddarlledu Cymraeg.
Mewn datganiad, dywedodd Global eu bod nhw yn gwneud newidiadau ac fe fydden nhw'n cyhoeddi mwy o fanylion maes o law.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2019