Global Radio: Diwedd cyfnod radio boreuol lleol
- Cyhoeddwyd

Bydd rhaglenni boreol lleol Cymru ar Capital a Heart FM yn dod i ben yn 2019, wrth i'r gorsafoedd symud i ddarparu un rhaglen genedlaethol ar draws y DU.
Bydd y newid yn gweld diwedd cyfnod i raglenni poblogaidd Lois ac Oli a Jagger a Woody ar Heart FM.
Mae'r penderfyniad yn debygol o effeithio ar 100 o swyddi ar draws y Deyrnas Unedig.
Dywedodd yr AC Ceidwadol Andrew R.T. Davies bod y newyddion yn "hynod o siomedig" i wrandawyr Cymru.

Ar hyn o bryd mae rhaglenni boreol a phrynhawn lleol ar gael yng Nghymru ar Capital FM a Heart FM.
Ond fe fydd y newid yn gweld nifer o oriau darlledu lleol yn lleihau o 10 awr i 3 awr y dydd.
Felly ni fydd gwasanaethau boreol Cymru yn parhau gan fydd rhaglenni cenedlaethol o Lundain yn cael eu darlledu ar donfeddi'r gorsafoedd.
Er bod un llefarydd o Global wedi dweud wrth Cymru Fyw yn wreiddiol fod rhaglen Gymraeg Alistair James hefyd yn dod i ben, mae'r cwmni wedi cadarnhau ddydd Mercher y bydd mewn gwirionedd yn parhau.
'Cynnig cystadleuaeth'
Yn ôl llefarydd o Global Radio, mae'r newid yn ymgais i "gynnig cystadleuaeth ar hyd y DU" i orsafoedd poblogaidd fel BBC Radio 1 a Radio 2.
Cafodd y newidiadau eu cyflwyno i Ofcom ar ôl iddynt newid canllawiau radio lleol.
Fe fydd newyddion lleol gyda'r awr yn parhau - a bydd safle Wrecsam yn aros ar agor.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Gwarchod cynnwys Cymraeg'
Bu casgliad o gyfarfodydd ymysg y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn trafod y mater yn ystod 2018.
Yn un o'r rheini, dywedodd y darlithydd cyfryngau Marc Webber bod angen i Ofcom "warchod cynnwys Cymraeg yn well a gwarchod beth sy'n datblygu i fod yn farchnad di-gystadleuol i wasanaethau sain yng Nghymru".
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae nifer o wrandawyr y gorsafoedd wedi ymateb ar Twitter, gyda deiseb wedi ei chychwyn i warchod rhaglen Jagger a Woody.
Ofcom sy'n cael ei beirniadu am ganiatáu'r newid, gyda'r AC Plaid Cymru Bethan Sayed yn gofyn "pam eu bod nhw'n caniatáu'r erydiad o gynnwys lleol dro ar ôl tro?"
Mewn ymateb, dywedodd y Ceidwadwr Andrew RT Davies: "Mae angen cadarnhad gan Global na fydd y newidiadau yn cael effaith niweidiol ar wasanaethau newyddion lleol y rhwydwaith, gan y byddai hynny yn ergyd arall i dirwedd cyfryngau Cymru.
"Canlyniad y penderfyniad yma ydi cyflwynwyr a chynhyrchwyr de Cymru yn cael eu disodli gan enwau mawr tu hwnt i'r cymunedau maen nhw'n fod i'w gwasanaethu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018