Pryder y bydd plant yn mynd i Loegr ar ôl cau ysgol leiaf Powys

Mae mab Huw Evans, Tomos, yn mynd i gylch chwarae'r ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae pryder y bydd cau ysgol leiaf Powys yn arwain at fwy o blant yn mynd dros y ffin i Loegr i dderbyn eu haddysg.
25 o blant sy'n mynd i Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin, ond mae disgwyl iddi gau ym mis Awst.
Mae'n benderfyniad sydd wedi siomi ymgyrchwyr a chynghorwyr lleol.
Mae 'na bryder yn lleol y bydd plant yn gadael yr ardal i fynd i ysgolion cynradd yn ardal Croesoswallt yn Lloegr, a "cholli eu cysylltiad â Chymru".
Yn ôl Cyngor Powys mae hyn yn rhan o'i strategaeth ar gyfer trawsnewid addysg, ac mae'n rhaid "mynd i'r afael â'r gyfran uchel o ysgolion bach yn y sir".

Roedd Huw Evans yn gobeithio y byddai modd i'w fab Tomos fynychu'r ysgol
Mae Huw Evans, sy'n 35 oed ac yn byw a gweithio yn y pentref gyda'i deulu, yn dweud bod yr ysgol yn "cadw'r pentref yn fyw".
"Mae just yn neis cadw'r plant i fynd i'r ysgol yn lle maen nhw'n byw," meddai.
Dywedodd hefyd ei fod yn "biti", ac "mae'n neud chi'n bach yn flin bod o'n cau".
Mae'r 25 o ddisgyblion yn cael eu rhannu rhwng dwy ystafell ddosbarth ar hyn o bryd.
Drwy eu hanfon i ysgolion mwy o faint, cyfagos, mi fydd dewis ehangach o weithgareddau addysgol ac allgyrsiol i'r plant, yn ôl y cyngor.
'Ymladd am bob troedfedd o dir'
Ond mae Aled Davies - cynghorydd lleol Llansilin ac arweinydd grŵp y Ceidwadwyr ar y cyngor - yn poeni am effaith cau'r ysgol ar yr ardal.
"Mae yna boeni mawr yn yr ardal. 'Da ni reit ar y ffin - chi'n gallu gweld bryniau Lloegr o fan'ma," meddai.

Pryder Aled Davies yw y bydd disgyblion yn symud i ysgolion yn LLoegr
"Dwi wir yn pryderu bydd y plant yn mynd dros y ffin i Sir Amwythig a cael eu haddysg yn fan'na, ac wedyn colli'r connection yma efo Cymru.
"Mi fasan nhw'n mynd ymlaen i ysgol uwchradd yn Sir Amwythig a ddim yn mynd i ysgol uwchradd leol yn Llanfyllin.
"Ac felly bydd diwylliant yr ardal yn newid yn gyfan gwbl.
"Mae o mor bwysig bo' ni'n ymladd am bob troedfedd o dir yma yng Nghymru.
"Gwneud yn siŵr fod y plant sy'n cael eu geni yng Nghymru yn cael y cyfle i gael addysg Gymraeg yma yng Nghymru, a bo' ni ddim yn dechrau troi Llansilin yn suburb o dref yn Sir Amwythig."

25 o ddisgyblion sydd yn Ysgol Bro Cynllaith
Yn ôl Cyngor Powys, mae'r cynlluniau yn rhan o'u strategaeth trawsnewid addysg.
Y bwriad ydy mynd i'r afael â'r gyfran uchel o ysgolion bach o fewn y sir, niferoedd disgyblion yn gostwng a llefydd gwag.
Mae'r awdurdod yn dweud nad oes disgwyl i niferoedd disgyblion Ysgol Bro Cynllaith gynyddu dros y blynyddoedd nesa.
O ran gwariant fesul disgybl, mae cost yr ysgol yma yn un o'r rhai drytaf i'r cyngor, meddai.
'Lleihau capasiti dros ben'
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, aelod cabinet y sir ar addysg: "Gan fod niferoedd disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn yn fach, mae'n anoddach sicrhau bod pob disgybl yn cael ei herio'n briodol.
"Nid ar chwarae bach y daethom at y cynnig hwn ond credwn fod angen mynd i'r afael â'r niferoedd isel yn yr ysgol a lleihau capasiti dros ben cyffredinol y cyngor mewn ysgolion cynradd."
Er bod y broses gyfreithiol i gau'r ysgol wedi dechrau, tydi'r cabinet ddim wedi gwneud penderfyniad terfynol.
Mae'r cyngor yn gofyn i unrhyw un sydd am leisio barn i anfon eu sylwadau cyn 9 Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2021