Lluniau: Cynlluniau £140m i orsaf drenau brysuraf Cymru

Trafnidiaeth Cymru sy'n arwain y cynllun i ailwampio gorsaf drenau brysuraf Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae delweddau wedi eu cyhoeddi o edrychiad posib prif orsaf drenau Caerdydd fel rhan o gynllun gwerth hyd at £140m.
Bwriad Trafnidiaeth Cymru, sy'n arwain y cynllun, yw moderneiddio Caerdydd Canolog a helpu gyda chynnydd mewn nifer teithwyr yn yr hirdymor.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys creu cyntedd mwy o faint er mwyn creu mwy o le i deithwyr, gwella llif teithwyr a mynediad drwy gatiau ychwanegol.
Bydd yna hefyd gyfleusterau aros, siopau a lle i barcio beiciau.
Mae'n fwriad hefyd i ddathlu hanes a threftadaeth yr adeilad.
Mae gwireddu'r cynllun yn dibynnu ar gymeradwyo'r cynlluniau a'r achos busnes llawn.


Bydd yr Adran Drafnidiaeth, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn darparu hyd at £140m ar gyfer y gwelliannau.
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol TrC, y byddai'r gwelliannau yn gwneud yr orsaf yn "addas i wasanaethu prifddinas ag i ymdopi â thwf mewn nifer teithwyr yn y dyfodol".
"Mae'r cynigion ar gyfer yr orsaf yn cyfrannu at fuddsoddiad sylweddol ehangach o drawsnewid trafnidiaeth yn ninas Caerdydd ac mae'n cynnwys cynlluniau adfywio uchelgeisiol," ychwanegodd.
Mae disgwyl cyhoeddiad yn yr hydref ynglŷn â chymeradwyo'r cynlluniau neu beidio.
Os ydyn nhw yn cael sêl bendith mae disgwyl i'r gwaith ddechrau cyn diwedd y flwyddyn.

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr