Treisiwr yn pledio'n euog i ymosod ar ddynes yn Ysbyty Glan Clwyd

Lee James MullenFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Lee James Mullen wedi iddo gael ei garcharu am dreisio dynes arall yn 2015

  • Cyhoeddwyd

Mae treisiwr 38 oed wedi pledio'n euog i ymosod yn rhywiol ar ddynes mewn ysbyty yn y gogledd.

Roedd Lee James Mullen, 38 oed o'r Fflint, wedi ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ac achosi niwed corfforol difrifol mewn digwyddiad yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ar 10 Rhagfyr.

Clywodd y llys fod Mullen wedi ei garcharu am 11 mlynedd yn 2015 am dreisio dynes arall ar ôl ei chlymu gyda thâp.

Bydd Mullen yn cael ei ddedfrydu ar ôl i'r adroddiadau ac asesiadau risg perthnasol gael eu cwblhau.

Dywedodd yr erlyniad yn ystod yr achos fod Mullen wedi taro'r ddynes sawl tro mewn toiledau yn Ysbyty Glan Clwyd a'i fod wedi ymosod arni'n rhywiol.

Yn ôl y barnwr Rhys Rowlands, mae'r achos yn un "difrifol iawn, sy'n cael ei wneud yn waeth wrth ystyried y cyhuddiad blaenorol yn 2015".

"Fe fydd y llys yn edrych ar osod dedfryd warchodol yn yr achos hwn. Mae angen cynnal adroddiad ac asesiad llawn i'r perygl posib," meddai.

"Mae angen i ni ddeall effaith eich troseddu ar y dioddefwr ac, heb os, ei theulu, yn ogystal â'r anafiadau wnaeth hi eu dioddef."

Wrth siarad â Mullen dywedodd fod angen iddo ddeall fod hwn yn "fater difrifol iawn" ac y dylai ddisgwyl "dedfryd hir o garchar".

Fe blediodd Mullen yn euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn a bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Pynciau cysylltiedig