Cam ymlaen i rygbi merched yng ngogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae rygbi merched yng ngogledd Cymru yn cymryd cam pwysig y tymor hwn wrth i dîm academi newydd chwarae yn y gyngres genedlaethol.
Mae coleg addysg bellach Grŵp Llandrillo Menai wedi sefydlu academi i helpu datblygiad chwaraewyr rhwng 16 a 18 oed.
Fe chwaraeon nhw eu gêm gyntaf yng Nghyngres Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru ar Barc Eirias ym Mae Colwyn brynhawn Mercher.
Fe enillodd y tîm cartref o 67-21 yn erbyn Coleg Caerdydd a’r Fro.
Wrth siarad cyn y gêm ddydd Mercher roedd y capten, Leah, yn hyderus eu bod nhw eisoes yn chwaraewyr gwell ers iddyn nhw ddechrau ymarfer fel academi cyn yr haf.
Dywedodd: “Fyddwn ni’n cael lot mwy o training a’r gym, ‘den ni’n mynd lot i’r gym yn coleg. So ‘neith hwnna ddatblygu cryfder ni, pŵer ni a jyst gwneud ni’n well pobl i rygbi.
“A fyddwn ni’n cael mwy o amser gêm ac efo’r coaches hefyd, fyddwn ni’n cael mwy o amser efo nhw.”
Cynghrair newydd Cyngres Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru ydy’r lefel uchaf i ferched y tu allan i rygbi rhanbarthol ar gyfer y grŵp oedran 16-18.
Bydd yr academi’n darparu cyswllt rhwng y coleg a’r Ganolfan Datblygu Chwaraewyr ym Mharc Eirias, gan greu llwybr i symud ymlaen i chwarae i Rygbi Gogledd Cymru (RGC) ac o bosibl i dîm dan 18 Cymru.
Bydd chwaraewyr yn derbyn hyfforddiant technegol, tactegol a hyfforddiant fesul safle, yn ogystal â sesiynau cryfder a chyflyru yng nghampfa academi Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-rhos.
'Llawer o dalent yn y grŵp'
Un o chwaraewyr Rygbi Gogledd Cymru, Ethan Fackrell, ydy un o’r rhai sy’n hyfforddi gyda’r academi ac mae’n dweud bod chwaraewyr addawol iawn yno.
“Mae ‘na llawer o dalent yn y grŵp yma. Ni ‘di gweld nhw’n chwarae i RGC 18s blwyddyn ddiwethaf a Cymru 18s.
“Ni’n edrych ymlaen at weld be’ maen nhw’n gallu gwneud yn chwarae gêm gyntaf i’r coleg, ond mae ‘na dalent mawr yma heddiw.”
Un oedd yn edrych ymlaen i gamu i’r cae oedd y blaenasgellwr, Mabli.
Dywedodd ei bod yn "eitha’ nerfus ond ‘dan ni’n genod cryf ac er bod ni gyd ddim yn ‘nabod ein gilydd, ro’n i’n gweld yn y stafelloedd newid bod ni gyd yn eithaf parod ar gyfer y gêm.”
Aeth ymlaen i ddweud fod y criw wedi bod yn aros am y cyfle yma a'i fod yn "rili cyffrous.”
Mae’r academi yn dal i chwilio am ragor o chwaraewyr, ac yn agored i chwaraewyr 16-18 oed o ysgolion uwchradd yn y gogledd.
Byddan nhw’n chwarae yn erbyn colegau eraill Cymru yn ystod y tymor.