Troi hen chwarel yn atyniad tanddwr 'arloesol'

Chwarel Vivian
  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid hen chwarel yn atyniad tanddwr wedi cael eu disgrifio fel rhai "cwbl unigryw" ac "arloesol".

Cafodd gogledd Cymru ei ffafrio dros America a Dubai ar gyfer y datblygiad yn Llanberis, gydag un economegydd lleol yn dweud mai dyna'n union sydd ei angen yn yr ardal, sef atyniadau sy'n sicrhau bod ymwelwyr yn gwario arian tra'u bod nhw yno.

Mae deifwyr wedi bod yn archwilio treftadaeth ddiwydiannol Chwarel Vivian ers dros 20 mlynedd.

Ond nawr mae cwmni Scuba Scape eisiau defnyddio arbenigedd a thechnoleg y diwydiant olew a nwy i greu'r hyn maen nhw'n disgrifio fel "rhaglen gemau unigryw", gan gynnwys amgueddfa lechi ac ystafell ddianc danddwr.

Katie Gill
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n gyffrous achos 'da ni'n agor profiad world first yma," meddai Katie Gill, Rheolwr Gweithrediadau Scuba Scape

Hyd yn oed heb unrhyw brofiad plymio, mae'r trefnwyr yn dweud bod modd i unrhyw un o 10 oed i fyny gyrraedd y safle a bod yn barod i fynd o dan y dŵr o fewn 10 munud ar ôl cael cyfarwyddiadau diogelwch ac offer.

Yn ôl y cwmni, mae'r dechnoleg mor "arloesol" nad ydyn nhw'n datgelu llawer mwy ar hyn o bryd nes bod y broses i warchod eu cynlluniau wedi'i gwblhau.

Dywedodd Katie Gill, Rheolwr Gweithrediadau Scuba Scape: "Mae'n gyffrous achos 'da ni'n agor profiad world first yma.

"Mae 'na museum o dan y dŵr, ac escape rooms o dan y dŵr, yn defnyddio technoleg world first.

"Y syniad oedd agor yn Dubai neu America, ond i'r cwmni roedd hi'n rili pwysig i agor yn Eryri, yng ngogledd Cymru, achos mae'n lle mor arbennig a gwahanol."

Chwarel Vivian
Disgrifiad o’r llun,

Wrth i'r galw am lechi leihau tua chanol yr 20fed ganrif, fe ddistawodd pethau yn Chwarel Vivian

Mae hanes y safle yn dyddio'n ôl i'r 19eg, pan oedd yn greiddiol i dwf y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru.

Cafodd y chwarel ei henwi ar ôl y teulu Vivian, oedd yn rhan allweddol yn ei datblygu a'i chynnal.

Wrth i'r galw am lechi leihau tua chanol yr 20fed ganrif, fe ddistawodd pethau yn Chwarel Vivian, gan adael ar ôl olion diddorol oedd o ddiddordeb i ddeifwyr dros y blynyddoedd.

Wrth galon y gwaith oedd y peiriant Blondin, oedd yn helpu i ddod a'r llechi i lawr y llethrau a'u cludo at y trenau ger Llyn Padarn.

Roedden nhw wedyn yn cael eu cludo i'r Felinheli, lle'r oedden nhw'n cael eu rhoi ar longau i'w dosbarthu ar draws y byd.

Glyn Price
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r pontio'n bwysig, yn enwedig efo'r cenedlaethau ifancach - bod nhw'n ymwybodol o be sy' wedi bod yn mynd ymlaen yn hanesyddol," meddai Glyn Price

Wrth baratoi'r safle, daeth y datblygwyr ar draws yr hen beirianwaith, ac yn ôl Glyn Price - arlunydd lleol sydd wedi darlunio'r chwarel dros y blynyddoedd - bydd arddangos y creiriau hanesyddol yn rhoi bywyd newydd i'r safle a chodi chwilfrydedd y genhedlaeth iau am eu hanes a'u diwylliant.

"Mae'n hyfryd bod nhw 'di dod ar draws y peiriant Blondin yn y sied.

"Mae wedi cael ei orchuddio am yr holl flynyddoedd a byd natur mewn ffordd 'di bod yn tyfu drosto fo," meddai.

"'Da ni'n gweld sut oedd y winch yn cael ei defnyddio i dynnu'r llechi i fyny ac i lawr y llethrau i lawr yr inclines.

"Mae'r pontio'n bwysig, yn enwedig efo'r cenedlaethau ifancach - bod nhw'n ymwybodol o be sy' wedi bod yn mynd ymlaen yn hanesyddol.

"Ma' dod a'r hen a'r newydd, wneith o ddod â theimlad o berthyn i'r bobl ifanc, a theimlad o falchder yn yr ardal maen nhw'n byw ynddi."

Dr Rhys ap Gwilym
Disgrifiad o’r llun,

"Dyma ffordd o ddefnyddio'r chwarel, nid dim ond i ddenu pobl yma, ond i ddenu nhw yma i wneud rhyw fath o gyfraniad economegol i'r ardal hefyd," meddai Dr Rhys ap Gwilym

Mae'r cwmni'n dweud bydd yr atyniad yn creu 15 o swyddi, yn ogystal â phrentisiaethau i bobl ifanc, ac maen nhw'n gobeithio agor dros yr haf.

Yn ôl yr economegydd o Brifysgol Bangor, Dr Rhys ap Gwilym, sydd hefyd yn byw ger y chwarel, mae datblygiadau fel yr un arfaethedig yn Llanberis, yn rhywbeth sydd ei angen i sicrhau hwb ariannol o'r diwydiant ymwelwyr.

"'Da ni ddim yn brin o ymwelwyr yn yr ardal...'Da ni wedi gweld ers y dynodiad Unesco, bod 'na lawer fwy o bobl yn dod ac ymweld â Chwarel Dinorwig," meddai.

"Y broblem ydy bod y rhan fwya ohonyn nhw, siŵr o fod yn gyrru draw am y dydd, cerdded am ychydig oriau, ac wedyn gyrru ffwrdd heb wneud unrhyw fath o gyfraniad economaidd i'r ardal.

"Dyma ffordd o ddefnyddio'r chwarel, nid dim ond i ddenu pobl yma, ond i ddenu nhw yma i wneud rhyw fath o gyfraniad economegol i'r ardal hefyd.

"Yn amlwg 'mond un atyniad bach ydy hwn - 'da ni angen gweld nifer ohonyn nhw, a 'da ni angen bod yn fwy parod i ofyn i ymwelwyr i wneud y fath gyfraniad."