Pa gae pêl-droed sydd â'r olygfa orau? Eich ymateb chi!

- Cyhoeddwyd
Yn ddiweddar fe wnaeth Cymru Fyw gyhoeddi oriel luniau gan ofyn pa gae pêl-droed sydd â'r olygfa orau yng Nghymru?
Roedd tipyn o ymateb i'r erthygl ac ar raglen Ar y Marc, BBC Radio Cymru, gyda nifer yn cysylltu i awgrymu caeau trawiadol eraill.
Felly dyma ail oriel luniau, y tro yma gyda'ch dewis chi o gaeau pêl-droed sydd â golygfeydd trawiadol!
CPD Porthmadog
Diolch i Rhodri Tomos ac eraill am awgrymu Y Traeth, cartref CPD Porthmadog fel y maes sydd â'r olygfa orau.
"Heb fod yno ers tro, ond mae'r Traeth ym Mhorthmadog werth ei weld hefo'r Cnicht yn gefndir gwych," medda Rhodri Tomos.

CPD Crannog
Huw Harries gynigiodd CPD Crannog yn Llangrannog.
Mae'r cae dafliad carreg o wersyll yr Urdd gyda golygfa hyfryd dros Fae Ceredigion.

CPD Mountain Rangers
Mae CPD Mountain Rangers yn chwarae ym mhentref Rhosgadfan ger Caernarfon.
Mae'r cae pêl-droed yng nghysgod Cae'r Gors sef cartref yr awdur Kate Roberts.
Ann Wyn Thompson wnaeth awgrymu CPD Mountain Rangers gyda Richard Charles, Tesni Glyn, Ben Aaron Davies a Sarah Angharad Bell yn cytuno â'r ddewis.
Mae mynydd Cybi i'w weld yn amlwg ar y gorwel ac yn ôl Ann Thompson "mae modd gweld yr Iwerddon ar ddiwrnod braf."

CPD Llanuwchllyn
Nest Gwilym wnaeth awgrymu CPD Llanuwchllyn sy'n chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Cymru.

CPD Penrhyndeudraeth
Arwel Roberts wnaeth awgrymu CPD Penrhyndeudraeth.
Mae'r cae ar ymyl ffordd yr A487 a'r olygfa yma yn edrych i gyfeiriad Blaenau Ffestiniog.

CPD Llanon
Cafodd y llun yma ei rannu gan Glenda Jones. Mae'n dangos cae pêl-droed CPD Llanon ar noson braf yn 2023.

CPD Nantlle Vale

Fe wnaeth sawl person gynnig Maes Dulun, sef cae pêl-droed Nantlle Vale ym Mhen-y-Groes ger Caernarfon.
Fe wnaeth Glyn Griffiths rannu darlun yr oedd wedi'i baentio o'r maes hefyd, sy'n profi pa mor boblogaidd yw'r cae penodol yma.
Mae'r cae hefyd yn enwog am fod y safle i frwydr Fawr Maes Dulyn fel y ganwyd gan Sobin a'r Smaeliaid i nodi'r gêm bêl-droed enwog rhwng C'mon Midffild a chast Pobol y Cwm nôl yn 1990.
Fe wnaeth Emyr Wyn Jones, Sulwen Roberts, Ashley Owen, Gwilym John Jones a Kim Warrington-Davies hefyd awgrymu Maes Dulun.

Dyma'r llun anfonwyd i fewn gan Glyn Griffiths o Faes Dulun
CPD Nefyn Utd
Fe wnaeth Charlene Lowe, Nia Lloyd Pattinson ac Iwan Rhys Evans awgrymu Cae'r Delyn, cartref CPD Nefyn.

CPD Deiniolen
Cae Bwthyn yn Neiniolen oedd dewis Richard Jones, Lyndsey Plemming, Rhian Evans a Hilda Parry.

CPD Talysarn Celts
Tua dwy filltir lawr y ffordd o Faes Dulun Pen-y-Groes mae pentref Talysarn, ac yno mae Talysarn Celts yn chwarae.
Fe awgrymodd Rhian Alaw, Omid ac Ali Imanpour, Tania Hughes, Angharad Jones, Gwion Llwyd, Tesni Glyn, Ffion Haf y maes yma.

CPD Llanrwst
Roedd CPD Llanrwst yn awyddus i'w maes nhw gael ei gynnwys, a chyfrif swyddogol y clwb yn rhannu llun godidog o Barc Gwydir gyda ni.

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
- Cyhoeddwyd4 Ebrill