Opera arloesol yn dangos cysylltiadau Cymru â Trinidad

Mary-Ann Roberts yn gwisgo siaced oren a chlustlysau perlog. Mae Richard Parry yn y cefndir yn edrych arni ac yn gwisgo crys glas golau.Ffynhonnell y llun, Coleridge Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r artist Mary-Anne Roberts gafodd ei geni yn Trinidad, a'r canwr Richard Parry, sy'n wreiddiol o Sir Benfro wedi lansio opera newydd er mwyn dangos sut mae "hanes Cymru a Trinidad yn cydblethu'n dynn".

Fe fydd yr Opera yn cael ei pherfformio yng Nghaerdydd a Phenarth ddiwedd fis Tachwedd.

Daeth y syniad yn wreiddiol o garnifal yr Eisteddfod ar risiau'r Senedd yn 2018 lle pan oedd Richard yn cynhyrchu.

Wedi iddo gwrdd â Mary-Anne Roberts dechreuodd ddysgu mwy am y cysylltiadau ac yn eu hopera newydd, 'An Act of Piracy', maen nhw'n adrodd mwy o'r hanesion.

Dau ddyn yn chwarae offerynnau mewn ymarferion. Mae bocsys pren o'u blaenau.

Wrth rannu'r profiad o roi'r sioe at ei gilydd, fe ddywedodd Richard fod yr opera yn ffordd o ddathlu cysylltiadau hanesyddol Cymru a Trinidad ac o adrodd straeon sydd heb eu clywed yn aml.

"Doedd dim teuluoedd du yn y dref yn Hwlffordd yn Sir Benfro pan o'n i'n blentyn. Ond nawr, mae pethau wedi newid. Mae Cymru yn genedl hyfryd ac agored. Da ni ishe dathlu'r hanes yma ac adrodd y stori mewn opera," meddai.

Daeth Mary-Anne i Brydain yn ei hugeiniau cynnar, a dim ond ar ôl cyrraedd Cymru y dysgodd mai enw Cymraeg oedd ei chyfenw, Roberts.

"Roedd yn syndod llwyr i mi. Roedd gan fy athrawon yn yr ysgol yn Trinidad enwau fel Davies, Evans, Griffiths, Thomas, Richards, Williams… Mae cymaint o Gymru dan yr wyneb yn Trinidad."

Mary-Ann Roberts yn perfformio ac yn gwisgo gemwaith yn ei gwallt, sgarff o gwmpas ei gwddf a thop porffor.Ffynhonnell y llun, Bragod
Disgrifiad o’r llun,

Mary-Ann Roberts yn perfformio

Mae Mary-Anne yn canu cerddoriaeth Gymreig ganoloesol ac yn aelod o'r band Bragod. Mae hi hefyd yn perfformio mewn clybiau nos yn Ewrop, ac yn artist sydd wedi'i henwebu am Wobr Turner.

Fel rhan o'i gwaith cafodd ei phenodi fel prif artist tîm Laku Neg a wnaeth waith ar gyfer arddangosfa Amgueddfa Cymru, Ailfframio Picton, a fu'n edrych o'r newydd ar berthynas Cymru â Tomas Picton, y milwr o Sir Benfro a ddaeth yn llywodraethwr Prydeinig cyntaf Trinidad.

Er i lys yn Llundain gael Picton yn euog o arteithio pobl o Trinidad, ni chafodd ei ddedfrydu erioed.

Mary-Ann Roberts a Richard Parry mewn ymarferion yn dal cleddyfau. Mae dau ddyn yn chwarae offerynnau yn eistedd yn y cefndir.

Yn ôl y sôn mae Cymru a Trinidad yn rhyfeddol o debyg o ran eu siâp ac mae'n debyg y byddai pobl Cymru'n teimlo atyniad arbennig at Trinidad yn y 19eg ganrif yn sgil y ffaith ddaearyddol hynod hon.

Fe aethon nhw yno i ymgartrefu ac i geisio gwneud arian.

Heddiw mae enwau Cymreig ar drefi a phentrefi Trinidad a Tobago – enwau fel Glamorgan, Pembroke, Mount Thomas, Mount Harris, Williams Bay, Montgomery a Bethel.

Mae mab Richard, Jamie, hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect.

"Yn fras, mae bachgen o Gymru yn mynd gyda môr-leidr ar gwch ac yn glanio yn Trinidad, ac yna mae'n edrych ar sut mae'n ceisio dianc yn Trinidad," meddai.

Antur am fôr-ladron yn ymdrin â brad, pŵer a chariad ar y moroedd mawr yw'r opera, ac mae Richard yn gobeithio y bydd An Act of Piracy yn sbarduno mwy o brosiectau tebyg yn y dyfodol.

"Da ni'n adrodd nawr am fôr-ladron Cymru a Trinidad gyda cherddoriaeth glasurol a chaneuon calypso – calypso-classical fusion. Ond mae e'n salad, dim cawl. Mae'n stori ryngwladol a 'dan ni moyn rhannu hi. Mae 'na lot o hwyl."

Pynciau cysylltiedig