'Gwireddu breuddwyd' drwy ganu gyda Bryn Terfel yn Nhŷ Opera Zurich

Y ddau fariton o'r gogledd yn mwynhau perfformio ar yr un llwyfan yn Zurich
- Cyhoeddwyd
Mae'n gyfnod llawn cyffro i ddau fariton blaenllaw o'r gogledd wedi iddyn nhw gael eu dewis i berfformio rhannau o opera Tosca Puccini yn Y Swistir.
Mae Steffan Lloyd Owen, 29, o Bentre Berw ar Ynys Môn yn treulio cyfnod fel artist ifanc yn y Tŷ Opera yn Zurich a dywed ei fod yn brofiad anhygoel cael perfformio ar yr un llwyfan â'i arwr o Bant-glas, Syr Bryn Terfel.
Yn yr opera mae Bryn Terfel yn chwarae rhan y Barwn Scarpia - cymeriad ddigon annymunol ac mae Steffan Lloyd Owen yn chwarae rhan Sciarrone - cynorthwyydd y barwn.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Steffan: "Dwi'm yn meddwl eith o'n llawer gwell na hyn, dwi'm yn meddwl gai'r cyfle i weithio efo cast mor fawr a mor enwog byth eto - ond gawn ni weld."

Fe berfformiodd y ddau rannau o Tosca am y tro cyntaf yn Llangollen yn 2017
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae gyrfa Steffan Lloyd Owen wedi mynd o nerth i nerth.
Wedi blynyddoedd o lwyddiant eisteddfodol ar lefel genedlaethol mae e'n ddiweddar wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol gan gynnwys Cystadleuaeth Josep Palet yn Sbaen.
Mae hefyd eleni wedi cyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Opera Paris ac wedi chwarae sawl rhan yn y Tŷ Opera yn Zurich.
'Mae'r cylch yn gyflawn rŵan'
Nid dyma'r tro cyntaf i Steffan Lloyd Owen gael rhannu llwyfan gyda Syr Bryn Terfel - fe ddigwyddodd hynny gyntaf yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 2017 pan oedd Steffan yn 21 oed.
Ar y pryd roedd sgôr Tosca ar bapur ganddo ac fe lofnododd Bryn Terfel y gerddoriaeth iddo gan ddweud 'Y tro cyntaf ond nid yr olaf...'.
Fe ddaeth y broffwydoliaeth yn wir wyth mlynedd yn ddiweddarach.
"Mae'n atgof nai byth anghofio," meddai, "mae'r cylch yn gyflawn eto rŵan, dwi dal hefo'r sgôr.
"Es i a fo at Bryn dydd Sul, cyn y sioe agoriadol yn Zurich, a dyma fo'n sgwennu o dan be oedd o 'di sgwennu'n gynt: 'A dyma ni, yr ail dro'."

Steffan, y tenor byd enwog Jonas Kaufmann (Cavaradossi) a Syr Bryn Terfel (y Barwn Scarpia)
Mae nifer o sêr rhyngwladol yn perfformio yn yr opera - y tenor byd enwog Jonas Kaufmann yw Cavaradossi a Sonya Yoncheva o Bwlgaria yw Tosca - ond i Steffan mawredd Bryn Terfel sy'n ei daro.
"Mi ydach chi'n sylweddoli mawredd Syr Bryn Terfel mewn lleoliad fel hyn a pha mor enwog ydi o o fewn y byd opera - rhywbeth, o bosib, 'dan ni fel Cymry yn ei gymryd yn ganiataol ac yn sicr mae 'na gymeradwyaeth anhygoel wedi bod i'w berfformiad yma," meddai.
"Pan 'da ni'n gweld o yn ei gynefin 'da ni'n gwybod fod o'n cael ei glod... ond pan ti'n gweld o wedyn yn sefyll ar lwyfan tramor a faint mae'r gynulleidfa'n addoli fo.
"Mae 'na rywbeth amdan ei berfformiad o a'r ffordd mae o'n cael i fewn i'r perfformiad Scarpia - does 'na neb fatha fo ac mi oedd o'n brofiad arbennig i weld, gyda llygada fy hun, y clod oedd o'n ei gael."

Dywedodd Steffan fod "y cylch yn gyflawn unwaith eto" ar ôl cael gweithio gyda Syr Bryn am yr eildro
Mae teulu Steffan wedi bod yn Y Swistir yn ei weld yn perfformio a chyn diwedd y daith mae disgwyl i eraill o Gymru fynd i wylio'r ddau fariton - yn eu plith athrawes ganu gyntaf Steffan, Siân Wyn Gibson.
Roedd y perfformiad cyntaf o Tosca yn y Tŷ Opera yn Zurich ddechrau'r wythnos a bydd yr un olaf ar 19 Hydref.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2019