Peidio cyfeirio euogfarn 'llofrudd fampir' Ynys Môn at y llys apêl

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai cynnwys yn y stori isod beri gofid.

Llun o Hardman a Ms Leyshon
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Mathew Hardman yn euog o lofruddio Mabel Leyshon yn 2001

Mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol wedi penderfynu peidio â chyfeirio euogfarn llofrudd dynes oedrannus ar Ynys Môn yn 2001 at y llys apêl.

Cafodd Mathew Hardman, oedd yn 17 oed ar adeg y drosedd, ei ganfod yn euog o lofruddiaeth Mabel Leyshon.

Fe drywanodd Ms Leyshon, 90, yn ei chartref yn Llanfairpwll, cyn tynnu ei chalon allan o'i brest ac yfed ei gwaed.

Er i Hardman wadu mai ef oedd yn gyfrifol, cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes yn Awst 2002 gydag isafswm o 12 mlynedd.

Dyma un o lofruddiaethau mwyaf drwg-enwog Cymru'r ganrif hon, gyda Heddlu Gogledd Cymru yn y gorffennol wedi ei disgrifio fel "y mwyaf dideimlad a chreulon erioed".

Ms Leyshon
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Mabel Leyshon ar 25 Tachwedd 2001

Roedd wastad wedi gwadu'r llofruddiaeth, ond fe gollodd ymgais i apelio yn erbyn ei euogfarn yn 2003, ac fe gafodd cais am barôl yn 2014 ei wrthod hefyd.

Ym mis Awst 2023 fe apeliodd at y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (Criminal Cases Review Commission - CCRC) - sy'n ymchwilio i gamgymeriadau cyfiawnder posibl - i adolygu'r euogfarn.

Ond mae'r CCRC bellach wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n ystyried yr achos ar gyfer apêl.

"Gallaf gadarnhau, yn dilyn adolygiad o'r achos hwn, fod y CCRC wedi penderfynu peidio â chyfeirio'r euogfarn at y Llys Apêl," meddai llefarydd.

Beth oedd yr achos?

Cafwyd hyd i gorff Mabel Leyshon ar 25 Tachwedd 2001 pan aeth gwirfoddolwr â bwyd i'w chartref yn Lôn Pant, Llanfairpwll.

Cafodd y wraig weddw oedrannus ei disgrifio fel person hyderus ac annibynnol.

Roedd hi'n gwylio teledu yn ei hoff gadair, gyda'r sain yn uchel oherwydd ei bod hi'n drwm ei chlyw, pan dorrodd Mathew Hardman un o'r ffenestri yn nrws cefn y tŷ.

Clywodd achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug yn 2002 iddo ei thrywanu 22 o weithiau, yna symud ei chorff i gadair arall a gosod dau brocer i ffurfio croes ger ei thraed.

Yna tynnodd ei chalon allan o'i brest a'i rhoi mewn sosban, wedi ei lapio mewn papur newydd, gan roi'r sosban ar blât arian.

Yna tynnodd waed o goesau Ms Leyshon i'r sosban, cyn ei yfed.

Ty Ms Leyshon
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mabel Leyshon ei disgrifio fel person hyderus ac annibynnol

Clywodd yr achos llys mai Hardman oedd yn cludo papur newydd i gartref Mabel Leyshon, a'i fod wedi'i gyfareddu gan fampirod a'i fod am droi'n un mewn ymgais i fod yn anfarwol.

Cafwyd yn euog ar ôl i'r rheithgor gael gwybod bod DNA a gafodd ei ddarganfod yn lleoliad y llofruddiaeth yn cyfateb â gwaed a gafodd ei ddarganfod ar gyllell yng nghartref Hardman.

Roedd ei esgidiau hefyd yn cyfateb â'r olion traed a gafodd eu darganfod yn nhŷ Ms Leyshon.

Pynciau cysylltiedig