Cannoedd yn ffarwelio â'r tîm pêl-droed cyn pencampwriaeth Ewro 2025

- Cyhoeddwyd
Daeth cannoedd i ffarwelio â thim pêl-droed Cymru cyn pencampwriaeth Ewro 2025.
Dyma'r tro cyntaf i'r merched gystadlu mewn rowndiau terfynol un o'r prif bencampwriaethau.
I Bortiwgal fydd y garfan yn teithio gyntaf er mwyn ymarfer, cyn anelu am y Swistir.

Roedd y capten, Angharad James, wrth ei bodd yn gweld y cefnogwyr
Cyn camu ar yr awyren ym maes awyr Caerdydd, dywedodd y capten, Angharad James, ei bod wedi synnu gweld cymaint o gefnogwyr yno.
"Ma' hwn yn amazing mae mor special," dywedodd.
"Ma'r grŵp yma'n haeddu'r achlysur. Ni wedi gweithio mor galed.
"Ma'r gwaith caled yn dechre nawr yn Mhortigwal, wythnos galed, ond ni'n gyffrous am y sialens hefyd.
"Bydd pobl falle yn meddwl bydd Cymru yn gêm hawdd , ond fydd e ddim, ni wastod yn rhoi 100%."

Bydd 16 o dimau yn cystadlu mewn pedwar grŵp o bedwar yn y Swistir.
Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd fydd yn rhaid i'r Cymry wynebu yng Ngrŵp D – un o'r grwpiau anoddaf y gallen nhw fod wedi ei gael.
Ond dyw hynny heb bylu gobeithion y cefnogwyr.
Dywedodd Nia, 12, o Sili, Bro Morgannwg, ei bod yn gyffrous i weld y merched yn cystadlu ar lwyfan mor fawr.
"Dwi yma achos dw i eisiau gweld y chwaraewyr, oherwydd maen nhw jyst yn wych," meddai.

Ychwanegodd Ela, 13, o Gaerdydd ei bod yn edmygu'r chwaraewyr
"Mae'n neis gweld merched oedran ni yn chwarae pêl-droed achos mae'n dangos ein bod ni'n gryf, a bod merched yn gallu gwneud unrhyw beth.
"Dw i'n rili gyffrous."
Ychwanegodd ei ffrind, Bella, 13, ei bod yn edrych ymlaen i weld Jess Fishlock ar y cae.
"Mae hi'n chwaraewr da, a really special," meddai.

Gethin a'i fab bach Emlyn o Abertawe
Mewn het bwced, roedd Emlyn, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn flwydd oed, gyda'i dad, Gethin, sy'n wreiddiol o Abertawe.

"Ni 'di dod lawr i weld y menywod, cael cwpl o lofnodion, a dweud pob hwyl wrthyn nhw," dywedodd Gethin.
"Cael llofnodion pobl fel Angharad James a Jess Fishlock - mae'n brofiad gwych i'r merched ma' i gyd ac [i Emlyn] hefyd."
Ychwanegodd Gethin, sy'n gefnogwr pêl-droed brwd, ei fod yn falch o weld gêm y merched wedi datblygu gymaint.
"Ni'n mynd i'r stadiwm ac yn gweld torf dda ar gyfer bob gêm a mae'n siwr fydd y twrnament yma'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw."
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.